Dyddiad cyhoeddi
Mae Joanne West yn beiriannydd yn adran Cynnal a Chadw British Airways (BA) wrth ymyl maes awyr Caerdydd. Pan benderfynodd ei bod eisiau astudio am drwydded newydd cysylltodd â phrosiect WULF Unite i ofyn am gymorth ariannol.
Engineer

Ar ôl gweithio i British Airways am 19 mlynedd, rhaid Joanne West hyfforddi i ddiweddaru ei sgiliau. Ond does dim ysgol hyfforddi gan y cwmni na hyfforddiant am ddim ar gyfer BA yn yr ardal leol. Does dim arian chwaith gan y cwmni ar gyfer hyfforddi. Mae hyn yn golygu bod y rhan fwyaf o bobl yn dysgu eu hunain ac yn ariannu eu hunain.

Mae'r cymhwyster i weithio fel peiriannydd awyrennau wedi ei rannu'n ddwy ddisgyblaeth neu 'drwyddedau' gwahanol. Mae angen y drwydded gyntaf (a elwir yn 'B1') i beirianwyr weithio ar beiriannau a chorff awyrennau. Mae'r ail drwydded (a elwir yn 'B2') yn galluogi peirianwyr i weithio ar y systemau electronig o fewn yr awyren. Cafodd Joanne y cymhwyster cyntaf flynyddoedd yn ôl.

Ychydig fisoedd yn ôl, penderfynodd ail-afael yn ei hyfforddiant unwaith eto i gael yr ail drwydded. Pan benderfynodd ddechrau ei hastudiaethau eto, cysylltodd â phrosiect Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) Unite i weld pa gymorth oedd ar gael.

Cyllid WULF yn ei gwneud hi'n hawdd parhau i astudio

Mae prosiect WULF Unite yn cynnig bwrsariaethau tuag at gostau hyfforddiant i helpu i wella sgiliau gwaith a rhagolygon swyddi. Drwy brosiect WULF Unite, llwyddodd Joanne i sicrhau bwrsariaeth ar gyfer y cwrs hyfforddi. I Joanne, rhoddodd yr arian gymhelliad iddi ail-afael yn ei hyfforddiant eto.

Roedd cydlynwyr WULF Unite yn gefnogol iawn... Rhoddodd (y fwrsariaeth) yr hwb oedd ei angen arna i... mae'n ei gwneud hi'n hawdd iawn parhau i astudio. Does gen i ddim esgus i beidio dechrau astudio. Doedd dim byd yn fy nal yn ôl...

Joanne West, peiriannydd BA

Erbyn hyn mae Joanne wedi derbyn rhai o'r cymwysterau angenrheidiol ar gyfer y drwydded ac mae hi'n parhau i astudio ar gyfer y rhai sy'n weddill. Pan fydd hi'n cwblhau'r cymhwyster, bydd yn un o ychydig iawn o weithwyr sydd wedi ennill y ddau gymhwyster. Bydd hyn yn gwella ei chyflogadwyedd ac yn rhoi cyfleoedd iddi symud ymlaen fel peiriannydd ar y safle.

Cael gwared ar rwystrau ariannol i ddysgu

Mae Joanne yn credu bod y fwrsariaeth yn gyfle pwysig i beirianwyr sydd newydd ddechrau eu hyfforddiant yn BA. Mae'n arbennig o bwysig i weithwyr sydd ar gyflogau is. Mae cost astudio yn eithaf sylweddol. Mae'r fwrsariaeth yn helpu i gael gwared ar unrhyw rwystrau ariannol i hyfforddiant. Mae hyn yn galluogi pobl i wella eu cymwysterau a'u rhagolygon a symud i fyny’r bandiau cyflog.

Dywed Joanne, "Rwy'n gwybod y byddai llawer o bobl eraill yn teimlo’r un fath o gael y fwrsariaeth hon. Mae'n rhoi hwb i chi ddysgu – a dilyn patrwm ar ôl hynny... Cau’r bwlch y mae’r hyfforddiant a chael gwared ar y rhwystrau. Rydyn ni i gyd wedi hunan-ariannu, dyna pam mae bwrsariaethau'n bwysig i bobl."

Bellach mae Joanne yn gweithio i annog eraill i wneud cais am y fwrsariaeth a pharhau gyda'u hyfforddiant. "Ein cam nesaf yw denu’r ceisiadau er mwyn rhoi cyfle i eraill gael y fwrsariaeth."

I West, mae'r fwrsariaeth wedi rhoi hwb o'r newydd iddi ddatblygu ei sgiliau yn y gwaith. "Mae wedi rhoi'r cymhelliant i mi eleni i ddal ati ac i geisio cael fy nhrwydded arall... Rwy'n ddiolchgar iawn am y gronfa am y rheswm hwn. Yn y dyfodol dwi'n meddwl y bydda i'n parhau i astudio."

Sut i gael cymorth hyfforddiant gan WULF

Angen cwblhau rhywfaint o hyfforddiant i ddatblygu yn eich gyrfa? Neu eisiau mynd yn ôl i ddysgu i gael boddhad a'r buddion iechyd meddwl y gall eu cynnig? Edrychwch ar y prosiectau WULF sydd ar gael trwy'r undebau sy'n gweithio yn eich gweithle.

Os nad ydych chi'n aelod o undeb, mae’n dal yn bosibl i chi gael mynediad at gymorth drwy WULF.

I wybod pa undeb(au) sy'n gweithio yn eich sector defnyddiwch ein hadnodd dod o hyd i undeb