Dyddiad cyhoeddi
Ydych chi’n poeni nad ydych chi’n gallu aros yn ddiogel rhag y coronafeirws yn eich gweithle? Rhannwch eich pryderon iechyd a diogelwch â ni gan ddefnyddio’n ffurflen datgelu.

Oes gennych y Cyfarpar Diogelu Personol sydd ei angen arnoch i aros yn ddiogel? Ydych chi’n gallu cadw 2 metr i ffwrdd o'ch cydweithwyr (yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru)? Ydych chi’n gallu golchi eich dwylo pryd bynnag fyddwch chi angen gwneud hynny? Os nad ydych yn gallu, dywedwch wrthym ni am y problemau yn eich gweithle.

(Cliciwch yn y cornel chwith ar y ffurflen i newid yr iaith i Gymraeg) 


Byddwn yn rhannu eich pryderon iechyd a diogelwch yn ddienw â Llywodraeth Cymru a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Os byddwch yn rhoi caniatâd i rannu eich manylion, byddwn yn adrodd y mater i'ch undeb llafur ar eich rhan.

Beth allaf ei wneud os nad ydw i’n teimlo’n ddiogel yn y gwaith?

Dywedwch wrth rywun!

Os oes gennych bryderon am rywbeth mae eich cyflogwr yn ei wneud sydd ddim yn ymwneud â’ch iechyd a diogelwch, llenwch yr arolwg yma.

Pa newidiadau gall fy nghyflogwr eu gwneud i fy nghadw’n ddiogel yn ystod y coronafeirws?

Dylai eich cyflogwr eich galluogi i weithio o gartref os yw’n bosibl.

Os nad yw’n bosibl i chi weithio o gartref, gall eich cyflogwr gymryd sawl cam:

  • Rhoi shifftiau ac amseroedd egwyl cyfnewidiol ar waith yn syth er mwyn lleihau nifer y bobl sydd yn y gweithle.
  • Helpu staff i ddod i’r gwaith yn y ffordd fwyaf diogel posibl (ee peidio â chodi tâl parcio er mwyn lleihau angen y gweithwyr i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu ganiatáu i staff deithio’n ystod amseroedd llai prysur).
  • Newid patrymau’r gweithwyr er mwyn galluogi iddynt gadw pellter cymdeithasol (ee cyflwyno shifftiau cyfnewidiol a gwahanu amseroedd dechrau a gorffen).
  • Ymgynghori â chynrychiolwyr a phwyllgorau undebau iechyd a diogelwch – fel sydd eisoes yn ofynnol yn ôl y gyfraith.
  • Darparu cyfarpar diogelu personol a chyfleusterau ymolchi a newid.
  • Atal defnyddio systemau clocio biometreg ac offer sy’n cael eu rhannu
  • Rhoi mynediad at gyfleusterau ymolchi i weithwyr, fel sydd eisoes yn ofynnol yn ôl y gyfraith, cyflwyno trefniadau glanhau llym a sicrhau bod cyfarpar diogelu personol priodol ar gael.
  • Darparu cyfleusterau newid i roi’r opsiwn i weithwyr newid eu dillad cyn dechrau gweithio a chyn mynd adref.

Os nad yw eich cyflogwr yn rhoi’r camau hyn ar waith, dywedwch wrthym ni.

(Cliciwch yn y cornel chwith ar y ffurflen i newid yr iaith i Gymraeg) 
 

Pa newidiadau hoffem ni i’r llywodraeth eu gwneud?

Rydyn ni’n poeni bod llawer o bobl sy’n methu gweithio o gartref yn agored i risg ddiangen Covid-19 oherwydd nad ydy eu cyflogwyr yn rhoi digon o fesurau diogelwch ar waith.

Yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru dylai'ch cyflogwr cymryd pob cam rhesymol i gynnal pellter corfforol yn y gweithle. Darllenwch mwy am y canllawiau 2 metr

Rydyn ni’n galw am:

  • Rheolau newydd cryf gan y llywodraeth am y mesurau diogelwch y dylai cyflogwyr eu rhoi ar waith
  • Pob cyflogwr sy’n disgwyl i’w gweithwyr ddod i’r gwaith lenwi asesiad risg ffurfiol llawn, gan ddilyn arweiniad y llywodraeth a chynnwys eu hundebau staff.
  • Diogelwch i weithwyr sy’n gwrthod mynd i’r gwaith yn ystod y cyfnod yma oherwydd eu bod yn ofni eu bod yn cael eu rhoi mewn perygl o’r Covid-19 pan mae modd osgoi hynny.

Mae TUC Cymru’n credu bod angen gorfodi rheoliadau diogelu’r gweithle’n gryfach er mwyn diogelu gweithwyr unigol a’u teuluoedd, ac i arafu lledaeniad y feirws.

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifenydd Cyffredinol TUC Cymru:

“Gan fod heintiau’r coronafeirws yn cynyddu, mae gan gyflogwyr a’r llywodraeth ddyletswydd i wneud popeth yn eu gallu i gadw eu gweithwyr yn ddiogel.

“Ond mae llawer o bobl sy’n gorfod gweithio, gan gynnwys gweithwyr rheng flaen, yn poeni am eu hamodau gweithio. Mae llawer o bobl yn dweud wrthym ni nad ydynt yn cael y cyfarpar diogelu personol priodol neu’n dweud nad ydynt yn gallu cadw pellter cymdeithasol. Mae arweiniad yn dal i gael ei lunio a’i roi ar waith mewn amrywiaeth o ffyrdd.

“Dylai neb orfod peryglu eu bywydau na rhoi eu teuluoedd a’r gymuned ehangach mewn perygl o gael y feirws. Dyna pam rydyn ni eisiau i bobl rannu eu pryderon â ni, er mwyn gallu eu rhannu ag undebau a’r llywodraeth ac ymyrryd yn syth, gan frwydro dros eu hawl i gael gweithle diogel a gweddus”.