Dyddiad cyhoeddi
Mae Gunny, neu Gunwant Rathour i roi ei enw llawn, wedi cael ei gyflogi gan Gyngor Caerdydd fel Swyddog Datblygu Ailgylchu ers 5 mlynedd. Mae hefyd yn aelod o GMB.
Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF): rhoi gweithwyr ar y llwybr cywir

Mae Gunny yn gweithio gyda chontractwyr i ailgylchu gwastraff cyhoeddus, gan helpu i gyrraedd targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn goruchwylio Depo Rheoli Gwastraff y Cyngor, gan sicrhau bod Cyngor Caerdydd yn dod yn fwy ecogyfeillgar, ac yn gweithio tuag at Darged y Ddraig Werdd, ar ôl cyflawni gradd Lefel 3 eisoes. Fodd bynnag, mae trosiant staff a thargedau ailgylchu uwch wedi arwain at fwy o waith yn cael ei wneud gan lai o staff.

Y tu allan i'r gwaith mae Gunny yn ymarfer Taekwondo ac mae'n aelod gweithgar o gymuned Sikhaidd Caerdydd. Mae'n mynychu'r deml yn aml ac yn falch o fod yn aelod o grŵp mor glos.

Cychwyn ar y daith ddysgu

Roedd Gunny eisiau ymgeisio am brentisiaeth ond nid oedd ganddo'r cymwysterau yr oedd eu hangen arno. Gofynnodd am gymorth gan ei Gynrychiolydd Dysgu Undeb (ULR), Anne Newbury.

“Roedd ein cynrychiolydd yn wych; hi wnaeth fy roi ar ben ffordd ar ddechrau'r siwrnai ddysgu hon. Siaradais ag Anne am fy opsiynau a’m rhoi mewn cysylltiad â Sue Da’Casto, Rheolwr Prosiect Unite WULF, a Michael Wilson o GMB.”

Ar hyn o bryd mae'n gweithio tuag at gymhwyster Nwy Diogel, gyda chefnogaeth y Gronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) a chymorth traws-undeb. 

Roedd Gunny wedi ystyried dilyn y cwrs sawl gwaith o'r blaen, ond gyda chyllid WULF yn ei helpu i arbed bron i £1000, penderfynodd gofrestru.

“Mae cofrestru ar y cwrs wedi bod yn wych, mae wedi fy helpu’n feddyliol yn fawr. Rwyf bob amser wedi bod yn eithaf diamynedd yn ystod fy amser rhydd, gyda'r nos ac ar benwythnosau, ond mae hyn wedi rhoi rhywbeth i mi ei wneud a chanolbwyntio arno. Rwy'n mynd yn aflonydd pan fydd y plant wedi mynd i'r gwely felly mae dysgu sgil wedi fy nghadw'n brysur.

“Diolch i WULF ac arweiniad fy ULR, gallaf helpu nid yn unig fy hun ond y gymuned ehangach. Rwy’n aelod gweithgar yn y gymuned Sikhaidd, ac mae ein moesau yn nodi y dylem helpu os oes rhywun mewn angen.”

Rhannu WULF yn y gweithle

Mae Gunny yn awyddus i ledaenu'r gair am WULF a chael ei gydweithwyr i gymryd rhan.

“Mae prosiect WULF yn hynod bwysig gan fod yna lawer o bobl allan yna a fydd yn elwa o hyn. Gall staff rheng flaen gael trosiant uchel am lawer o resymau ac mae WULF yn rhoi sgiliau a chymwysterau ychwanegol i bobl y gallant ddisgyn yn ôl arnynt neu eu defnyddio i symud ymlaen yn y dyfodol.

“Rwy’n credu y dylid ei hysbysebu’n fwy. Rwyf wedi siarad â phobl eraill yn y gweithle ac roeddent yn synnu at y cyllid sydd ar gael.

“Rwy’n gobeithio yn y dyfodol i ddatblygu fy ngyrfa a defnyddio’r achrediad Nwy Diogel. Rwy'n berson pobl ac edrychaf ymlaen at allu gweithio'n fwy uniongyrchol gyda'r cyhoedd."

Newid agweddau at aelodaeth undeb

Fel llawer o weithwyr, ni sylweddolodd Gunny y gwerth llawn y mae undebau llafur yn ei gynnig i'r gweithle.

“Roeddwn i bob amser yn meddwl bod undebau yno i'ch helpu chi gydag achosion disgyblu neu drafferth yn y gweithle, hyd yn oed materion iechyd a diogelwch. Ond mae’n llawer iawn mwy na hynny, mae cymaint mwy o fuddion ar gael ichi os ydych chi mewn undeb na dim ond cefnogaeth mewn achwyniad neu achos disgyblu.

“Mae GMB wedi fy helpu i gael cyllid ar gyfer fy nghwrs ac wedi rhoi arweiniad imi ar ddatblygu fy ngyrfa. Mae gan fy nghynrychiolydd dysgu undeb y wybodaeth a’r cysylltiadau i’m rhoi ar y llwybr cywir.”

Darganfyddwch fwy: 

Canfyddwch sut y gallwch chi elwa o Sut i gael hyfforddiant WULF yn ystod y coronafeirws

Dewch o hyd i gyrsiau ar-lein ar gyfer cynrychiolwyr yng Nghymru

Ymaelodwch ag undeb heddiw