Dyddiad cyhoeddi
Mae Pru Orridge, Arweinydd Twyll Tollau yng Nghyllid a Thollau EM (CThEM) sy’n byw yng Nghaerdydd, yn dweud wrthym am ei rhan yn y cyrsiau FDA Learn ar ‘Broffil Llwyddiant’.
Pru Orridge

Ganwyd Pru yn Tanzania, a daeth i Gymru yn 1996 ac ymunodd â CThEM yn 2005. Ychydig flynyddoedd yn ôl, clywodd Pru am gyrsiau FDA Learn ar ‘Broffil Llwyddiant’ (fframwaith recriwtio’r Gwasanaeth Sifil). Mae’r cyrsiau’n cael eu hariannu ar y cyd gan WULF a’i chyflogwr, a’u nod yw gwella cyfleoedd ar gyfer dilyniant swydd drwy ddarparu hyfforddiant sgiliau cyfweliad, gan ganolbwyntio’n benodol ar ‘Ymddygiadau’ a ‘Chryfderau’ sy’n ddwy ran allweddol o’r broses gyfweld.

Ymunodd Pru â CThEM yn wreiddiol fel cynorthwyydd gweinyddol yn 2005. Gyda chymorth yr hyfforddiant, mae wedi cael ei dyrchafu’n gyflym i swyddi uwch. Yn 2021, daeth yn Arweinydd Twyll Tollau yn y Gwasanaeth Ymchwiliadau Twyll (FIS), maes yn y Gwasanaeth Sifil lle mae gweithwyr BAME yn cael eu tangynrychioli.

“I mi, roedd yn gwbl anhygoel. Cefais gyfle yn y sesiwn i ymgysylltu a deall sut i ateb cwestiynau sy’n seiliedig ar gryfderau...Mae llawer o aelodau eraill sydd wedi mynychu ...wedi dweud pa mor llwyddiannus oedd hi.”

- Pru

Magu hyder fel menyw mewn swydd arwain

Mae Pru yn credu bod y cyrsiau hyfforddi wedi cyfrannu at ei llwyddiant yn y gwaith. “Rydw i wedi elwa’n fawr o wneud yr hyfforddiant hwn...o ganlyniad i’r sesiynau, fy sgiliau cyfweld yw fy maes cryfaf. Y tro diwethaf y gwnes i fy nghyfweliad, aeth pethau’n dda iawn, yn enwedig gyda’r cwestiwn yn canolbwyntio ar gryfderau. Diolch i’r hyfforddiant, rwy’n gwybod beth mae fy nghyflogwr yn chwilio amdano.”

I Pru, mae’r hyfforddiant hefyd yn gyfle gwych i gryfhau hyder gweithwyr sy’n cael eu tangynrychioli yn y gwasanaeth sifil, yn enwedig menywod mewn swyddi arwain.

 “Fel menywod, rydyn ni’n gallu teimlo’n annigonol...mae hyn yn parhau unwaith i chi gael swydd arwain. Hyd yn oed pan ddechreuais i fy swydd newydd y llynedd, roeddwn i’n meddwl bod yn rhaid i hyn fod yn gamgymeriad. Roeddwn i’n amau fy hun...Unwaith y bydd gennych chi’r hyder hwnnw, mae’n gwneud cymaint o wahaniaeth...” - Pru

Cynyddu’r cyfleoedd i weithwyr BAME yn yr uwch wasanaeth sifil

Pru hefyd yw Arweinydd Rhwydwaith RACE CThEM yng Nghymru. Mae hi’n gweld hyfforddiant fel cyfle gwych i fynd i’r afael â thangynrychiolaeth gweithwyr BAME mewn swyddi uwch yn y gwasanaeth sifil. Mae hi wedi annog aelodau eraill o’r Rhwydwaith RACE i fynychu’r hyfforddiant i gryfhau eu sgiliau cyfweld.

Mae nifer o aelodau wedi mynychu’r sesiynau erbyn hyn ac wedi’u hystyried yn ddefnyddiol iawn. Fel yr esbonia Pru: “Mae’r sesiynau wedi bod yn hwb mawr i aelodau’r Rhwydwaith RACE yma yng Nghymru. Maent wedi rhoi’r sgiliau i’r aelodau ddatblygu eu gyrfaoedd. Rwy’n hyderus y gallwn symud tuag at sicrhau cydraddoldeb yn y gwasanaeth sifil.”

Mae Pru yn credu bod cael menyw BAME mewn rôl mor uchel wedi cyfrannu at fwy o gynrychiolaeth yn yr FIS. Mae’r gynrychiolaeth ar Radd 7 bellach wedi cyrraedd niferoedd y mae modd adrodd amdanynt am y tro cyntaf.

Trosglwyddo’r hyn y mae wedi’i ddysgu 

Mae Pru bellach yn trosglwyddo’r hyn y mae wedi’i ddysgu i eraill. Fel Arweinydd y Rhwydwaith RACE yng Nghymru, mae wedi sefydlu cynlluniau mentora a hyfforddi ar y cyd â’i chyflogwr i gefnogi datblygiad swyddi grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli.

Mae hi hefyd wedi cyflwyno ei sesiwn ei hun yn ddiweddar ar Broffil Llwyddiant i eraill yn ei gwaith, gyda nifer fawr o’i hadran ei hun a thu hwnt yn bresennol. 

Gwyliwch Pru a dysgwyr eraill FDA yn siarad am sut mae WULF wedi eu helpu gyda’u gyrfaoedd:

FDA event

Mae FDA Learn yn rhaglen hyfforddi datblygiad proffesiynol sy’n cael ei rhedeg gan undeb FDA ar gyfer gweision sifil a gweithwyr proffesiynol gwasanaethau cyhoeddus. Yng Nghymru, ariennir FDA Learn gan yr undeb a Chronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF). Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar ddatblygiad cyflogaeth i bobl o gefndiroedd amrywiol.