Dyddiad cyhoeddi
Mae sefydliadau'r GIG yng Nghymru yn ymuno â gweithfeudd o amgylch y DU ac yn llofnodi'r Siarter Afiechyd Marwol. Mae'r Siarter yn diogelu hawliau yn y gwaith i'r rhai sy’n wynebu salwch terfynol.

Staff HEIW yn dathlu llofnodi'r Siarter
Staff HEIW yn dathlu llofnodi'r Siarter

Ar 19 Medi bu tri o gyflogwr GIG Cymru yn croesawu sioe deithiol genedlaethol ar Afiechyd Marwol ar gyfer GIG gan y TUC. Maen nhw hefyd wedi ychwanegu eu henwau i’r Siarter sydd â'r nod o gynnig help yn y gwaith i weithwyr sy’n cael salwch terfynol.

Mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru wedi llofnodi’r siarter sy’n cynnig camau diogelu ychwanegol i filoedd o weithwyr.

Ar 23 Medi llofnododd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru y Siarter hefyd ac ar 26 Medi llofnododd Ymddiriedolaeth Iechyd Caerdydd a'r Fro.

Mae'r ymgyrch dros Siarter Afiechyd Marwol yn ceisio gwell sicrwydd i weithwyr sydd â salwch terfynol fel na ellir eu diswyddo oherwydd eu cyflwr. Cafodd yr ymgyrch ei chreu gan y TUC yn dilyn achos Jacci Woodcook, rheolwr gwerthu o Sir Ddinbych. Cafodd Jacci ei gorfodi o’i swydd ar ôl cael diagnosis o ganser terfynol ar y fron.

Mae’r TUC yn gofyn i gyflogwyr lofnodi eu siarter er mwyn atal achosion fel un Jacci rhag digwydd yn y dyfodol.

Erbyn hyn, mae Siarter Afiechyd Marwol yn diogelu dros filiwn o weithwyr, gan gynnwys gweithwyr mewn cwmnïau adnabyddus megis Rolls Royce, y Post Brenhinol a Lloyds Bank.

Y tri o gyflogwyr GIG fydd y sefydliadau iechyd cyntaf yng Nghymru i lofnodi’r Siarter.

Llofnodi'r Siarter Afiechyd Marwol yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru
Llofnodi'r Siarter Afiechyd Marwol yng Ngwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

Dywedodd Tanya Palmer, ysgrifennydd rhanbarthol UNISON Cymru:

“Wrth lofnodi'r Siarter Afiechyd Marwol, mae’r tri o gyflogwr GIG Cymru wedi ymrwymo i sicrhau y bydd unrhyw weithwyr sy’n dioddef o salwch terfynol yn cael eu cefnogi a’u grymuso i wneud penderfyniadau am eu bywyd gwaith heb boeni am sgil-effaith nag am golli incwm.

“Mae’n amhosib rhagweld sut y byddai unrhyw un yn ymateb mewn sefyllfa o’r fath. Efallai bydd rhai gweithwyr yn dewis aros yn y gwaith cyhyd ag y gallant, efallai bydd eraill yn dymuno treulio eu hamser gyda’r bobl bwysicaf yn eu bywyd.

“Beth bynnag fydd dewis yr unigolyn, mae derbyn cefnogaeth ei gyflogwr yn hanfodol ac rydym yn falch bod Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru ac  Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn cydnabod hyn.”

Gareth Hathway o TUC Cymru
Gareth Hathway o TUC Cymru

Dywedodd Gareth Hathway, Arweinydd Siarter Afiechyd Marwol dros TUC Cymru:

“Ddylech chi ddim gorfod poeni am eich swydd os ydych yn cael diagnosis o salwch terfynol. 

“Mae ein GIG yno i ni pan rydym ei angen. Bydd miloedd o weithwyr GIG yn derbyn cefnogaeth pan fyddant ei angen fwyaf, diolch i gyflogwyr ac undebau GIG sy’n gweithio gyda’i gilydd.

“Mae’r tri chyflogwr yn arwain y ffordd yng Nghymru ac rwy’n gobeithio gweld mwy o sefydliadau Iechyd yn llofnodi’r siarter yn fuan.”

Llofnodi'r Siarter Afiechyd Marwol yn HEIW
Llofnodi'r Siarter Afiechyd Marwol yn HEIW

Dywedodd Alex Howells, Prif Weithredwr Addysg a Gwella Iechyd Cymru:

“Rwy’n falch bod Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn un o’r sefydliadau Iechyd cyntaf yng Nghymru i lofnodi’r Siarter Afiechyd Marwol a fydd yn cynnig diogelwch i weithwyr sydd â salwch terfynol.”

Staff NWSSP ac aelodau undebol yn llofnodi'r Siarter Afiechyd Marwol
Staff NWSSP ac aelodau undebol yn llofnodi'r Siarter Afiechyd Marwol

Dywedodd Neil Frow, Rheolwr Gyfarwyddwr Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru:

“Rydym yn falch iawn o lofnodi’r siarter hon mewn partneriaeth â’n Partneriaid Undeb Llafur a’n cydweithwyr, er mwyn dangos ein hymrwymiad parhaus i’n gweithwyr. Mae llofnodi’r siarter yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi ac i ddiogelu hawliau ein gweithwyr sy’n cael salwch terfynol. Rydym fel sefydliad yn falch iawn o’n gweithwyr ac rydym yn ceisio cefnogi llesiant pob un ohonyn nhw, yn enwedig yn ystod yr amser maent fwyaf bregus.”

Llofnodi'r Siarter Afiechyd Marwol yn Ymddiriadolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
Llofnodi'r Siarter Afiechyd Marwol yn Ymddiriadolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru

Dywedodd Claire Vaughan, Cyfarwyddwr Gweithredol y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru:

"Mae llofnodi'r Siarter hon heddiw, gyda'n partneriaid yn yr undebau llafur, yn dangos yn glir ein hymrwymiad parhaus i ofalu am ein pobl, yn enwedig yn ystod y cyfnod anoddaf o waith. "

 

Llofnododd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro'r Siarter
Llofnododd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro'r Siarter

Dywedodd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Len Richards: 

"Mae cael diagnosis o salwch terfynol yn gyfnod o straen emosiynol enfawr, ofn ac ansicrwydd. Rydym am i'n staff fod yn sicr, os byddant yn canfod eu hunain yn y sefyllfa honno, y byddwn yn gwneud popeth a allwn i'w cefnogi.  Rydym yn cydnabod y gall gwaith diogel a rhesymol helpu i gynnal urddas, cynnig gwrthdyniad gwerthfawr a bod yn therapiwtig ynddo'i hun, a bydd yn rhoi i weithwyr sicrwydd gwaith, tawelwch meddwl a’r hawl i ddewis y ffordd orau o weithredu drostynt eu hunain a'u teuluoedd. 

"Bydd sicrhau bod gweithwyr sy’n brwydro salwch terfynol yn cael eu diogelu'n ddigonol o ran cyflogaeth a bod y buddion os ydyn nhw’n marw yn eu swydd yn cael eu diogelu ar gyfer eu hanwyliaid, yn help i osgoi straen ac ansicrwydd diangen ar adeg anodd iawn." 

Os nad ydy'ch gweithle wedi llofnodi'r Siarter Afiechyd Mawrol eto ewch i dyingtowork.co.uk