Dyddiad cyhoeddi
Mae angen eich help chi arnom ni i ddeall sut mae gweithwyr du a lleiafrifoedd ethnig (BME) yng Nghymru yn cael eu trin yn ystod yr argyfwng coronafeirws a chyn hynny. Ydych chi’n teimlo eich bod wedi cael eich trin yn annheg neu ydych chi wedi gorfod wynebu lefel uwch o risg na phobl eraill?

Mae gweithwyr BME wedi rhannu eu profiadau o ddioddef sawl math o gamwahaniaethu - cael eu dewis ar gyfer gwaith sy’n fwy peryglus neu anodd, peidio â chael cyfarpar diogelu personol digonol, peidio â chael eu rhoi ar ffyrlo er bod ganddyn nhw gyflyrau iechyd, cael eu targedu pan fydd oriau neu swyddi’n cael eu torri a chael eu cam-drin yn hiliol gan gydweithwyr neu gwsmeriaid.  Mae hyn ar ben peidio â chael tâl teg, peidio â chael cyfleoedd i symud ymlaen neu deimlo y gwahaniaethir yn eu herbyn.

Yn aml nid yw’r gweithwyr hyn yn teimlo eu bod yn gallu codi materion gyda’u cyflogwr oherwydd bod arnynt ofn cael eu herlid. Mae arnom eisiau cefnogi gweithwyr BME i roi tystiolaeth o’u profiad yn y gwaith, yn enwedig gan fod eich lleisiau wedi bod ar goll i raddau helaeth o’r drafodaeth bresennol.

Mae arnom eisiau i weithwyr BME rannu eu profiadau o weithleoedd yng Nghymru ac awgrymu beth sydd angen newid. Mae angen i ni wneud yn siŵr bod lleisiau gweithwyr BME yn cael eu rhoi wrth galon unrhyw drafodaethau am effaith Covid-19 ar weithwyr BME a sut dylid mynd i’r afael â hiliaeth yn y gweithle.

Gwnewch yn siŵr bod eich pryderon yn cael eu clywed. Llenwch ein harolwg.