Dyddiad cyhoeddi
Rhaid i gynlluniau adfer Llywodraeth Cymru ar gyfer Covid flaenoriaethu twf gwyrdd i hybu swyddi a’r economi wrth ddiogelu’r hinsawdd, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan TUC Cymru.

Er mwyn cael ‘adferiad gwyrdd a thrawsnewidiad cyfiawn, mae’n rhaid cael ysgogiad economaidd enfawr i gyflawni ‘trawsnewidiad cyfiawn’ i economi sero-net i weithwyr a chymunedau Cymru.

Gallai Cymru weld enillion enfawr ar fuddsoddiad a miloedd o swyddi newydd pe bai gan Lywodraeth Cymru fwy o arian i fuddsoddi mewn adeiladwaith carbon isel, prosiectau ynni adnewyddadwy a chartrefi cynaliadwy.

Gydag ofnau o ddirwasgiad a diswyddiadau yn sgil argyfwng Covid, mae’r TUC yn galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu cyllid ar gyfer cynllun gwarantu swyddi sy’n cefnogi datgarboneiddio. Mae TUC Cymru am weld y cynllun hwn yn cael ei reoli a’i ddarparu gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth gymdeithasol ag undebau llafur a chyflogwyr Cymru.

Dywed yr adroddiad:

  • Mae Cymru angen llwybr clir wedi’i ariannu tuag at sero-net sy’n manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i ddiogelu a chreu swyddi gwyrdd o ansawdd da sy’n cynnig gwaith teg.
  • Mae’n rhaid i weithwyr gael llais canolog wrth gynllunio’r trawsnewidiad i ‘sero-net’, trwy drafod gyda Llywodraeth Cymru a thrwy ‘gytundebau trawsnewidiad’ yn y gweithle y cytunir arnynt gyda’r undebau.
  • Rhaid i gyflogwyr weithio gyda’r undebau i ddatblygu mentrau cynaliadwyedd yn y gweithle.
  • Mae angen mwy o gyllid ar weithwyr ar gyfer sgiliau er mwyn darparu llwybr clir tuag at swyddi newydd, mwy gwyrdd.

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifenydd Cyffredinol TUC Cymru:

“Mae adeiladu’r adferiad o Coronafeirws yn her a wynebir unwaith mewn cenhedlaeth ond, mae hefyd yn gyfle i ni ddod at ein hunain yn well.

“Yng Nghymru, rydym yn credu mai’r catalydd fydd undebau llafur, cyflogwyr a’r llywodraeth yn cydweithio mewn partneriaeth gymdeithasol er mwyn cyflawni adferiad gwyrddach a thecach, a llwybr tuag at Gymru sero-net.

“Mae undebau llafur Cymru yn croesawu camau gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Rydym yn cefnogi galwadau ar i Gymru gael mwy o hyblygrwydd yn ei phwerau benthyg er mwyn buddsoddi yn ei blaenoriaethau hinsawdd. Ond, ni all Cymru gyflawni’r trawsnewidiad hwn heb gynnydd sylweddol mewn cyllid, buddsoddiad a newidiadau polisi gan San Steffan.

“Mae mudiad yr undebau llafur yng Nghymru yn cefnogi’r frwydr i ddiogelu ein planed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydym yn cefnogi’r gweithwyr hynny y mae eu swyddi mewn perygl a gweithwyr iau sy’n ceisio cael mynediad i’r farchnad waith. Rhaid cymryd camau nawr er mwyn sicrhau y bydd yr adferiad a’r trawsnewidiad ôl-Covid i economi sero-net yn un cyfiawn a gwirioneddol.