Dyddiad cyhoeddi
. Cyfarfu ymgyrchwyr undeb llafur sy’n fenywod o bob cwr o Gymru, Lloegr, yr Alban, Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon yn Llandudno rhwng 19 a 20 Hydref i drafod y problemau y mae menywod yn eu hwynebu yn y gwaith.
. Roedd ymgyrchwyr undebau llafur yn mynnu gwell cefnogaeth i ofalwyr, gan gynnwys amser o’r gwaith gyda thâl a gweithio hyblyg o’r diwrnod cyntaf.

Cyfarfu ymgyrchwyr undeb llafur sy’n fenywod o Gymru, Lloegr, yr Alban, Gweriniaeth Iwerddon a Gogledd Iwerddon rhwng 19 a 20 Hydref ar gyfer Cyngor Merched yr Ynysoedd. Cynhaliwyd y digwyddiad blynyddol eleni gan TUC Cymru yn Llandudno.

Bu’r cynadleddwyr yn trafod y diffyg gwerthfawrogiad o waith menywod, yn enwedig ynglŷn â gwaith gofal a gofal di-dâl.  Roeddent yn galw am fframwaith strategol i fynd i’r afael â’r argyfwng a diffyg adnoddau ar gyfer y system ofal ar draws pob gwlad. Roedd y cynadleddwyr hefyd yn mynnu gwell cefnogaeth i ofalwyr, gan gynnwys amser o’r gwaith gyda thâl a hawliau i weithio’n hyblyg.
 
Dywedodd Julie Cook, Swyddog Cenedlaethol TUC Cymru "Ddylai neb golli eu swydd nac wynebu gwahaniaethu oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu. Yn ystod ein cynhadledd Cyngor Merched yr Ynysoedd, clywsom straeon personol gan fenywod sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi â gofynion gwaith a gofal di-dâl, yn aml o dan bwysau ariannol mawr ac yn galw am fesurau i gydnabod pwysigrwydd hanfodol gofal i’n cymdeithas a’n heconomïau.”

Trais ar sail rhywedd

Wrth siarad am drais ar sail rhywedd, ailadroddodd Cyngor yr Ynysoedd alwadau ar y cyd am weithredu i atal a mynd i’r afael â phob math o aflonyddu rhywiol.

Dywedodd Julie Cook “Mae mynd i’r afael â thrais ar sail rhywedd yn gofyn am ymrwymiad ar draws y gymdeithas. Ni fydd unrhyw weithle yn weithle diogel nes bydd aflonyddu rhywiol yn cael ei ddileu. Galwodd ein cynrychiolwyr ar y cyrff statudol sy’n gyfrifol am iechyd a diogelwch yn y gweithle i weithio gydag undebau llafur i sicrhau bod dileu aflonyddu rhywiol yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth iechyd a diogelwch yn y gweithle.”

Llwythwch becyn cymorth TUC Cymru ar aflonyddu rhywiol yn y gweithle i lawr

Merched sy’n arwain


Hefyd, clywodd Cyngor Merched yr Ynysoedd gan aelodau o Raglen Datblygu Ymgyrchwyr Du TUC Cymru. Fe wnaethon nhw rannu eu profiadau o fod yn weithwyr Du yng Nghymru a sut roedden nhw’n teimlo bod y rhaglen yn mynd i’r afael â’r rhwystrau sydd wedi eu hatal rhag gallu symud ymlaen yn eu gyrfaoedd. Dywedasant fod llwyddiant y rhaglen yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod hyfforddiant arweinyddiaeth yn cynnwys croestoriadedd yn ganolog iddi.
 
Ar ddiwedd y gynhadledd, rhannodd y cynadleddwyr neges o undod i fenywod sy’n gweithio ledled y byd gan gydnabod a chofio am eu brwydrau dros heddwch, cyfiawnder a chydraddoldeb.