Mae effeithiau Covid-19 ar rywedd yn cyd-fynd â nodweddion eraill fel oed, ethnigrwydd, anabledd, dosbarth a statws mudo. Mae hyn yn arwain at effeithiau gwahanol i wahanol grwpiau o fenywod. Effeithir yn arbennig ar famau sengl gan fod eu sefyllfa economaidd yn aml dan fwy o anfantais ac, mewn rhai achosion, mae eu sefyllfa ariannol yn ansicr gan eu bod yn dibynnu ar un ffynhonnell incwm. Ni fydd menywod mudol sydd wedi colli eu swyddi ac sy’n ddarostyngedig i’r amod dim mynediad at arian cyhoeddus yn gallu cael mynediad at y system fudd-daliadau. Mae hyn yn golygu nad oes gan y menywod hyn a’u teuluoedd y modd i dalu eu costau tai na’r modd i fwydo eu teuluoedd. Mae’n eu rhoi mewn perygl o fod mewn tlodi.
Mae llawer o undebau wedi tynnu cyfyngiadau o ran aelodaeth ac maen nhw'n rhoi cymorth cyfreithiol o'r diwrnod cyntaf y bydd rhywun yn ymuno. Ymunwch ag undeb heddiw.
Gweithwyr hanfodol yw gweithwyr y mae eu gwaith yn hanfodol i ymateb i’r coronafeirws yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, athrawon, pobl sy'n gweithio mewn archfarchnadoedd a llawer mwy o alwedigaethau. Mae tua 490,000 o weithwyr hanfodol yng Nghymru, sef tua thraean o'r gweithlu. Mae menywod yn fwy tebygol o fod yn weithwyr hanfodol na dynion. Mae 40% o'r holl ferched mewn cyflogaeth yng Nghymru yn weithwyr hanfodol, o'i gymharu â 28% o ddynion.
Yng Nghymru, menywod a'r rhai o gefndir lleiafrifol ethnig yw'r grwpiau o weithwyr sydd fwyaf tebygol o gael eu cyflogi mewn galwedigaethau sydd â'r risg uchaf.
Mewn rhai grwpiau ethnig mae cyfran uwch fyth o fenywod. Roedd tua dwy ran o dair (66%) o weithwyr hanfodol o gefndir Asiaidd heblaw Indiaidd, Pacistanaidd, Bangladeshaidd a Tsieineaidd yn fenywod.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllaw ym mis Mawrth 2020 ar y mathau o fusnesau a ddylai aros ar gau yn ystod camau cychwynnol y pandemig coronafeirws. Roedd busnesau fel tafarndai, bwytai a chanolfannau hamdden wedi’u cynnwys yn y canllawiau hyn.
Yn 2019 roedd tua 230,000 o bobl, tua 16% o gyfanswm y gweithlu, wedi’u cyflogi mewn diwydiannau yng Nghymru a gafodd orchymyn i gau ar ôl y pandemig coronafeirws cychwynnol. Mae menywod, pobl ifanc a gweithwyr o gefndir lleiafrifol ethnig yn fwy tebygol o gael eu cyflogi yn y diwydiannau hynny.
Roedd mwy o fenywod (55%) na dynion (44%) yn gweithio mewn diwydiannau a orfodwyd i gau. Mae hynny'n cyfateb i 18% o'r holl weithwyr benywaidd yng Nghymru o'i gymharu â 14% o'r holl weithwyr gwrywaidd.
Mae gweithwyr benywaidd iau (y rhai dan 25 oed) yn cyfrif am 12% o'r holl ferched sy'n weithwyr yng Nghymru, ond yn cyfrif 28% o'r holl rai mewn diwydiannau a orfodwyd i gau.
Yng Nghymru, mae pobl hunangyflogedig yn fwy tebygol o fod yn ddynion.
Mae Adran 44 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 yn rhoi hawl i weithwyr adael gweithle sy'n anniogel a gwrthod dychwelyd.
Mae sawl enghraifft o ganghennau undebau yn cerdded allan gan ddyfynnu’r ddeddf hon.
Os ydych chi’n teimlo bod eich gweithle’n anniogel oherwydd Covid-19, dylech gysylltu â thîm cyfreithiol eich undeb am gyngor ar frys.
Deddf Cydraddoldeb 2010 yw’r darn o ddeddfwriaeth allweddol sy’n ymdrin â gwahaniaethu yn y gweithle. Mae’n gwarchod gweithwyr rhag gwahaniaethu ar sail oedran, rhywedd, anabledd, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, neu ailbennu rhywedd.
Mae gan gynrychiolwyr undebau ran bwysig i'w chwarae o ran:
I gael rhagor o wybodaeth am sut gall y Ddeddf Cydraddoldeb amddiffyn gweithwyr, ewch i weld ein canllaw i gynrychiolwyr ar Covid-19 ac addasiadau rhesymol.
Darllenwch sut mae trafod gyda chyflogwyr ac amddiffyn y gweithlu yn ein canllaw i gynrychiolwyr coronafeirws.
Ydych chi’n poeni nad ydych chi’n gallu aros yn ddiogel rhag y coronafeirws yn eich gweithle? Dywedwch wrthym am eich profiadau drwy ddefnyddio ein ffurflen datgelu.
Byddwn yn rhannu’r wybodaeth am eich pryderon iechyd a diogelwch yn ddienw â Llywodraeth Cymru a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Os byddwch yn rhoi caniatâd i rannu eich manylion, byddwn hefyd yn adrodd y mater i’ch undeb llafur ar eich rhan.
Llenwch ein ffurflen pryderon am iechyd a diogelwch
Mae undebau'n helpu pobl i ddod ynghyd, yn atal pobl rhag cael eu trin yn annheg a chael gwell bargen gan eu cyflogwyr.
Maen nhw yno yn ystod cyfnodau anodd – yn rhoi cyngor cyfreithiol am ddim os oes angen. Gall aelodau o undeb fanteisio ar lawer o gynigion a gostyngiadau hefyd. A phob blwyddyn, bydd undebau’n helpu dros 200,000 o bobl i gael gafael ar y cyfleoedd dysgu a hyfforddi sydd eu hangen arnyn nhw i symud ymlaen yn eu gyrfa.
Onid ydy hi’n amser i chi ymuno ag undeb?