Dyddiad cyhoeddi
Yn dilyn trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar ailagor y sector lletygarwch dan do dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Shavanah Taj, y canlynol.

Mae TUC Cymru a'n hundebau cysylltiedig yn y sector lletygarwch yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi dyddiad ailagor y sector lletygarwch dan do.

Rydym yn croesawu trafodaethau heddiw gyda Llywodraeth Cymru ar ddatblygu mesurau lliniaru, sy'n cynnwys asesiadau risg penodol Covid-19 a chanllawiau manwl sy'n hollbwysig i ddiogelu gweithwyr.

Mae llawer o weithwyr yn bryderus am eu rhagolygon cyflogaeth yn y dyfodol wrth i'r cynllun ffyrlo ddirwyn i ben ac mae nifer cynyddol o gyflogwyr yn cyflwyno hysbysiadau diswyddo. Mae gweithwyr a chyflogwyr yn credu y gallai dyddiad ailagor lletygarwch dan do roi sicrwydd i'r sector ac atal mwy o golledion swyddi.

Cred yr undebau llafur y byddai'n rhaid ystyried pwynt adolygu ar gyfer agor tafarndai, bariau a chaffis yn yr awyr agored wrth bennu dyddiad agor. Bydd angen amser hefyd ar fusnesau i roi mesurau diogelwch priodol mewn lle. Ni ellir rhoi unrhyw weithiwr mewn perygl er mwyn i fusnes oroesi.  

Mae undebau hefyd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddod â gweithwyr hunangyflogedig a llawrydd yn ôl i'r gwaith drwy gyflwyno cerddoriaeth fyw a pherfformiadau'n ddiogel, gan edrych i wledydd eraill am enghreifftiau o arfer da. Fel y cam nesaf, byddem yn croesawu canllawiau cliriach ac amserlen ar gyfer dychwelyd y celfyddydau perfformio.

Rydym yn parhau i fod yn glir bod PPE, y strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu (gyda chymorth ariannol fel nad oes cosb tâl am hunan-ynysu), mynediad i undebau llafur, cynrychiolwyr iechyd a diogelwch, rheoleiddio a gorfodi'r rheol 2 fetr yn allweddol i lwyddiant ailagor, fel y mae gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol.