Mae WULF yn fenter sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy’n gwneud dysgu yn y gweithle yn decach ac yn fwy hygyrch. Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae wedi newid gyrfaoedd a bywydau miloedd o weithwyr, ac wedi creu diwylliant o ddysgu mewn gweithleoedd.
Ers 1999, mae WULF wedi helpu degau o filoedd o weithwyr yng Nghymru drwy hyfforddiant, cymorth iechyd a llesiant a sgiliau cyflogadwyedd. Mae dros 200 o brosiectau oedd yn cael eu harwain gan undebau llafur wedi cael eu cynnal ar draws gweithleoedd, o Tata Steel a Dŵr Cymru i gynghorau a byrddau iechyd.
Mae ystadegau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod canran y gweithwyr sy’n cael hyfforddiant sy’n gysylltiedig â’u gwaith wedi aros yn gyson ar 16% dros y 25 mlynedd ers lansio WULF.
Fodd bynnag, fe wnaeth dadansoddiad manylach o hyfforddiant mewn gwaith yng Nghymru gan academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd ganfod fod gweithwyr yn fwy tebygol o gael hyfforddiant mewn gwaith na'u cymheiriaid yng ngwledydd eraill y DU. Ond bu gostyngiad ym mha mor ddwys oedd yr hyfforddiant. Mae hyn yn golygu bod hyd cyfartalog yr amser mewn hyfforddiant wedi gostwng.
Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru: “Mae’r tueddiadau o ran hyfforddiant mewn gwaith yn peri pryder. Mae angen yr hyfforddiant hwn ar weithwyr i allu gwneud eu gwaith yn hyderus ac yn dda, felly os oes llai o amser yn cael ei dreulio ar hyn, dylai canu clychau larwm.
“Mae Cronfa Ddysgu Undebau Cymru yn mynd i’r afael â hyn drwy rymuso gweithwyr i gytuno ar gynigion hyfforddiant yn y gweithle gyda’u cyflogwr. Dyma sy’n ei wneud yn unigryw – mae undebau llafur, ar ran y gweithlu, yn gallu sicrhau bod anghenion gweithwyr hefyd yn cael eu diwallu drwy negodi â phenaethiaid.
“Dyma pam mae wedi bod yn llwyddiannus iawn o ran creu cynigion hyfforddiant yn y gweithle sy’n denu pobl sy’n llai tebygol o gymryd rhan mewn addysg i oedolion. Mae hefyd yn denu’r rhai hynny sy’n wynebu mwy o risg o wahaniaethu yn y gwaith.”
Dysgwch sut gallwch chi gymryd rhan ym mhrosiectau WULF
Mae hyn yn cyd-fynd â phrofiad Pru Orridge, un o weithwyr CThEF o Gaerdydd. Ymunodd â’r cwrs ‘Proffiliau Llwyddiant’ a gafodd ei ariannu ar y cyd gan ei chyflogwr a phrosiect WULF undeb llafur yr FDA. Nod y cwrs yw gwella cyfleoedd ar gyfer camu ymlaen mewn swydd drwy ddarparu sgiliau cyfweld sydd wedi’u teilwra i’r gwasanaeth sifil.
Ymunodd Pru â CThEF yn wreiddiol fel cynorthwyydd gweinyddol yn 2005. Gyda chymorth yr hyfforddiant, cafodd ei dyrchafu’n gyflym i swyddi uwch. Yn 2021, daeth yn Arweinydd Twyll Tollau yn y Gwasanaeth Ymchwiliadau Twyll, maes yn y gwasanaeth sifil lle mae gweithwyr lleiafrif ethnig yn cael eu tangynrychioli.
Dywedodd Pru Orridge: “Rydw i wedi elwa’n fawr o wneud yr hyfforddiant hwn. O ganlyniad i’r sesiynau, fy sgiliau cyfweld yw fy maes cryfaf. Diolch i’r hyfforddiant, rydw i’n gwybod beth mae fy nghyflogwr yn chwilio amdano.”
I Pru, mae’r hyfforddiant hefyd yn gyfle gwych i feithrin hyder gweithwyr sy’n cael eu tangynrychioli yn y gwasanaeth sifil, yn enwedig menywod a phobl o leiafrifoedd ethnig mewn swyddi arwain.
Ychwanegodd Pru: “Fel menywod, rydyn ni’n gallu teimlo’n annigonol, ac mae hyn yn parhau unwaith i chi gael swydd arwain. Unwaith y bydd gennych chi’r hyder hwnnw, mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth.”
“Mae’r sesiynau hefyd wedi bod yn hwb mawr i aelodau’r Rhwydwaith RACE yma yng Nghymru. Maent wedi rhoi’r sgiliau i’r aelodau ddatblygu eu gyrfaoedd. Rwy’n hyderus y gallwn symud tuag at sicrhau cydraddoldeb yn y gwasanaeth sifil.”
Darllenwch fwy am sut mae WULF wedi helpu Pru i gamu ymlaen yn ei gyrfa
Mae WULF hefyd wedi arwain at weithwyr yn y sector gofal cymdeithasol yn ennill sgiliau newydd. Mae gweithwyr gofal yn cael eu dysgu i ddefnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) drwy gwrs newydd. Mae hyn yn cael ei gyflawni gan brosiect WULF UNSAIN Cymru a chyflogwr y gweithwyr gofal, Innovate Trust.
Dywedodd un gweithiwr gofal a gymerodd ran yn y cwrs Iaith Arwyddion Prydain: “Ers gwneud y cwrs, rydw i wedi gallu cyfathrebu’n well â’r bobl rydw i’n gofalu amdanyn nhw.
“Gydag un dyn rydw i’n ei gefnogi, gallwch chi weld wrth y wên ar ei wyneb, ei fod yn gwerthfawrogi ac nad yw’n teimlo mor ynysig.”
Dywedodd cyfranogwr arall: “Roeddwn i eisiau gwneud hyn oherwydd bod gennym ni lawer o gleientiaid sydd ag anawsterau clywed a nam ar eu lleferydd.
“Mae hyn yn ei gwneud yn anodd iddyn nhw gael eu deall. Mae’n gadael i mi siarad â phawb na fyddwn i fel arfer yn gallu cyfathrebu â nhw. Rydw i’n gallu cael sgwrs iawn gyda nhw a deall yn union beth maen nhw ei angen a beth maen nhw ei eisiau.”
Dywedodd ysgrifennydd rhanbarthol UNSAIN Cymru, Jess Turner: “Mae WULF yn chwarae rhan hollbwysig yn natblygiad gweithwyr ar draws Cymru ac mae UNSAIN wedi bod wrth galon hyn erioed.
“Does dim ond rhaid i chi edrych ar brosiectau fel y cwrs arobryn a gynhaliwyd gennym ni gyda’r Innovate Trust i ddarparu Iaith Arwyddion Prydain i staff gofal i weld sut mae gan WULF y pŵer i drawsnewid bywydau gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus a’r unigolion maen nhw’n eu cefnogi bob dydd.
“Mae’n anrhydedd i UNASON chwarae rhan mor allweddol yn WULF ac rydym ni’n edrych ymlaen at gefnogi dysgu a datblygu llawer mwy o weithwyr yn y blynyddoedd i ddod.”
Darllenwch fwy am y gwahaniaeth a wnaeth dysgu BSL i weithwyr gofal Innovate Trust
Dywedodd Shavanah Taj: “Mae’n amlwg bod WULF o fudd i weithwyr, eu cyflogwyr a chymdeithas yn ehangach. Mae buddsoddiad parhaus Llywodraeth Cymru dros y chwarter canrif diwethaf yn dyst i hyn a’u cefnogaeth i ddysgu dan arweiniad undebau llafur.
“Rydw i’n hynod falch o’r gwahaniaeth y mae undebau wedi’i wneud i fywydau cynifer o weithwyr drwy WULF. Mae buddsoddi mewn dysgu yn y gweithle dan arweiniad undebau llafur yn allweddol i ddatgloi gyrfaoedd gwych. Gyda chynnydd mewn cyllid, gallem ni wneud llawer mwy i drawsnewid dysgu yn y gweithle a bywydau pobl.”
“Rydw i wedi elwa’n fawr o wneud yr hyfforddiant hwn. O ganlyniad i’r sesiynau, fy sgiliau cyfweld yw fy maes cryfaf. Diolch i’r hyfforddiant, rydw i’n gwybod beth mae fy nghyflogwr yn chwilio amdano.”