Eich hawliau wrth ddychwelyd i’r gwaith ar ôl cael babi

Awdur
Dyddiad cyhoeddi
Ar Sul y Mamau 2021, ro’n i'n teimlo wedi fy llethu'n llwyr. Roedd fy efeilliaid yn wythnos oed, ac ro’n i wedi blino’n lân wrth ddysgu sut i ofalu am ddau berson bychan. Cafodd fy mywyd arferol bob dydd ei droi ben i waered, ac roedd fy hunaniaeth wedi newid yn ddramatig hefyd. Y peth olaf ar fy meddwl oedd sut deimlad fyddai dychwelyd i'r gwaith.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, rydw i wedi cwrdd â nifer o famau newydd eraill mewn dosbarthiadau a chylchoedd chwarae lleol. Mae’r sgwrs yn dechrau fel arfer gyda’r cwestiwn cyntaf hollbwysig hwnnw am y babi – “beth yw eu hoedran nhw”? “sut maen nhw’n cysgu?”, “ydych chi wedi dechrau rhoi bwyd solet eto?”. Yna rydych chi’n cofio mai cwrteisi yw dangos diddordeb yn y fam rydych chi’n siarad â nhw yn ogystal â’u babi.

Rydych chi’n sôn am eich swydd – sut mae’n rhan o’ch hunaniaeth a’ch bod chi’n colli ‘sgwrs reolaidd gydag oedolyn’. Ond pan fyddwch yn sôn am ddychwelyd i'r gwaith ar ôl absenoldeb mamolaeth, mae golwg o bryder yn dod i wyneb rhai mamau. Mae cryn dipyn i feddwl amdano a dydyn ni ddim wastad yn gwybod beth mae gennym hawl iddo. Dyma rai o'r cwestiynau rydw i wedi'u trafod gyda fy ffrindiau sy’n famau newydd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

A fydd yn rhaid i fi roi’r gorau i fwydo ar y fron ar ôl dychwelyd i’r gwaith?

Ni ddylai dychwelyd i’r gwaith fod yn rheswm i roi’r gorau i fwydo ar y fron. Ac mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn dweud ei fod yn anghyfreithlon i weithle wahaniaethu yn erbyn menyw oherwydd ei bod yn bwydo ar y fron. O dan ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch, mae'n ofynnol i'ch cyflogwr ddarparu cyfleusterau gorffwys digonol i chi ac i sicrhau eich bod chi a’ch babi ddim yn agored i risgiau penodol yn y gweithle.

Nid oes hawl statudol i gael amser i ffwrdd i dynnu llaeth neu fwydo babi ar y fron yn y gweithle neu am gyfleusterau i dynnu a storio llaeth. Serch hynny, bydd nifer o gyflogwyr yn cynnig hyn os gofynnwch neu'n caniatáu amser i chi fynd adref i fwydo neu dynnu llaeth. Os bydd eich cyflogwr yn gwrthod darparu ar gyfer eich anghenion fel mam sy’n bwydo ar y fron, dylech siarad â’ch cynrychiolydd undeb neu ofyn am gyngor cyfreithiol oherwydd efallai y gallwch ddod ag achos o wahaniaethu ar sail rhyw yn eu herbyn.

Ddim yn aelod o undeb eto? Ymunwch ag undeb heddiw

Os ydych chi dal ar absenoldeb mamolaeth ac yn ystyried ymuno ag undeb, efallai y gallwch gael disgownt neu aelodaeth am ddim.

Beth os oes gen i bryderon iechyd a diogelwch ynglŷn â dychwelyd i’m gweithle?

Mae yna risgiau penodol iawn yn y gweithle i fenywod sy’n feichiog neu newydd roi genedigaeth. Mae modd atal y risgiau hyn, ac mae’n rhaid i’ch gweithle gadw at y canllawiau fel nad oes rhaid i chi godi, troi, treulio amser hir yn eistedd neu’n sefyll neu nad ydych yn agored i gemegau peryglus, gwres gormodol, clefydau heintus (gan gynnwys Covid-19), straen, trais neu ormod o sŵn.

Darllenwch ein canllawiau beichiogrwydd ar gyfer cynrychiolwyr iechyd a diogelwch

Sut rydw i’n gofyn am weithio’n hyblyg pan fyddai’n dychwelyd i’r gwaith?

Efallai y byddwch am leihau neu amrywio eich oriau gwaith i addasu ar gyfer eich cyfrifoldebau gofal plant. Mae gan bob gweithiwr sydd â 26 wythnos neu fwy o wasanaeth gyda'u cyflogwr yr hawl i ofyn am weithio’n hyblyg. Mae gan eich cyflogwr ddyletswydd i ystyried cais yn rhesymol.

Fe allan nhw wrthod eich cais am un o wyth o resymau busnes. Os bydd eich cyflogwr yn gwrthod eich cais, efallai y byddwch yn gallu dod ag achos o wahaniaethu ar sail rhyw anuniongyrchol yn eu herbyn. Mae mamau yn fwy tebygol o gael eu rhoi dan anfantais oherwydd y gofyniad i weithio oriau hir neu sefydlog.

Canfu arolwg diweddar y TUC fod hanner y mamau sy’n gweithio ddim yn cael yr hyblygrwydd maen nhw’n gofyn amdano. Credwn fod hynny’n anghywir. Os ydych yn cytuno, llofnodwch ein deiseb i ofyn am hawliau cyfreithiol cryfach tuag at weithio’n hyblyg.

Ydw i’n gallu newid dyddiadau fy absenoldeb mamolaeth ar ôl i fi ei ddechrau?

I hysbysu’ch cyflogwr na fyddwch yn defnyddio eich hawl mamolaeth llawn, rhaid i chi roi hysbysiad ysgrifenedig iddyn nhw o leiaf wyth wythnos cyn y dyddiad y bwriadwch iddo ddod i ben. Mae’n cael ei alw’n ‘hysbysiad cwtogi’.

Os wnewch chi roi hysbysiad cwtogi i’ch cyflogwr cyn yr enedigaeth ond yn newid eich meddwl ac yn penderfynu eich bod eisiau mwy o absenoldeb mamolaeth, gallwch dynnu’r hysbysiad cwtogi yn ôl o fewn chwe wythnos i’r enedigaeth.

Oes rhaid i fi wneud diwrnodau Cadw mewn Cysylltiad?

Na, mae diwrnodau Cadw mewn Cysylltiad yn gwbl wirfoddol. Ni all eich cyflogwr wneud i chi wneud unrhyw waith yn ystod eich absenoldeb. Gallwch weithio hyd at ddeg diwrnod ‘Cadw mewn Cysylltiad’ yn ystod eich absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu heb i hynny ddod â’ch absenoldeb mamolaeth i ben. Gellid defnyddio diwrnodau Cadw mewn Cysylltiad i fynychu diwrnod hyfforddiant, cyfarfod staff neu i wneud diwrnod llawn o waith. Bydd unrhyw beth a wnewch ar ddiwrnod Cadw mewn Cysylltiad yn cyfri fel diwrnod llawn o waith, hyd yn oed os mai dim ond am ychydig oriau roeddech mewn cyfarfod neu wedi gwneud hanner diwrnod o waith.

A fyddai’n colli’r cyfle am ddyrchafiad oherwydd fy mod ar absenoldeb mamolaeth?

Tra ar absenoldeb mamolaeth, rhaid i'ch cyflogwr beidio â gwahaniaethu yn eich erbyn oherwydd eich bod yn cymryd absenoldeb. Er enghraifft, rhaid iddyn nhw roi gwybod i chi am gyfleoedd dyrchafiad sy'n codi a rhaid iddyn nhw sicrhau eich bod yn cael eich hysbysu'n briodol ac yn cael eich trin yn deg yn ystod unrhyw ddiswyddiadau neu broses ailstrwythuro sy'n effeithio arnoch chi.

Darllenwch ein canllaw llawn ar Absenoldeb a Thâl ar gyfer Mamau

Ydy fy nghyflogwr yn gallu newid fy swydd pan fydda i ar absenoldeb mamolaeth?

Os ydych yn dychwelyd ar ôl 26 wythnos neu lai o absenoldeb mamolaeth (neu gyfuniad o absenoldeb mamolaeth ac Absenoldeb Rhiant a Rennir), mae gennych hawl i ddychwelyd i'r un swydd oedd gennych cyn i chi fynd ar absenoldeb.

Os ydych yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl mwy na 26 wythnos o absenoldeb (neu gyfuniad o absenoldeb mamolaeth ac Absenoldeb Rhiant a Rennir), mae gennych hawl i ddychwelyd i'r un swydd oni bai y gall eich cyflogwr ddangos nad oedd yn rhesymol ymarferol i fod wedi cadw'r swydd yn agored i chi. Yn yr achos hwnnw, mae gennych hawl i ddychwelyd i swydd addas a phriodol ar delerau ac amodau nad ydyn nhw’n llai ffafriol.

Beth sy’n digwydd pan fydda i nôl yn y gwaith ac mae fy mabi’n sâl?

Fel rhiant sy’n gweithio, mae gennych hawl statudol i gael amser o’r gwaith ar gyfer nifer o sefyllfaoedd, gan gynnwys os yw eich plentyn yn sâl. Nid oes rhaid i’r amser hwnnw gael ei dalu. Fodd bynnag, efallai y bydd eich cyflogwr yn cytuno i’w dalu neu gallan nhw roi swm penodol o absenoldeb gofalwyr â thâl neu absenoldeb tosturiol y gellir eu defnyddio yn yr amgylchiadau hyn.

Mae TUC Cymru yn ymgyrchu am 10 diwrnod o absenoldeb gofalwyr â thâl i bob gweithiwr o’u diwrnod cyntaf yn y swydd.

Pwy all fy helpu i siarad â fy nghyflogwr ynglŷn â dychwelyd i’r gwaith ar ôl cael babi?

Os ydych mewn undeb, gallan nhw eich helpu i siarad â'ch cyflogwr am unrhyw beth rydych yn poeni amdano. Os nad ydych mewn undeb, gallwch ddod o hyd i’r undeb iawn drwy ddefnyddio ein adnodd canfod undeb.

Mae gan undebau llafur hanes balch o ymgyrchu i wneud gweithleoedd yn fwy diogel i fenywod beichiog a menywod sy’n bwydo ar y fron. Mae undebau hefyd wedi bod yn allweddol wrth herio cyflogwyr, drwy sicrhau bod menywod beichiog a menywod sy’n bwydo ar y fron yn gallu parhau mewn gwaith sy’n cefnogi, yn gwarchod ac yn ddiogel.