"Rydym yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw am gymorth ariannol pellach i fusnesau ac elusennau.
Mae'n hanfodol bod gweithwyr yng Nghymru yn cael swyddi teg a gweddus i fynd yn ôl i unwaith mae'r coronafeirws dan reolaeth a dylai'r mesurau hyn fynd beth o'r ffordd i lenwi'r bylchau a adawyd gan gyhoeddiadau blaenorol.
Yr ydym am weld y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i ddiogelu cynifer o swyddi ag sy'n bosibl. Edrychwn ymlaen at edrych ar fanylion y cynigion i sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio mor effeithiol â phosibl i warchod bywoliaeth gweithwyr a'u teuluoedd. "
Gall gweithwyr sy'n chwilio am wybodaeth bellach am y gronfa gysylltu â TUC Cymru yn wtuc@tuc.org.uk