Chwalu'r rhagfarn: rôl menywod ym mudiad undeb llafur heddiw

Dyddiad cyhoeddi
Pe baech yn cau eich llygaid ac yn meddwl am yr undebwr llafur nodweddiadol, mae’n ddigon posib y byddech chi’n dychmygu delwedd ystrydebol - dyn gwyn canol oed.

Mae’n wir bod gan ein mudiad lawer o aelodau sy’n edrych fel hyn, ac maent yn aelodau pwysig a gwerthfawr. Ond rydyn ni’n llawer mwy na hynny.

Mae aelodaeth yr undeb llafur wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf, ac ers dechrau’r 2000au, mae ein mudiad wedi cael mwy o fenywod yn aelodau na dynion. Mae tystiolaeth ystadegol ddiweddaraf yr undeb llafur gan yr Adran Busnes, Arloesi a Menter yn dangos bod “cyfran y gweithwyr a oedd yn aelodau o undeb llafur ar ei huchaf ymhlith pobl Ddu neu Ddu Prydeinig (26.9%), ac yna pobl sy’n ystyried eu hunain yn gymysg (24.1%) ac yna pobl wyn (24.0%).”

Fel undebwyr llafur, mae ein haelodau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig wedi arloesi o ran chwalu hiliaeth systemig a symud gweithleoedd tuag at wrth-hiliaeth.

Mae ein haelodau Anabl yn tynnu sylw at y gwahaniaethau ar sail gallu sy’n bresennol mewn bywyd gwaith bob dydd, ac maent yn ein dysgu sut i ddefnyddio’r model cymdeithasol o Anabledd i roi mynediad i bawb.

Mae undebau llafur yn cynrychioli gweithwyr ym mhob sector gwaith sy’n bodoli bron. Ac eto, rydyn ni’n aml yn cael ein peintio mewn ffordd dau ddimensiwn sy’n ei gwneud yn anodd i’r cyhoedd ddeall yn iawn pa mor bwysig yw undeb llafur i bobl sy’n gweithio.

Nid yw ymuno ag Undeb Llafur yn ymwneud â gwasanaeth aelodaeth sy’n bodoli pan fydd ei angen arnoch. Does dim dwywaith y byddwn ni yno i chi, ond mae undebau llafur yn golygu llawer mwy na hynny. Rydyn ni’n fudiad o bobl sy’n cydnabod y strwythurau grym anghyfartal sy’n bodoli. Rydyn ni’n credu mewn cefnogi eraill yn y gweithle, yn y gymuned ac mewn bywyd cyhoeddus.  Rydyn ni’n credu bod gweithio gyda’n gilydd yn ein gwneud yn gryfach, ac mae gennym awydd i weld cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb.

Dweud diolch wrth fenywod sy’n undebwyr llafur ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, rydyn ni eisiau tynnu sylw at waith y menywod sy’n aelodau, yn gynrychiolwyr ac yn swyddogion a diolch i chi i gyd am y gwaith anhygoel rydych chi’n ei wneud. Rydyn ni’n gwybod bod y pandemig wedi bod yn arbennig o anodd i fenywod – sy’n fwy tebygol o weithio mewn rolau iechyd, gofal ac addysg rheng flaen, yn fwy tebygol o ddal covid na dynion, ac yn fwy tebygol o gael eu heffeithio’n ariannol gan golli incwm a chael eu rhoi ar y ffyrlo.

Ac eto, rydych chi wedi negodi telerau ac amodau ar gyfer gweithwyr, wedi helpu’r rheini sy’n dianc rhag cam-drin domestig, wedi bargeinio cytundebau, wedi cynrychioli gweithwyr, wedi negodi addasiadau rhesymol ar gyfer gweithwyr Anabl ac wedi ymgyrchu dros bynciau fel bylchau cyflog rhyw, hil ac anabledd a’r menopos. Mae ein cynrychiolwyr wedi brwydro dros aelodau’r undeb, wedi crio gydag aelodau’r undeb, wedi gofalu am aelodau’r undeb, wedi dathlu gydag aelodau’r undeb ac wedi codi’r diwrnod wedyn a gwneud hyn i gyd eto.

Felly, ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod eleni, dyma ein diolch i chi, menywod ein mudiad. Rydyn ni’n eich gweld chi, yn eich gwerthfawrogi chi ac rydyn ni’n eich parchu. Rydyn ni’n ddiolchgar i chi, a byddwn bob amser yn eich cefnogi ac yn gweithio gyda chi i chwalu’r rhagfarnau sy’n bodoli a gwneud y gweithle yn lle gwell i bob un ohonom.

Heddiw, gallwch ddefnyddio gwerthoedd eich undeb llafur i fynnu gwell gan gwmnïau sy’n rhoi'r argraff o gydraddoldeb rhwng y rhywiau ond sy’n methu â chefnogi’r menywod yn eu gweithle.

Llwytho’r pecyn cymorth #MynnuGwell i lawr heddiw.

Mae’n cynnwys templed e-bost y gallwch ei ddefnyddio i ateb negeseuon e-bost marchnata rydych chi’n eu cael ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, yn ogystal â negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol i annog pobl eraill i weithredu.