Dyddiad cyhoeddi
Yn dilyn y cyhoeddiad am glo lleol yng Nghaerffili a thrafodaethau gydag undebau, mae TUC Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru at ailfeddwl ei ymagwedd at orchuddion wyneb.

Dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Shavanah Taj:

"Mae'r clo lleol a gyhoeddwyd ar gyfer Caerffili yn dangos difrifoldeb y bygythiad y mae Covid-19 yn parhau i'w achosi. Mae'n ddealladwy bod pobl yn bryderus ynghylch yr hyn y bydd y newidiadau i'r rheolau yn ei olygu iddynt ac mae'n hanfodol bod canllawiau clir ar gael i bawb.

Dylai'r cynnydd mewn achosion hefyd arwain Llywodraeth Cymru at ailfeddwl yr ymagwedd at orchuddion wyneb. Rydym yn pryderu am adroddiadau sy'n awgrymu nad yw rheolau ymbellhau cymdeithasol yn cael eu dilyn mwyach mewn llawer o siopau ac archfarchnadoedd. Yn yr un modd, mae'r canllawiau presennol sy'n gadael penderfyniadau ar orchuddion wyneb mewn ysgolion uwchradd cael eu gwneud ar lefel leol yn peri dryswch ac anghysondeb.

Dylai gorchuddion wynebau bellach fod yn orfodol mewn siopau ac mewn ysgolion uwchradd ledled Cymru.

Mae'r datblygiadau hyn hefyd yn tynnu sylw at yr heriau o ran gorfodi rheolau Covid ac edrychwn ymlaen at weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill drwy'r fforwm Iechyd a Diogelwch Cenedlaethol newydd i sicrhau bod cyflogwyr yn cyflawni eu rhwymedigaethau i gadw eu gweithwyr yn ddiogel.”