Mae ein hawl i streicio dan fygythiad.
Ar hyn o bryd mae Senedd y DU yn trafod Mesur sy'n golygu y gellid gorfodi gweithwyr sydd wedi pleidleisio’n ddemocrataidd i weithio, a gellid eu diswyddo os na fyddan nhw'n gwneud hynny.
Mae hynny'n anghywir, yn anymarferol, a bron yn sicr yn anghyfreithlon.
Yn fwy na hynny, ni ddylai'r Bil fod yn berthnasol i Gymru. Mae'r Bil hwn yn ymwneud â darparu gwasanaethau cyhoeddus - sy'n fater i'n Senedd.
Mae'r cyfreithiau newydd hyn yn ymosodiad uniongyrchol ar hawl sylfaenol gweithwyr i streicio i amddiffyn eu cyflog, telerau ac amodau.
Write to your MP: Protect the right to strike
Wrth ymateb i ddeddfwriaeth newydd arfaethedig Llywodraeth y DU dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Shavanah Taj:
"Mae hwn yn ymosodiad ar yr hawl i streicio. Mae'n ymosodiad ar bobl sy'n gweithio. Ac mae'n ymosodiad ar ryddid Prydeinig hirsefydlog.
"Bydd undebau llafur yn ymladd hyn bob cam o'r ffordd. Rydym yn gwahodd pob gweithiwr - y sector cyhoeddus a phreifat, a phawb sydd eisiau amddiffyn ein rhyddid - i fod yn rhan o'n hymgyrch i amddiffyn yr hawl i streicio."