Dyddiad cyhoeddi
Stuart Egan, cynrychiolydd undeb y gweithle, feddyliodd am y syniad o greu perllan a gardd bywyd gwyllt gymunedol mewn ardal o Ysbyty Llandochau oedd ddim yn cael ei defnyddio.
Cynrychiolydd UNSAIN mewn ysbyty yn creu hafan gwyrdd i gleifion, staff a natur

Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, mae dros 150 o goed wedi’u plannu yn y berllan ar ôl ymdrech fawr i godi arian gyda chefnogaeth aelodau UNSAIN, yr ysbyty a’r gymuned leol. Dyma’r cyntaf o’i fath yn y DU, gan gynnig manteision enfawr i fywyd gwyllt, planhigion a phobl.

Egin syniad

Stuart Egan, gweithiwr yn yr ysbyty a chadeirydd cangen UNSAIN, feddyliodd am y syniad ar ôl siarad â chydweithwyr. Eglurodd Stuart: “Fe gododd manteision iechyd coed wrth sgwrsio â rhai o nyrsys iechyd y cyhoedd. Ar ôl bod yn Llandochau ers dros 30 mlynedd, rwyf wedi gweld safle’r ysbyty gwreiddiol yn ehangu i’r graddau bod yr holl fannau gwyrdd a fyddai wedi’u defnyddio gan staff ac ymwelwyr am dawelwch ac i fyfyrio, wedi diflannu.

“Roeddwn i’n gwybod bod darn o dir ym mhen pellaf safle’r ysbyty. Roedd yn ddarn gwyrdd o dir na ellid adeiladu arno. Roeddwn i'n gallu gweld y potensial ar gyfer perllan a man gwyrdd fyddai’n cynnig manteision enfawr i lesiant meddyliol a chorfforol staff, cleifion a’r gymuned ehangach. Penderfynais edrych i mewn i’r syniad a chasglu cymaint o wybodaeth ag y gallwn.”

Rhoi cynllun at ei gilydd

Rhoddodd Stuart y cynllun at ei gilydd a’i gyflwyno i fwrdd yr ysbyty. Cafodd gefnogaeth unfrydol uwch swyddogion. Sefydlwyd grŵp prosiect a chomisiynwyd cynllunydd gerddi. Rhoddodd gynllun at ei gilydd gyda’r dirwedd naturiol mewn cynllun ‘cilfwa tro’.

Plannu ‘Ein Berllan’

Mae’r prosiect Ein Berllan yn cynnwys 15 erw ac yn costio £250,000. Bu’n rhaid ei ariannu'n gyfan gwbl drwy roddion elusennol. Cynhaliwyd ymgyrch codi arian enfawr gan Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro ac aelodau UNSAIN a gymerodd ran ym mhob math o weithgareddau - o werthu cacennau i eillio pennau. Darparodd sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru, Tesco, British Gas a’r Principality gefnogaeth hefyd drwy roi amser, arian neu offer. Helpodd aelodau UNSAIN a gwirfoddolwyr o fusnesau lleol i blannu’r coed.

Dywedodd Stuart: “Mae’r afalau cyntaf eleni wedi cyrraedd. Plannwyd 150 o goed ond yn anffodus, fe gollwyd rhai ohonyn nhw yn y sychder ofnadwy yn ystod y flwyddyn gyntaf. Mae'n ddyddiau cynnar o hyd ac rydym yn dal i ddibynnu ar gronfeydd elusennol. Rydym hefyd wedi cael help garddwriaethwyr sydd ag arbenigedd mewn coed afalau. Mae’n brosiect hirdymor, ond rydyn ni wedi cael llawer o gefnogaeth a gallwch weld yn barod pa mor wych y bydd yn y dyfodol.

Hafan i staff, cleifion a theuluoedd

Mae Stuart yn falch o’r hyn y mae’r prosiect wedi’i gyflawni: “Rydym eisiau i’r byd wybod am y berllan rydym yn ei chreu yn Ysbyty Llandochau y bydd staff, cleifion a theuluoedd yn elwa ohoni. Bydd y berllan yn hafan i ymlacio, i grio, i gael paned a gallwch wirfoddoli hyd yn oed i helpu gyda'r garddio. Hwn fydd y cyntaf o'i fath yn y DU, sy’n cynnig lle y gallwch ddianc rhag sŵn y wardiau, a bod y tu allan yn yr awyr iach.

Hafan i staff, cleifion a theuluoedd

“Bydd rhandiroedd i dyfu llysiau i'w defnyddio yn ffreutur yr ysbyty ac rydym yn cadw gwenyn. Mewn partneriaeth arloesol â Phrifysgol Caerdydd, bydd y mêl a gynhyrchir – a’r nodweddion gwrthfacterol ynddo – yn cael ei ddefnyddio fel sylfaen ar gyfer ymchwil i wrthfiotigau i helpu i achub bywydau.”

Cefnogi natur a’r gymuned

Yn ogystal â’r berllan, mae cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y safle yn cynnwys dolydd blodau gwyllt, gardd fforest a rhandiroedd ar gyfer therapi garddwriaethol i gleifion iechyd meddwl. Bydd y safle hefyd yn cynnwys gardd apothecari, gwlyptir, coetir a theras â mynediad i bobl anabl.

Mae safle’r berllan wedi helpu bwrdd yr ysbyty i ddod y cyntaf yng Nghymru i gyflawni statws Caru Gwenyn. Mae hynny’n golygu ei fod wedi ymrwymo i gynllun Caru Gwenyn Cymru i ddarparu blodau sy’n ystyriol o bryfed peillio drwy gydol y flwyddyn, rhoi llefydd i beillwyr pryfed fyw, osgoi cemegau sy’n niweidio peillwyr a chynnwys y gymuned gyfan.

Mae'r prosiect bellach wedi cychwyn ar gyfnod cyffrous newydd gyda datblygiad y ddôl ar y safle. Gan weithio mewn partneriaeth â Down to Earth, maent yn cynnwys y gymuned gyfan i gyd-gynhyrchu syniadau ar sut i wneud y mwyaf o'r gofod ar gyfer iechyd, adsefydlu a natur.

Lle gwyrdd i genedlaethau’r dyfodol

Eglurodd Stuart: “Mae’n mynd i fod yn lle y gall pawb fynd. Gall staff gerdded yno am gyfarfod. Rydym wedi croesawu disgyblion yr ysgol leol yno i sefydlu gwesty pryfed gyda Dr Rhys Jones sydd wedi dod yn llysgennad y prosiect. Mae nant fach a digonedd o fywyd gwyllt. Rydym yn monitro bioamrywiaeth ac yn gwneud popeth o fewn ein gallu i annog mwy o fywyd gwyllt.

Yn ogystal â lliniaru peryglon llifogydd, darparu cynefinoedd bywyd gwyllt a chynyddu bioamrywiaeth, gall mannau gwyrdd o ansawdd da helpu i wella ansawdd aer. Mae llygredd aer wedi'i gysylltu â thwf gwael mewn plant a chyflyrau fel asthma, clefyd y galon a dementia

Gwneud eich gweithle’n wyrddach

Dywedodd Stuart: “Mae'n bendant yn rhywbeth y byddaf yn annog eraill i'w wneud yn eu gweithle. Os gallwch weld darn o dir sydd â photensial, gwnewch ychydig o ymchwil a pharatowch gynllun. Gofynnwch am help arbenigwyr os oes angen. Gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mae’n annhebygol iawn y bydd unrhyw un yn dweud na. Mae'r gefnogaeth rydyn ni wedi'i chael wedi bod yn wych ac mae'n rhywbeth a fydd o fudd enfawr i genedlaethau’r dyfodol.”

Os yw stori Stuart wedi’ch ysbrydoli chi, mae sawl ffordd y gallwch gymryd rhan yn ymgyrchoedd yr undebau llafur am weithleoedd gwyrddach, iachach a mwy cynaliadwy. Mae hyfforddiant a chefnogaeth ar gael. Siaradwch â’ch undeb i gael gwybod mwy ac ewch i www.tuc.org.uk/green