Dyddiad cyhoeddi
Wrth sôn am y ffigurau cyflogaeth ddiweddaraf a gyhoeddwyd heddiw (dydd Iau), dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Shavanah Taj:

"Mae trychineb cenedlaethol yn datblygu. Mae swyddi gwag ar eu hisaf ers amser hir, mae pobl yn colli eu swyddi bob dydd ac mae gweithwyr ifanc yn cael hi’n anodd ymuno â'r farchnad swyddi. Ond mae Llywodraeth y DU yn gwylio o'r llinellau ochr, yn hytrach nag achub swyddi gyda chymorth wedi'i dargedu ar gyfer y sectorau sy'n dioddef mwyaf fel manwerthu, gweithgynhyrchu  ac awerynnu.

"Po fwyaf o bobl sydd gennym mewn gwaith, y cyflymaf y byddwn yn gweithio ein ffordd allan o ddirwasgiad. Heb gamau cynhwysfawr i ddiogelu a chreu swyddi gwaith teg o ansawdd da, bydd yr argyfwng economaidd yn hiraf ac yn galetach.

"Gallwn greu swyddi drwy weithredu’n gyflym ar brosiectau isadeiledd. Gallwn adeiladu economi wyrddach a thecach yng Nghymru drwy fuddsoddiadau mawr mewn prosiectau ynni adnewyddadwy fel morlynnoedd llanw, isadeiledd teithio carbon isel, rhaglen tai cymdeithasol gwerdd uchelgeisiol, a chynllun ôl-ffitio cenedlaethol i ddatgarboneiddio stoc tai Cymru.

"Ond er mwyn cyflawni hyn, mae angen i San Steffan roi lefel o gyllid i Lywodraeth Cymru sy'n cyfateb i ddifrifoldeb yr heriau a wynebwn."