Mae mudiad yr undebau llafur wedi bod yn ymgyrchu dros gael Llywodraeth Cymru i ddefnyddio'r holl bwerau sydd ganddi i wneud gwaith yn well ac yn decach. Mae'r datganiad heddiw yn cadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn rhannu'r uchelgais hwn.
Wrth ymateb i ddatganiad y Prif Weinidog, dywedodd Martin Mansfield, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:
"Dyma'r math o ymagwedd gadarnhaol, radical ac ymarferol tuag at bartneriaeth gymdeithasol yr oeddem yn gobeithio ei chlywed gan y Prif Weinidog.
"Mae'n nodi'n glir y rhesymau dros wella ein partneriaeth gymdeithasol a rhoi sylfaen statudol iddi.
"Yn bwysig, mae'r Llywodraeth hefyd wedi cefnogi nod ymgyrch allweddol TUC Cymru – sef bod yn rhaid gwrthdroi'r gostyngiad yn y ddarpariaeth o gyd-fargeinio.
"Mae yna ffocws pragmatig ar gyflawni, sydd yn gwbl angenrheidiol os ydym am symud ymlaen. Ond mae yna hefyd cydnabyddiaeth waelodol taw partneriaeth yw’r ffordd Gymreig – mae hi’n weledigaeth a chyfres o gredoau dwfn yr ydym ni yn y mudiad undebau llafur yn eu rhannu gydag ef.
"Rydym yn edrych ymlaen at weithio mewn gwir gydweithrediad a phartneriaeth gyda Llywodraeth Cymru a chyflogwyr i wneud Cymru yn genedl waith deg.
"Mae honno'n dasg heriol. Bydd yn rhaid negodi'n galed, ymddiried a chyfaddawdu er mwyn dod o hyd i ffordd gyfrannol drwy'r materion cymhleth ac anodd y mae angen mynd i'r afael â hwy - ond yr ydym yn barod i ddechrau arni yfory drwy gyngor cysgod newydd ar bartneriaeth gymdeithasol .
"Mae gweithwyr Cymru yn haeddu dim llai."
Gwyliwch datganiad y Prif Weinidog ar gryfhau partneriaeth gymdeithasol isod a darllenwch sut y buom yn ymgyrchu i wneud Cymru'n genedl gwaith teg
Gallwch helpu i wneud Cymru yn lle tecach i weithio drwy ymuno ag Undeb