Dyddiad cyhoeddi
Ar 30 Mawrth, fe wnaethom gynnal digwyddiad yn y Senedd i lansio rownd newydd Cronfa Ddysgu Undebau Cymru (WULF) yn swyddogol.
#WULFWorks

Yn y rownd hon, bydd 18 o brosiectau newydd yn darparu cyfleoedd dysgu yn y gweithle i filoedd o bobl rhwng nawr a 2025.

Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol ac roedd yn cynnwys cyfraniadau gan brosiectau WULF o’r rownd flaenorol, a oedd yn dangos eu llwyddiannau. Roedd cyflwyniadau a straeon gan undebau CWU, ASELF a GMB yn tynnu sylw at y gwaith unigryw mae WULF yn ei wneud mewn cannoedd o weithleoedd ledled Cymru.

Mae holl weithwyr Cymru yn cael cyfle i wneud cais i’r gronfa er mwyn manteisio ar y cymorth, y cyngor a’r arweiniad a’r cynigion hyfforddi a ddarperir drwy brosiectau WULF. 

Dysgwch sut gallwch chi gael cymorth gan yr 18 prosiect WULF newydd ar gyfer 2022-2025.

Cafodd y digwyddiad ei noddi gan Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, a siaradodd i dynnu sylw at y rhesymau pam mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi’r rhaglen:

Vaughan Gething

“Roedd WULF wedi sicrhau canlyniadau cadarnhaol i weithwyr yn ystod yr amodau heriol iawn a gafodd eu creu gan bandemig y coronafeirws, ac rydw i eisiau gweld y llwyddiant hwnnw’n parhau wrth i ni drawsnewid i economi wyrddach sy’n fwy ffyniannus i bawb”

Gwyliwch araith y Gweinidog wrth iddo lansio’r prosiectau WULF newydd.

Shavanah Taj

Siaradodd ein Hysgrifennydd Cyffredinol, Shavanah Taj, yn y digwyddiad hefyd a diolchodd i’r undebau, staff y prosiect a’r gwirfoddolwyr sy’n gwneud y rhaglen mor llwyddiannus:

“Rydyn ni’n croesawu tair blynedd arall o WULF ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gyflawni rhagor o brosiectau cyffrous i baratoi gweithluoedd Cymru ar gyfer trawsnewid gwyrdd, cyfiawn sy’n gynhwysol ac yn deg i bawb”


Dathlu llwyddiant WULF 2019-2022

Yn ogystal â lansio’r 18 prosiect newydd, roedd ein digwyddiad yn gyfle i dynnu sylw at lwyddiannau allweddol prosiectau a ddarparwyd gan undebau llafur dros y tair blynedd diwethaf.

Darllenwch fwy am lwyddiant rhaglen WULF 2019-2022


Gwyliwch ddigwyddiad dathlu #WULFWorks yn llawn:

Emma Penman

ASLEF

Eglura Emma Penman sut y bu ASLEF yn gweithio ar greu’r brentisiaeth gyntaf erioed i yrwyr trenau yng Nghymru:

Gwyliwch y fideo am Gynllun Prentisiaeth Gyrwyr Trên ASLEF yma.

CAF Rolling Stock

GMB

 

CAF Rolling Stock yn croesawu cefnogaeth GMB.


Mae’r dysgwr a Chynrychiolydd Dysgu Undeb CWU, Craig Kinsey, yn siarad am ei gwrs Mynediad Agored gyda’r Brifysgol Agored yng Nghymru: