Dyddiad cyhoeddi
Mae Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du TUC Cymru yn targedu aelodau undebau sy’n ystyried eu hunain yn dod o gefndir Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Mae’r rhaglen wedi’i llunio i ddatblygu sgiliau'r rheini sydd am symud ymlaen yn eu hundeb neu sydd â diddordeb mewn cefnogi pobl yn y gweithle sy’n cael eu haflonyddu a’u gwahaniaethu ar sail hil.

Mae’r cyfranogwyr yn dysgu am bynciau fel strwythurau undebau, rôl cynrychiolwyr undebau, trefnu, ymgyrchu a negodi.

Lansiwyd y Rhaglen fel rhan o ymrwymiad TUC Cymru i gefnogi Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru. Nod y rhaglen yw cynyddu cynrychiolaeth o bobl o gefndiroedd lleiafrifoedd ethnig mewn rolau arwain a rolau uwch.

Mae’r rhaglen, a ddechreuodd ym mis Mawrth 2023, yn gyfuniad o fodiwlau ar-lein ac wyneb yn wyneb gyda gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar undebau i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a hyder cyfranogwyr i fod yn ymgyrchwyr dylanwadol a chymryd rolau arwain mewn undeb.

Byd y rhaglen beilot yn dod i ben ddiwedd mis Chwefror 2024, gan roi blwyddyn i’r cyfranogwyr ddatblygu.

Rydyn ni’n bwriadu lansio ail raglen yn y gwanwyn a byddwn ni’n darparu rhagor o wybodaeth cyn gynted ag y bydd ar gael. Fodd bynnag, os hoffech chi siarad ag aelod o’r tîm am y Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du nesaf, cysylltwch â’r swyddfa yn wtuc@tuc.org.uk

9 o fenywod o Gymru yn ymuno â’r Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du

Er bod y rhaglen beilot hon yn agored i ddynion a menywod, 9 menyw o ganolbarth a de Cymru gymerodd ran ynddi.

9 o fenywod o Gymru yn ymuno â’r Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du

Mae oedran y cyfranogwyr yn amrywio o aelodau ifanc yn eu 20au i aelodau wedi ymddeol yn eu 70au, ac mae cymysgedd da o dreftadaeth, cefndiroedd teuluol a sectorau gwaith yn y grŵp.

Mae’r cyfuniad o oedrannau’n golygu gwerth 393 mlynedd o brofiad ar y cyd, ac mae hyn yn caniatáu ar gyfer ystod llawer mwy o brofiadau amrywiol nag y gallem fod wedi’i ddisgwyl.

Mae’r rhaglen yn cael ei rhedeg gan aelodau staff TUC Cymru, sef AJ Sungh a Flick Stock, gyda chymorth Humie Webbe.

Mae Humie yn Ymgynghorydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant Llawrydd sy’n gweithio gydag amrywiol sefydliadau, gan eu cefnogi gyda’u cynlluniau a’u strategaethau gwrth-hiliaeth. Mae hi’n Fentor Cymunedol ar gyfer Is-adran Diwylliant Llywodraeth Cymru ac mae hi’n Aelod Cyswllt gyda Practice Solutions, gan eu cynghori a’u cefnogi i gyflawni ymrwymiadau eu Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol sy’n ymwneud â diwylliant a gofal cymdeithasol, yn y drefn honno.

Mae Humie yn eiriol dros ddysgu a datblygu ein hunain. Mae hi’n credu bod natur agored cyfranogwyr y Rhaglen ynghylch eu profiadau o hiliaeth wedi cryfhau ei harferion dysgu a’i gweithrediaeth yn yr undeb. Datblygodd Humie y Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du ochr yn ochr â’r cyfranogwyr, gan weld eu hyder yn cynyddu a’u twf personol, ac mae hi’n ystyried y rhaglen yn un o’i chyflawniadau mwyaf balch.

Humie Webbe

“I’m privileged to work alongside a fantastic group of people to design this first BADP.

This experience has increased my activism and commitment to ensuring unions continue to listen and act to strengthen support for our ethnic minority members!”

Humie Webbe

Cwrdd â chyfranogwyr y Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du 2023-24

Abiola Adio, Rianna Powell, Shahien Taj
Left to right - Abiola Adio, Rianna Powell, Shahien Taj

Abiola Adio “Fel person sy’n casáu anghyfiawnder ac yn mwynhau helpu pobl, mae cofrestru ar y Rhaglen hon wedi rhagori ar fy nisgwyliadau oherwydd mae wedi magu fy hyder, mae wedi effeithio ar fy ngwybodaeth ac mae wedi deffro ymdeimlad o angen i weithredu”.

Rianna Powell “Mae’r Rhaglen wedi ailgynnau fy mrwdfrydedd i frwydro yn erbyn anghyfiawnderau a chodi llais yn y mannau cywir i greu newid”.

Shahien Taj “Mae cymryd rhan yn y rhaglen arweinyddiaeth wedi bod yn brofiad unigryw a chyfoethog. Mae’r modiwlau ar strwythurau undebau ac ymgyrchu wedi rhoi’r sgiliau hanfodol i mi ac mae wedi meithrin fy hyder a’m dealltwriaeth o sut mae mynd i'r afael â gwahaniaethu yn y gweithle mewn ffordd effeithiol. Mae’r rhaglen wedi mynd y tu hwnt i gynnig y sgiliau a’r wybodaeth hanfodol hyn i mi; mae’r rhaglen wedi creu amgylchedd agored a chefnogol lle’r oeddwn i ac eraill yn teimlo ein bod ni’n cael ein hannog i archwilio ein potensial fel ymgyrchwyr ac arweinwyr undebau yn y dyfodol”.

Rahila Hamid, Abena Louisa St Bartholomew-Brown Morgan ("Nana"), Tansaim Hussain-Gul
From left to right - Rahila Hamid, Abena Louisa St Bartholomew-Brown Morgan ("Nana"), Tansaim Hussain-Gul

Rahila Hamid “Mae’r Rhaglen wedi fy helpu i ddatblygu fy hyder, fy sgiliau a’m gwybodaeth ymhellach. Mae wedi bod yn rhaglen rymusol iawn. Mae’r ffordd mae’r modiwlau wedi’u strwythuro a’u cyflwyno gan yr hyfforddwr rhagorol, gyda mewnbwn gan y cyfranogwyr sy'n dod o gymunedau amrywiol iawn, yn cyfuno profiadau a gwybodaeth ehangach. Mae’r Rhaglen wedi cryfhau fy awydd a’m gallu i herio anghydraddoldeb fel ymgyrchydd, naill ai mewn cyflogaeth neu yn y gymuned, diolch i Humie, AJ a Flick”.

Abena Louisa St Bartholomew-Brown Morgan (‘Nana’) “Roedd cael gwybod bod gen i fy rhagfarnau fy hun wedi fy ysbrydoli i ymuno â’r rhaglen. Nid rhaglen hyfforddi yn unig yw hon, fel roeddwn i wedi dychmygu. Mae’n ymwneud mwy â goleuedigaeth, er mwyn i mi edrych yn fanwl ar fi fy hun a’r hyn sydd o’m cwmpas, y bobl o’m cwmpas a dysgu beth mae’n ei olygu i fod â hyder go iawn i fynd i’r afael â’r sefyllfa bresennol gyffredinol mewn ffordd gadarnhaol iawn. Ar ben hynny, yn y gymdeithas rydyn ni’n byw ynddi heddiw, a’r diwylliant cyfoethog sydd gan bob trigolyn yng Nghymru; mae’n bwysig rhoi gwybod i’n ffrindiau, ein cydweithwyr, y cyhoedd, ac ati, bod pob un ohonom yn ddiwylliannol wahanol. Heb os. Mae’n bwysig codi ymwybyddiaeth ddiwylliannol a gadael i bobl ddeall y cyfoeth diwylliannol ac addysgol y gallwn ei gynnig i wneud Cymru yn lle bywiog i fyw ynddi”.

Tansaim Hussain-Gul “Mae’r Rhaglen wedi rhoi’r cryfder a’r hyder eithaf i mi ddatblygu fy hun mewn rolau na fyddwn i’n meddwl mod i’n gallu eu gwneud. Mae wedi rhoi’r adnoddau a’r sgiliau i mi gyflwyno a deall fy nghryfderau a’m gwendidau fy hun”. Darllen mwy am Tansaim

Iman Haq, Shirley Newbury, Princess Onyeanusi
From left to right - Iman Haq, Shirley Newbury, Princess Onyeanusi

Iman Haq ““Mae cymryd rhan yn y Rhaglen wedi fy helpu i weld pwy ydw i a chysylltu â phobl eraill o wahanol gefndiroedd. Gwnes i ddarganfod ein bod ni i gyd yn ddynol – er bod pawb wedi profi hiliaeth neu wahaniaethu, roedd pob un ohonom ni’n delio â materion cyffredinol, boed hynny’n bryderon am ein hiechyd corfforol a meddyliol neu chwilio am gyfleoedd gyrfa a sgiliau cyfweld”.

Shirley Newbury “Roeddwn i’n meddwl mai cwrs hyfforddi oedd y Rhaglen, ond roedd yn llawer mwy na hynny! Roedd sesiynau i brocio’r meddwl a gwybodaeth amhrisiadwy. Mae wedi fy ysbrydoli ac wedi rhoi’r wybodaeth a’r gefnogaeth yr oedd ei hangen arnaf i fod yn rhan effeithiol o newid. Mae’r tiwtor a’r staff cefnogi yn rhagorol, ac rydw i wedi gwneud cynnydd sylweddol. Diolch i’r Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du”.

Princess Onyeanusi “Mae’r Rhaglen wedi bod yn gyfle i mi fagu fy hyder yn ôl i bwynt lle gallaf siarad dros eraill oherwydd, yn y gorffennol, roeddwn i’n oedi cyn siarad drosof i fy hun hyd yn oed. Mae wedi rhoi’r amgylchedd cywir i mi rwydweithio gyda phobl eraill sydd â phrofiad bywyd tebyg”.