Dyddiad cyhoeddi
• Corff undebau’n lansio adnodd newydd er mwyn helpu i fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gwaith
• Mae dros hanner y menywod wedi dioddef aflonyddu rhywiol yn y gweithle

Heddiw (22 Mawrth), mae TUC Cymru yn lansio pecyn cymorth newydd ar fynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol yn y gweithle.  Bydd yr adnodd - sydd wedi’i ysgrifennu ar y cyd gan Gymorth i Ferched Cymru - yn rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar weithwyr yng Nghymru i fynd i’r afael â’r broblem hon yn y gweithle.

Mae aflonyddu rhywiol yn broblem hollbresennol mewn gweithleoedd – mae dros un o bob dwy ferch wedi’i ddioddef. Mae’r gyfradd hon yn codi i bron i ddwy o bob tair merch sydd rhwng 18 a 24 oed.

Wrth lansio’r pecyn cymorth yn adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd, dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru: “Ni ddylai neb fynd i’r gwaith yn ofni y gallan nhw ddioddef aflonyddu rhywiol. Mae aflonyddu rhywiol yn rhan o ddiwylliant ehangach, di-baid o drais rhywiol a chasineb at ferched. Nid yw’n weithred ddi-nod y dylid ei derbyn fel rhan anochel o fywyd bob dydd.

“Rydyn ni eisiau creu awyrgylch sy’n galluogi i weithwyr ddod ymlaen a gofyn am gymorth, yn ogystal â chael eu credu a’u helpu pan fydd arnyn nhw angen hynny.

O ran mynd i’r afael ag aflonyddu rhywiol, mae gennym ni i gyd ran i’w chwarae ac ni allwn ni wylio hynny’n digwydd heb weithredu. Rhaid i ni i gyd gwestiynu ymddygiadau sy’n gwneud i ferched deimlo’n llai diogel gartref, yn yr ysgol, yn gyhoeddus ac yn y gwaith.

“Mae TUC Cymru a’n hundebau llafur cysylltiedig yn arwain y gwaith hwn. Mae gan undebau, ein cynrychiolwyr a’n haelodau ran allweddol i’w chwarae yn dal cyflogwyr i gyfrif ac yn gwneud yn siŵr bod penaethiaid yn gwneud popeth o fewn eu gallu i atal aflonyddu rhywiol.

Mae pecyn cymorth TUC Cymru ar aflonyddu rhywiol yn cynnwys gwybodaeth a chymorth i helpu gweithwyr i wneud y canlynol:

➔ Adnabod aflonyddu rhywiol yn y gweithle

➔ Dal cyflogwyr i gyfrif er mwyn atal aflonyddu rhywiol rhag digwydd mewn gweithleoedd

➔ Ymgyrchu dros beidio â goddef dim aflonyddu rhywiol yn y gweithle, drwy amrywiaeth o fesurau ataliol

“Ar adeg pan mae’n ymddangos bod pob math o aflonyddu rhywiol yn digwydd, bydd y pecyn cymorth hwn yn helpu cynrychiolwyr undebau i gefnogi’r sawl sy’n dioddef aflonyddu rhywiol ac i ddod â’r troseddwyr o flaen eu gwell.

“Bydd hyn yn helpu cyflogwyr a gweithwyr i gyflawni eu rhwymedigaethau.

“Mae gan gynrychiolwyr undebau ran allweddol i’w chwarae yn dal gweithleoedd i gyfrif ac yn gwneud yn siŵr bod penaethiaid yn gwneud popeth o fewn eu gallu i atal aflonyddu rhywiol.

Joyce Watson AS (Llafur, Canolbarth a Gorllewin Cymru) a oedd wedi noddi’r digwyddiad lansio

“Canfu ymchwil ‘Dim Ardal Lwyd’ gan Gymorth i Ferched Cymru fod pedair o bob pump o ferched yng Nghymru wedi dioddef rhyw fath o aflonyddu rhywiol yn y gwaith. I’r mwyafrif helaeth o’r ymatebwyr hyn, roedden nhw wedi dioddef aflonyddu rhywiol ar fwy nag un achlysur gan fwy nag un person.

“Mae hyn yn dangos bod y lefelau aruthrol o gasineb at ferched a rhywiaeth yn cael eu caniatáu o fewn gweithleoedd. Mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn ymrwymo i beidio â goddef dim aflonyddu rhywiol a bod cyflogwyr yn gallu darparu ymatebion sy’n deall trawma ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i’r gweithwyr hynny sy’n dod ymlaen, ochr yn ochr â gweithredu mecanweithiau cadarn ar gyfer atebolrwydd.”

Sara Kirkpatrick, Prif Swyddog Gweithredol Cymorth i Ferched Cymru
Nodyn y golygyddion

Digwyddiad lansio’r pecyn cymorth

Bydd y pecyn cymorth yn cael ei lansio yn y Pierhead am 12pm ar 22 Mawrth.

Mae’r siaradwyr yn cynnwys y canlynol: Joyce Watson AS; Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol; Rhianydd Williams, TUC Cymru; Brendan Kelly, Llywydd TUC Cymru; Sara Kirkpatrick, Cymorth i Ferched Cymru; a Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru.

Mae modd trefnu cyfweliadau gyda’r siaradwyr.

Aflonyddu rhywiol yn y gweithle

Yn ôl arolwg YouGov a gomisiynwyd gan TUC a’r Prosiect Rhywiaeth Bob Dydd yn 2016, dywedodd 52% o ferched eu bod wedi dioddef aflonyddu rhywiol yn y gwaith. https://www.tuc.org.uk/news/nearly-two-three-young-women-have-experienced-sexual-harassment-work-tuc-survey-reveals

Gwybodaeth am TUC Cymru

TUC Cymru yw llais Cymru yn y gwaith. Gyda 48 o aelod-undebau, mae TUC Cymru yn cynrychioli oddeutu 400,000 o weithwyr. Rydyn ni’n ymgyrchu dros driniaeth deg yn y gwaith ynghyd â chyfiawnder cymdeithasol gartref a thramor.

Manylion Cyswllt

Rhianydd Williams, Swyddog Polisi Cydraddoldeb TUC Cymru

rwilliams@tuc.org.uk

029 2034 7010