Mewn Undod mae Grym: Undebau a Chyflogwyr yn ymrwymo i Siarter Twf TUC Cymru
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Wed, 05 Aug 2026 - 14:00 to 14:40
Trosolwg

Mae’r Gymraeg, a thwf yn ei defnydd, yn fater o gydraddoldeb, cynhwysiant, tegwch a chyfiawnder ieithyddol i weithwyr, gweithleoedd a chymunedau Cymru.

Mae’n flwyddyn ers lansiwyd Siarter Twf TUC Cymru - Siarter y Gymraeg yn y Gwaith - yn Eisteddfod Wrecsam, ac mae nifer fawr o weithleoedd ar draws Cymru wedi  ymrwymo i’w fabwysiadu yn barod. O’r Gogledd i’r De, y Gorllewin i’r Dwyrain, a hyd yn oed o ben gopa’r Wyddfa i arfordir Sir Benfro mae’r gefnogaeth i’r Gymraeg yng ngweithleoedd Cymru yn amlwg i’w weld!!
Wrth i ardal ‘y garreg las’ ddathlu 850 mlynedd ers yr Eisteddfod gyntaf erioed yng Nghastell Aberteifi yn1176, mae TUC Cymru’n cyd-ddathlu gyda Chyngor Sir Gâr, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Penfro a Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro gan eu bod i gyd wedi ymrwymo i Siarter Twf a’i bedair egwyddor. Y De Orllewin felly yw’r rhanbarth cyntaf yng Nghymru i fabwysiadu Siarter Twf.

Mae’r sefydliadau yma i gyd wedi ymrwymo i fod yn weithleoedd dwyieithog cynhwysol fel mater o gydraddoldeb, tegwch a chyfiawnder ieithyddol ac i dyfu, hwyluso, hybu, cefnogi a chryfhau defnydd y Gymraeg yn y gwaith. O ganlyniad, byddant yn hyrwyddo a chefnogi mwy o gyfleoedd i bob gweithiwr ddefnyddio, dysgu a datblygu eu sgiliau Cymraeg. Mae hyn yn eu galluogi i weithio yn y Gymraeg o ddydd i ddydd ac yn normaleiddio'r defnydd o'r Gymraeg yn y gwaith.

Dewch i wrando ar ein panel yn trin a thrafod pynciau fel:

‘Pam fod gwneud ymrwymiad i Siarter Twf a chydweithio mewn partneriaeth gymdeithasol – fel undebau llafur a chyflogwyr - mor bwysig er mwyn hyrwyddo, hybu, a chefnogi twf yn nefnydd y Gymraeg mewn gweithleoedd? Beth yw’r manteision i weithwyr a chyflogwyr?’ 

‘Wedi ymrwymo i fod yn weithleoedd dwyieithog cynhwysol, sut byddwch yn cydweithio’n rhagweithiol o ddydd i ddydd i gefnogi a sicrhau cyfiawnder ieithyddol yn y gwaith? 

‘Sut byddwch yn gweithio i atal rhwystrau i siarad Cymraeg - fel diffyg cyfleoedd, agweddau negyddol, neu erydiad yn y defnydd dyddiol - achos gall y rhain danseilio hyder siaradwyr a chyfyngu ar eu defnydd o'r iaith a datblygiad eu sgiliau?’

‘Sut byddwch yn cyd-hyrwyddo gwerth sgiliau dwyieithog a sicrhau urddas a pharch siaradwyr a dysgwyr Cymraeg?’

‘Sut byddwch yn cydweithio i sicrhau’r amodau, cyfleoedd, cymorth a chanlyniadau teg a chyfartal i bob gweithiwr ddefnyddio a dysgu Cymraeg yn y gwaith a lle maen nhw’n teimlo eu bod nhw'n cael eu croesawu, eu cynrychioli a'u gwerthfawrogi?’
 

The Panel: 

Dr Mandy James- Swyddog Cyfathrebu Dwyieithog, TUC Cymru (Cadeirydd)

Osian Llywelyn-   Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg

Tegryn Jones-     Prif Weithredwr, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Gwyneth Ayers-   Rheolwr Polisi Corfforaethol, Perfformiad a Phartneriaeth, Cyngor Sir Gâr

Non Davies-         Rheolwr Corfforaethol – Celf, Diwylliant a’r Iaith Gymraeg, Cyngor Sir Ceredigion

Gaynor Toft-        Pennaeth Gwasanaethau Tai a Diogelu’r Cyhoedd, Cyngor Sir Penfro

Jonathan Lewis- Ysgrifennydd Cangen Unison Sir Benfro, Cyngor Sir Penfro ac ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Kate Gravell-       Cynrychiolydd Unison Sir Benfro, Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Gary Morris-        Cadeirydd Cangen GMB, Cyngor Sir Gâr a Chynrychiolydd y Gymraeg

Am fwy o wybodaeth am Siarter Twf ewch i www.tuc.org.uk/cy/Twf

 

Lleoliad
Mewn Undod mae Grym: Undebau a Chyflogwyr yn ymrwymo i Siarter Twf TUC Cymru

National Eisteddfod Genedlaethol 2026
Llantwd,
Nr Cardigan
Isycoed
Pembrokeshire
SA43 3NU
Y Deyrnas Unedig

Trafnidiaeth a Theithio

Welsh Government tent, 

Maes D, 

Eisteddfod y Garreg Las, 

Sir Benfro, 

2026 

Hygyrchedd

We want everyone attending TUC events to have a safe and enjoyable experience. If you require any adjustments or assistance to participate at this event, please let us know.