Roedden ni'n anelu at:
• Rhoi sgiliau trefnu i weithwyr ifanc
• Eu cefnogi i ddod yn fwy gweithgar yn eu gweithleoedd a’u hundebau
• Dangos iddyn nhw sut i fynd â’u syniadau a’u technegau trefnu i’r mudiad undebau llafur ehangach.
Daeth ein grŵp cyntaf o ddeuddeg gweithiwr ifanc o amrywiaeth o undebau llafur. Roedd yr undebau wedi ymrwymo i'r Academi, gan gydnabod manteision y rhaglen i'r unigolion ac i'r undebau llafur fel ei gilydd.
Cynhaliwyd yr Academi dros chwe sesiwn wyneb yn wyneb. Roedd dysgu ffurfiol yn ymwneud â strwythurau undebau llafur a thechnegau trefnu. Ond fe wnaethom sicrhau hefyd bod lle i'r gweithwyr ifanc adeiladu perthnasoedd, cymdeithasu, rhannu profiadau, a datblygu syniadau ac ymgyrchoedd.
Roedden ni am i’r cyfranogwyr adael yr Academi nid yn unig gyda mwy o wybodaeth, ond hefyd gyda mwy o duedd i holi a chwestiynu.
Felly, fe wnaethom gynllunio a chyflwyno’r rhaglen mewn partneriaeth â Jarrow Insights a Trademark Belfast. Mae’r ddau sefydliad yn gweithio ochr yn ochr â’n mudiad, ond maen nhw hefyd yn barod i’w herio. Agorodd hyn y drws i nifer o sgyrsiau onest am brofiadau’r cyfranogwyr o fewn y mudiad. Yn ogystal, cyflwynwyd y gweithwyr ifanc i fodelau trefnu gwahanol i’r rhai yr oedden nhw wedi dod ar eu traws o’r blaen, mewn meysydd fel cydlyniant cymunedol a threfnu digidol.
Roedd addysg wleidyddol yn ganolog i'r Academi. Oherwydd bod deall pam mae pethau'n digwydd yn rhoi sylfaen gryfach inni ar gyfer penderfynu sut rydym yn trefnu i'w newid.
Archwiliodd y rhaglen economi wleidyddol, argyfwng ariannol 2008, hanes a datblygiad cyfalafiaeth ac effaith neo-ryddfrydiaeth ar ein gweithleoedd, gwasanaethau cyhoeddus a chymunedau.
Nid rhai academaidd yn unig oedd y trafodaethau hyn. Fe wnaethon nhw helpu cyfranogwyr i gysylltu'r pwysau y mae gweithwyr yn eu profi bob dydd â'r strwythurau economaidd a gwleidyddol ehangach sy'n llunio bywyd gwaith.
Fe wnaethon ni drafod sut mae ein heconomi'n gweithredu, pam y gellir camfanteisio ar weithwyr ynddi a sut mae'r camfanteisio hwnnw wedi newid yn ddiweddar.
Ond ni ddylai addysg wleidyddol ddod i ben gyda deall beth sy'n bod. Dylai hefyd roi'r hyder i bobl ddychmygu rhywbeth gwell.
I Academi Gweithwyr Ifanc TUC Cymru, roedd addysg wleidyddol hefyd yn golygu trafod dewisiadau amgen.
Fe wnaethom ni greu cyfleoedd i ystyried sut y gallai dyfodol gwahanol edrych. Fe wnaethom ni drafod cydweithfeydd gweithwyr a meithrin cyfoeth cymunedol. Fe wnaethom ni ddychmygu trawsnewidiad diwydiannol gwyrdd sy'n gweithio i weithwyr a'u cymunedau.
Fe wnaethom ni drafod pŵer undebau llafur – nid yn unig i ymateb i argyfyngau, ond i adeiladu rhywbeth gwell yn weithredol. Ni fydd hyn yn digwydd oni bai ein bod yn trefnu.
Buom yn trafod sut mae profiad gweithwyr ifanc o waith, gwleidyddiaeth a chymuned yn croesi fwyfwy rhwng gofodau corfforol a digidol. Felly, archwiliodd y cyfranogwyr ddulliau digidol o drefnu, cyfathrebu ac ymgyrchu.
Nid deall technoleg newydd yn unig yw hyn. Mae'n golygu deall sut i ddefnyddio technoleg i gysylltu â phobl, gan gadw grym ar y cyd wrth wraidd undebaeth lafur.
Roedd agwedd bwysig arall ar yr Academi yn archwilio twf y dde eithaf yng Nghymru heddiw. Trafodwyd sut y gall gwleidyddiaeth sy'n creu rhaniadau ennill tir yn ein gweithleoedd a'n cymunedau.
I aelodau undebau llafur, ni ellir gwahanu hyn oddi wrth y gwaith o drefnu.
Yn yr Academi, fe wnaethom edrych ar y profiad o ansicrwydd, anghydraddoldeb a llai o ymddiriedaeth y mae gweithwyr yn ei wynebu. Fe wnaethom edrych ar enghreifftiau hanesyddol o gyfnodau pan oedd y dde eithaf ar gynnydd. Ac fe wnaethom ystyried beth y gallai hyn ei ddysgu i ni am herio naratifau sy'n ceisio troi gweithwyr yn erbyn ei gilydd. Fe wnaethom ni gytuno fod rhan o'r ateb yn golygu dathlu undod a grym ar y cyd. Mae hefyd yn golygu cydnabod bod gan weithwyr fwy yn gyffredin â'i gilydd nag y byddai'r rhai sy'n ceisio creu rhaniadau yn hoffi i ni gredu.
Nid yw'r heriau sy'n wynebu gweithwyr ifanc yn dod i ben gyda ffiniau cenedlaethol, ac ni ddylai ein haddysg wleidyddol chwaith.
Fel rhan o'r Academi, cafodd y cyfranogwyr gyfle i gymryd rhan mewn ymweliadau â'r Almaen ac Iwerddon, a ariannwyd gan gronfa Taith Llywodraeth Cymru. Roedd y ddau ymweliad hyn yn gyfleoedd i ddysgu'n uniongyrchol gan undebwyr llafur a sefydliadau llawr gwlad mewn dau leoliad gwahanol.
Yn yr Almaen, fe wnaethom archwilio trefnu ieuenctid, ac ymatebion i gynnydd yr asgell dde eithafol. Fe ddysgon ni am y rôl y gall gweithwyr ac undebau llafur ei chwarae wrth gyflawni pontio teg o lo i ffurfiau mwy gwyrdd o ynni. Teimlai'r cyfranogwyr fod y daith hon yn dangos gwerth ymgorffori hanes gwleidyddol ac addysg wleidyddol mewn strwythurau ieuenctid undebau llafur.
Yn Iwerddon, fe wnaethom gyfarfod â sefydliadau sy'n gweithio ar drefnu llawr gwlad a chymunedol, yn ogystal ag undebau llafur. Fe wnaethom archwilio'r rôl y gall sefydliadau cymunedol ei chwarae wrth gryfhau cydlyniant cymdeithasol a phwysigrwydd iaith a diwylliant. Gwelsom sut y gall cydweithio rhwng gweithwyr, undebau a chymunedau helpu i greu cymdeithasau cryfach a mwy diogel, yn enwedig ar adegau o densiwn a rhaniad cynyddol. Fe wnaethom gyfarfod â CATU, undeb tai Iwerddon, a dysgu sut mae materion gweithleoedd a thai yn mynd law yn llaw.
Ar draws y ddau brofiad, roedd gwers gyffredin: mae ein mudiad yn rhyngwladol. Gall gweithwyr drefnu mewn gwahanol systemau gwleidyddol a gwahanol ddiwylliannau, ond rydym yn wynebu llawer o'r un heriau. Mae creu cyfleoedd i undebwyr llafur ifanc ddysgu ar draws ffiniau yn ein galluogi i gyfnewid syniadau, herio ein rhagdybiaethau ein hunain ac adeiladu'r perthnasoedd y mae undod rhyngwladol yn dibynnu arnynt.
Drwy'r Academi Gweithwyr Ifanc, roeddem am brofi sut y gallem wneud dysgu yn fwy cyfranogol, dychmygus, ac wedi’i wreiddio yn y mathau o heriau y gallai gweithwyr eu hwynebu yn y byd go iawn.
Ar gyfer penwythnos olaf yr Academi, gweithiwyd gyda Class Wargames i gynnal ymarfer chwarae rôl byw. Roedd yr ymarfer yn gyfle i archwilio trefnu, gwneud penderfyniadau ar y cyd, a dod o hyd i atebion creadigol.
Cymerodd 20 o actifyddion ifanc ran yn yr ymarfer, a rhoddwyd gwybodaeth i bob un ohonynt am eu cymeriad. Roedd y senario yn gosod y cyfranogwyr mewn ffatri tyrbinau gwynt yng Nghymru. Roedd Prif Swyddog Gweithredol y cwmni am werthu'r ffatri er mwyn troi'r safle'n ganolfan ddata. Roedd hyn yn golygu y gallai fod canlyniadau difrifol i'r gweithwyr a'r gymuned gyfagos.
Treuliwyd y diwrnod yn chwarae rhannau gweithwyr, cynrychiolwyr undebau, a gwneuthurwyr penderfyniadau. Roeddem yn creu, yn cynnig syniadau, yn negodi ac yn trefnu. Gwnaethom hyd yn oed greu tyrbinau gwynt bach, cawsom ein talu gydag arian ffug, a gallem ymweld â thafarn dros dro.
Fodd bynnag, y tu ôl i'r hwyl, roedd her drefnu ddifrifol.
Roedd angen i ni feddwl yn strategol am sut y byddem yn ymateb i'r bwriad o gau'r ffatri. Cafwyd her hefyd i feddwl y tu hwnt i wrthwynebu'r cau yn unig. A oedd dewis arall? A allai'r gweithwyr eu hunain gymryd perchnogaeth ar y ffatri a diogelu'r swyddi yn ogystal â'r gymuned oedd yn dibynnu arnynt?
I lawer o'r gweithwyr ifanc a gymerodd ran, roedd hwn yn gyfle i wynebu sefyllfa newydd. Dywedodd pawb eu bod wedi cael y profiad yn ddefnyddiol, gan eu bod wedi gallu arbrofi, gwneud camgymeriadau, a gweld canlyniadau penderfyniadau trefnu gwahanol.
Daeth â llawer o'r themâu yr oeddem wedi'u harchwilio drwy gydol yr Academi ynghyd: grym gweithwyr, cydweithredu undebau llafur, perchnogaeth, newid diwydiannol, cyfoeth cymunedol, a'r angen i feddwl yn wahanol yn nhermau’r hyn y gall gweithwyr drefnu o'i blaid, yn hytrach na dim ond yr hyn rydyn ni’n trefnu yn ei erbyn.
Yn bwysicaf oll, gwnaeth addysg wleidyddol yn weithgaredd byw. Ac roedd yn hwyl.
Os ydym am i addysg wleidyddol apelio at genhedlaeth newydd o aelodau undebau llafur, dylem fod yn barod i arbrofi gyda'r ffordd rydym yn ei chyflwyno. Gall dysgu weithiau fod yn ddifrifol heb fod yn ffurfiol. Ac weithiau, gall rhoi pobl yng nghanol problem ddysgu rhywbeth iddynt na ellir ei ddysgu drwy siarad amdani yn unig.
Dros amser, mae addysg wleidyddol wedi dod yn llai amlwg mewn rhannau o fudiad yr undebau llafur. Mae’r hyn a welais yn yr Academi Gweithwyr Ifanc wedi dangos i mi pam mae angen i ni greu lle iddi unwaith eto.
Fe welais beth all ddigwydd pan wnawn ni fuddsoddi mewn gweithwyr ifanc, creu lle i drafod syniadau anodd, ac ymddiried mewn undebwyr llafur ifanc i ddatblygu syniadau newydd.
Heddiw, mae gweithwyr ifanc yn wynebu gwaith ansicr, newidiadau technolegol sylweddol, pwysau ar safonau byw, polareiddio gwleidyddol, a thensiynau cynyddol o fewn ein cymunedau.
Gall undebau llafur gynnig dewis arall: lle i bobl ddod at ei gilydd, deall y profiadau hynny ar y cyd, a threfnu i’w newid.
Ond nid gwybod beth i’w wneud yw’r unig agwedd ar drefnu.
Mae angen i ni ddeall pam rydyn ni’n gwneud hynny, yn erbyn beth rydyn ni’n trefnu, ac yn bwysicaf oll, dros beth rydyn ni’n trefnu.
Yn y pen draw, ni all y broses ddysgu ddod i ben pan fydd yr Academi yn gorffen. Ei gwir werth fydd yn yr hyn y mae’r cyfranogwyr yn mynd ag ef yn ôl i’w gweithleoedd, eu canghennau, eu hundebau a’u cymunedau, a’r hyn y maen nhw’n ei adeiladu ohono.
Dechrau pethau oedd y prosiect peilot hwn, nid y diwedd. Ac nid gweithgaredd ynysig ydyw.
Mae fforwm gweithwyr ifanc TUC Cymru yn cyfarfod yn rheolaidd i rannu gwersi a ddysgwyd, trafod materion, a datblygu syniadau.
Ymunwch â fforwm gweithwyr ifanc TUC Cymru
Rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen at Academi Gweithwyr Ifanc 2027. Bydd hon yn gyfle arall i undebwyr llafur ifanc yng Nghymru ddatblygu eu haddysg wleidyddol, cryfhau eu sgiliau trefnu, meithrin perthnasoedd ar draws ein mudiad, a dysgu gan undebwyr llafur y tu hwnt i Gymru.
Eisiau cymryd rhan? Cysylltwch â cymru@tuc.org.uk
Ac i undebau llafur, mae neges sydd yr un mor bwysig.
Nid buddsoddi mewn unigolyn yn unig yw buddsoddi mewn actifyddion ifanc. Mae'n fuddsoddiad yn ein cryfder ar y cyd, yn nyfodol ein hundebau ac yn nyfodol ein mudiad.