O 11 Chwefror ymlaen, bydd TUC Cymru yn nodi Wythnos Caru Undebau, i ddathlu’r gwaith gwerthfawr mae undebau llafur yn ei wneud bob dydd.
Heart Unions Banner

Ar hyd a lled Cymru mae undebau’n gwneud yn siŵr bod pobl yn well eu byd yn eu gwaith, yn gwarchod swyddi, yn ymgyrchu dros gyflogau uwch, ac yn helpu gweithwyr Cymru i fanteisio ar ddysgu a hyfforddiant.

Rydym am weld gweithwyr yn cael gwell bargen drwy sicrhau bod ganddynt lais yn eu gweithle.

Mae gwaith yn fwy anffurfiol erbyn hyn, sy’n golygu bod gweithwyr ar gyflogau isel mewn sefyllfa arbennig o fregus. Mae contractau dim oriau neu oriau isel yn arferol erbyn hyn. Dyma’r sefyllfa mae llawer gormod o bobl ynddi heddiw.

Dywed y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod dros 200,000 o weithwyr Cymru wedi’u dal mewn swyddi sy’n cynnig dim neu fawr ddim sicrwydd – gwaith asiantaeth sy’n talu cyflogau isel, hunangyflogaeth ffug neu gontractau dim oriau.

Nid yw 14% o’r bobl sy’n gweithio yng Nghymru mewn sefyllfa i reoli eu bywydau – maent yn gorfod delio â phatrymau shifftiau sy’n newid yn barhaus a heb sicrwydd y bydd ganddynt waith o gwbl.

Mae cenhedlaeth o weithwyr ifanc wedi ymuno â’r farchnad waith gyda disgwyliadau isel o ran gwaith, gan gredu na allant newid dim am delerau eu cyflogaeth a heb y gallu i ymddiried yn eu cydweithwyr.

Mae’r defnydd o gontractau dim oriau’n uwch mewn sectorau heb lawer o bresenoldeb gan undebau neu gytundebau cydfargeinio.

Dyna pam mae TUC Cymru yn brwydro i gael gwared ar y contractau hyn o’r byd gwaith am eu bod yn cymryd mantais ar bobl. Gwyddom fod pobl yn haeddu gwell – ac mae arnynt angen ffordd o wella eu bywydau gwaith. Dyna pam rydym yn annog gweithwyr i ymuno ag undeb llafur a helpu i wneud gwaith yn well i bawb.

Gyda’n gilydd gallwn wneud Cymru’n Genedl Gwaith Teg.

Cliciwch yma i ddod o hyd i’r undeb gorau i chi.

TUC Cymru yw llais Cymru wrth ei gwaith, felly hoffem glywed gennych chi. Anfonwch fideo neu neges i egluro pam eich bod yn #caruundebau.

Facebook – https://www.facebook.com/WalesTUCCymru/

Twitter - https://twitter.com/walestuc