Bus driver and passenger
i
iStock - zamrznutitonovi
Teithio cynaliadwy i bawb – digwyddiad Rhwydwaith Gweithleoedd Gwyrddach
This event has ended
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Tue, 07 Nov 2023 - 10:00 to 12:00
Cost
Free
Trosolwg

Teithio cynaliadwy i bawb – digwyddiad Rhwydwaith Gweithleoedd Gwyrddach TUC Cymru

Ydy teithio gwyrddach yn gallu bod yn deg, yn fforddiadwy ac yn hygyrch i bawb?

Ymunwch â ni yn y digwyddiad hwn, lle byddwn yn edrych ar y materion sy’n ymwneud â symud at ddulliau teithio gwyrddach, beth mae’r rhain yn ei olygu i weithwyr a pham mae’n fater pwysig i undebau llafur.

Fel rhan o’r digwyddiad, byddwn yn lansio ein canllaw bargeinio sydd newydd gael ei ddiweddaru i gynrychiolwyr ar negodi ar gyfer teithio cynaliadwy yn y gwaith. Byddwn yn edrych ar ymgyrchoedd undebau llafur a strategaethau bargeinio, gan gynnwys:

  • Sut gallwn ni gefnogi a galluogi aelodau sy’n awyddus i ddewis dulliau teithio mwy cynaliadwy?
  • Sut beth yw cynlluniau teithio teg yn y gweithle?
  • Ymgyrch Unite i achub ein llwybrau bysiau – pam mae bysiau’n rhan hanfodol o drawsnewid cyfiawn
  • Cyflwyno fflydoedd ceir trydan mewn gweithleoedd – beth yw’r problemau i weithwyr?
  • Beth yw rôl polisïau trafnidiaeth rhanbarthol a chenedlaethol?

Siaradwyr:

  • Chris Roberts – Ymgyrchydd dros deithio cynaliadwy ac awdur canllaw bargeinio TUC Cymru
  • Alan McCarthy – Swyddog Rhanbarthol, Unite the Union
  • Mark Holt – Cynrychiolydd Gwyrdd/Iechyd a Diogelwch, Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu (CWU)
  • Nisreen Mansour – Swyddog Polisi, TUC Cymru

Yn ogystal â chlywed gan siaradwyr gwadd, bydd y digwyddiad yn cynnwys cyfleoedd i gyfranogwyr rwydweithio, cymryd rhan mewn trafodaeth a rhannu arferion da.

Cod ymddygiad

Mae’r TUC wedi ymrwymo i drefnu gweithgareddau y gall pawb gymryd rhan ynddyn nhw mewn amgylchedd cynhwysol, parchus a diogel. Nid yw’r TUC yn goddef unrhyw fath o aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol. Ni fydd ymddygiad neu sylwadau ymosodol, sarhaus, bygythiol, amharchus neu annerbyniol yn cael eu goddef. Mae hyn yn ategu’r ymrwymiad a nodir yn rheolau’r TUC i hyrwyddo cydraddoldeb i bawb ac i gael gwared â bob math o aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol, rhagfarn a gwahaniaethu annheg. Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob agwedd ar gyfathrebu mewn digwyddiad neu mewn cysylltiad â digwyddiad, gan gynnwys postiadau ar gyfryngau cymdeithasol.  Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn ag ymddygiad rydych chi eisiau eu codi yna cysylltwch â ni drwy e-bost: wtuc@tuc.org.uk

Trafnidiaeth a Theithio

Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal ar-lein drwy Teams. Cofrestrwch drwy ddefnyddio’r ddolen uchod i gael dolen ymuno.

Hygyrchedd

Rydyn ni eisiau i bawb sy’n dod i ddigwyddiadau’r TUC gael profiad diogel a phleserus. Os oes angen unrhyw addasiadau neu gymorth arnoch i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn, rhowch wybod i ni.