Estyn allan – mynd i’r afael ag unigrwydd wrth weithio gartref

Awdur
Dyddiad cyhoeddi
Mae hi’n Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl wythnos yma, ac wrth barhau i hyrwyddo iechyd meddwl da i bawb, eleni mae’r ffocws ar fynd i’r afael ag unigrwydd.

Mae unigrwydd yn effeithio ar bob un ohonom ar ryw adeg ac nid yw’n gyfyngedig i ddemograffeg benodol. Yn ei adroddiad newydd, mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl yn taflu goleuni ar achosion, effeithiau a ffactorau risg unigrwydd, ac yn cynnig atebion ymarferol i ddelio ag ef.

Un o’r pwyntiau pwysicaf a godwyd yn yr adroddiad yw sut rydym yn gyffredinol yn gor-amcangyfrif effeithiau oedran a lleoliadau gwledig ar unigrwydd. Er bod unigrwydd yn gallu creu’r ddelwedd o rywun yn byw ar ei ben ei hun, yn bell o fywyd dinesig, heb neb i gysylltu â nhw, gall hefyd effeithio ar bobl mewn amgylcheddau trefol a phobl sydd â llawer o gysylltiadau cymdeithasol a rhwydweithiau teuluol.

Yn ystod pandemig Covid, daeth gweithio gartref yn rhan annatod o fywydau llawer ohonom. Wrth i ni symud y tu hwnt i’r cyfnodau clo, mae gweithio gartref wedi aros yn rhan o fywyd gwaith, yn ogystal â’r holl fanteision a’r problemau sy’n gysylltiedig â hynny.

Un o’r heriau iechyd meddwl mwyaf amlwg sy’n deillio o weithio gartref yw unigrwydd. Mae cael eich ynysu oddi wrth gydweithwyr a cholli’r cyfle i ryngweithio’n gymdeithasol yn gallu amharu arnoch dros amser. Gall treulio diwrnodau hir a diwahaniaeth mewn adeilad sy’n gartref ac yn weithle i chi hefyd amharu arnoch.

Er bod rhai cyflogwyr wedi cofleidio gweithio gartref gan ei fod yn hyblyg, nid yw hyn bob amser yn blaenoriaethu lles gweithwyr.

Os yw eich cyflogwr wedi caniatáu i chi weithio gartref, nid yw hyn yn golygu nad ydynt yn parhau i fod yn gyfrifol am eich lles. Mae eu dyletswydd i ofalu amdanoch chi fel gweithiwr yr un fath p’un ai a ydych chi mewn swyddfa neu’n gweithio gartref.

Mae llawer o bethau y gellir eu gwneud i fynd i’r afael ag unigrwydd wrth weithio gartref:

· Cadw mewn cysylltiad – dylai cyflogwyr sicrhau bod staff sy’n gweithio o bell yn cael cyswllt rheolaidd â’u tîm. Nid yw hyn yn golygu micro-reoli neu fel rhan o gyfarfodydd ffurfiol, ond dylid bod ymdrech gyson i sicrhau bod gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys a’u cysylltu â’u cydweithwyr a’u sefydliad.

· Cyfarfodydd wyneb yn wyneb a dyddiau taro mewn – os yw gweithwyr yn gweithio gartref yn rheolaidd, dylai cyflogwyr hwyluso diwrnodau taro mewn neu gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb o bryd i’w gilydd er mwyn i staff ddod at ei gilydd fel grŵp.

· Cyswllt cymdeithasol – Wrth gysylltu â chydweithwyr, mae’n bwysig nad yw’n ymwneud â gwaith yn unig. Mae sgyrsiau mewn swyddfa, amser paned ac amser cinio gyda phawb yn treulio amser gyda’i gilydd yn cael eu colli pan fydd rhywun yn gweithio gartref. I bontio’r bwlch hwn, beth am drefnu cyfarfodydd cymdeithasol gyda chydweithwyr, neu ymrwymo i gymryd amser pan fyddwch gartref i gysylltu â ffrindiau a chydweithwyr fel rhan o’ch trefn reolaidd bob dydd.

Ni ddylai lles personol ddioddef oherwydd bod rhywun yn gweithio gartref. Nid yw’n gyfaddawd rhwng lles a'r hyblygrwydd y mae gweithio gartref yn ei gynnig. Ni ddylai cyflogwyr ei drin fel anfantais anochel, anfaddeuol i’r dull hwnnw o weithio.

Os ydych chi’n poeni am eich sefyllfa waith, neu sefyllfa cydweithiwr, siaradwch â’ch undeb heddiw.

Os ydych chi eisiau dysgu mwy am iechyd meddwl yn y gwaith, lawrlwythwch ein pecyn cymorth Iechyd Meddwl. Mae’n cynnwys gwybodaeth a chanllawiau defnyddiol i’ch helpu i hyrwyddo iechyd meddwl a lles da yn eich gweithle.