Dyddiad cyhoeddi
Gwnaeth Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru Shavanah Taj y datganiad canlynol mewn ymateb i gyhoeddiad EHRC ei fod yn lansio ymchwiliad i effaith coronafeirws ar leiafrifoedd ethnig.

Rydym yn croesawu cyhoeddiad y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) ei fod yn lansio ymchwiliad i effaith coronafeirws ar leiafrifoedd ethnig. Mae TUC Cymru wedi bod yn llafar am effaith y coronafeirws ar weithwyr a chymunedau du a lleiafrifoedd ethnig (BME) ers dechrau'r argyfwng hwn.

Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda EHRC Cymru i godi’r materion o hiliaeth systemig a strwythurol a welwn yng Nghymru heddiw.

Mae'n bwysig nad yw'r ymchwiliad hwn yn canolbwyntio ar effaith coronafeirws ar weithwyr BME yn unig. Mae angen iddi hefyd edrych ar yr anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol ehangach a hiliaeth strwythurol. Mae hyn yn cynnwys ystyried:

  • Y bwlch cyflog a'r bwlch cyflogaeth i bobl BME
  • Mynediad at dai
  • Anghydraddoldebau iechyd
  • Gwasanaethau cyhoeddus
  • Mynediad i addysg

Darllenwch ein Canllaw Covid-19 ar gyfer gweithwyr BME yng Nghymru sy'n ymhelaethu ar y problemau y mae gweithwyr BME yn eu hwynebu heddiw.