Newid! yn cyrraedd gweithwyr ifanc yn Abertawe
This event has ended
Manylion y digwyddiad
Cost
Free
Trosolwg

Mae Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Ifanc TUC Cymru yn estyn allan at weithwyr ifanc ym maes lletygarwch a manwerthu i siarad am hawliau yn y gwaith a manteision ymuno ag Undeb Llafur.

Yn cyflwyno Newid!: Ar ôl llwyddiant ein cynllun peilot Patrôl Haf Norwy yr haf diwethaf, mae’r Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Ifanc nawr yn sefydlu ein fersiwn ein hunain, sef Newid!. Yn ystod y sesiwn, bydd undebwyr llafur mewn grwpiau bach yn cyfweld gweithwyr ifanc ym maes lletygarwch a manwerthu i holi am eu profiadau yn y gwaith. Yna, bydd y data sy’n cael ei gasglu o Newid! yn cael ei ddefnyddio i siapio ein gwaith ymgyrchu a bydd yn codi materion ar ran gweithwyr ifanc yn ein mudiad, a thrwy bartneriaeth gymdeithasol.

Bydd ein sesiwn Newid! gyntaf ar gyfer 2024 yn cael ei chynnal 3 Chwefror yn Abertawe. Bydd sawl sesiwn yn cael ei chynnal drwy gydol y diwrnod. Drwy gofrestru ar gyfer hyn, byddwch hefyd yn cael eich gwahodd i fynychu'r hyfforddiant canlynol:

-    Hyfforddiant gyda HMRC ar Gydymffurfio â'r Isafswm Cyflog
-    Trafod sgyrsiau anodd
-    Briffio ar weithwyr ifanc ym maes lletygarwch a manwerthu

I gofrestru ar gyfer y gweithgaredd, defnyddiwch y ffurflen yma: https://forms.office.com/e/rC46Kjyxtp

Ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill, e-bostiwch: crees@tuc.org.uk
I gael rhagor o wybodaeth am yr ysbrydoliaeth y tu ôl i Newid!, darllenwch ein blog ar y Model Patrol Haf Norwyaidd: Gweithwyr ifanc o Gymru yn mynd i'r afael â Patrol Haf Norwyaidd | TUC

                                                                                   
Hygyrchedd

Rydym am i bawb sy’n mynychu digwyddiadau’r TUC gael profiad diogel a phleserus. Os oes angen unrhyw addasiadau neu gymorth arnoch i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn, rhowch wybod i ni.