Dyddiad cyhoeddi
Wrth ymateb i ddatganiad y Canghellor heddiw (dydd Iau) yn cyhoeddi cynllun diogelu gweithwyr a'r economi ar gyfer y gaeaf, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Shavanah Taj:

"Mae undebau wedi bod yn pwyso'n galed am gymorth swyddi parhaus i bobl sy'n gweithio. Yr ydym yn falch bod y Canghellor wedi gwrando a gwneud y peth iawn."

"Bydd y cynllun hwn yn gymorth mawr i lawer o gwmnïau sydd â dyfodol hyfyw y tu hwnt i'r pandemig."

"Ond mae busnes anorffenedig o hyd. Ni ddylid gwastraffu’r oriau lle nad ydy gweithiwr yn gweithio. Rhaid i’n llywodraethau weithio gyda busnesau ac undebau i gynnig ailhyfforddi o ansawdd uchel i baratoi gweithwyr ar gyfer economi'r dyfodol. Byddwn yn siarad â Llywodraeth Cymru hefyd am sut y gallant fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd i weithwyr ar y cynllun."

"A byddwn yn edrych yn fanwl ar y manylion i sicrhau bod llinynnau ynghlwm."

"Dylai Llywodraeth y DU dargedu cymorth at ddiwydiannau sy'n wynebu gaeaf caled, a darparu cymorth wedi'i dargedu'n well i’r teuluoedd sydd fwyaf tebygol o brofi caledi a dyled."

O ran y camau pellach sydd eu hangen yn awr, dywedodd Shavanah Taj:

"Rhaid i ni ddefnyddio'r cyfnod gwarchodedig hwn i wneud yr economi'n fwy gwydn a tecach, ac i gynllunio adferiad gwyrdd cryf. Gydag achosion Covid ar gynnydd eto, rhaid i Lywodraeth y DU roi i gyrff gorfodi'r adnoddau sydd eu hangen arnynt i sicrhau bod pob gweithle yn ddiogel ac rydym yn gweithio gyda Fforwm Iechyd a Diogelwch newydd Llywodraeth Cymru fel bod pob cam posibl yn cael ei gymryd yma i gefnogi gweithgarwch gorfodi."

"Mae angen i Lywodraeth Cymru hefyd chwarae ei rhan i sicrhau bod eu cynllun adfer economaidd yn seiliedig ar sicrhau bod cymorth i fusnesau ynghlwm wrth arferion gwaith teg drwy Gontract Economaidd cryfach a chadarn gyda chyflogwyr."