Risg yn sgil yr hinsawdd, addasu a’r gweithle: amddiffyn aelodau yn yr hinsawdd sy’n newid yng Nghymru
This event has ended
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Tue, 07 Dec 2021 - 10:00 to 11:45
Cost
am ddim
Trosolwg

Ymunwch â ni yn y digwyddiad hwn i drafod sut mae’r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar ein gweithleoedd. Byddwn yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud fel undebwyr llafur i sicrhau bod cyflogwyr yn ystyried effaith newid yn yr hinsawdd ac yn rhoi mesurau ar waith i warchod iechyd a diogelwch gweithwyr. Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys gweithdai i archwilio cwestiynau allweddol i undebwyr llafur:

· Beth mae cyflogwyr yn ei wneud i addasu i’r newidiadau o ran risgiau i’r tywydd yn sgil newid yn yr hinsawdd?

· A yw rhai aelodau’n meddwl nad oes angen i ni dreulio amser ar hyn pan fydd blaenoriaethau pwysig eraill?

· A yw aelodau’n gweld newid yn yr hinsawdd fel mater iechyd a diogelwch?

· A yw aelodau eisoes yn profi risgiau a tharfu sy’n gysylltiedig â’r tywydd ac, os felly, sut mae hyn yn effeithio arnyn nhw?

Bydd siaradwyr gwadd yn y digwyddiad, gan gynnwys:

· Catherine Payne, Sniffer – gwybodaeth o brosiect arloesol Adaptation Scotland/UNISON Scotland sy’n archwilio risgiau yn sgil yr hinsawdd ac yn meithrin y gallu i wrthsefyll yr hinsawdd yn y gweithle o safbwynt undeb llafur

· Graham Petersen, Greener Jobs Alliance – pa risgiau yn sgil yr hinsawdd sy’n wynebu gweithwyr yng Nghymru a sut gall undebwyr llafur ymgyrchu dros well cydnabyddiaeth o risg yn sgil yr hinsawdd ac addasu

· Siaradwr Llywodraeth Cymru i’w gadarnhau – Cynllun a pholisïau addasu Cymru a sut mae’r rhain yn berthnasol i’r gweithle

Bydd cyfle i gynnal trafodaethau grŵp, rhwydweithio ac i gael sesiwn holi ac ateb a thrafod â’r panel.

Beth yw ‘addasu’ i newid yn yr hinsawdd a pham ei fod yn fater i undebau llafur?

Yn aml, wrth feddwl am sut i ymateb i newid yn yr hinsawdd, mae’r rhan fwyaf o bobl yn meddwl am fesurau ‘lliniaru’ yn gyntaf. Camau gweithredu sy’n canolbwyntio ar leihau allyriadau er mwyn atal yr hinsawdd rhag cynhesu ymhellach yw'r rhain. Mae angen mesurau lliniaru ar frys, ond dim ond un ochr i’r geiniog gweithredu ar yr hinsawdd yw’r rhain.

Oherwydd effaith allyriadau cyfredol a hanesyddol, mae ein hinsawdd eisoes wedi cynhesu. Ac mae cynnydd pellach yn anochel gan fod oedi nes bydd effaith yr allyriadau hyn sydd ‘wedi’u cloi i mewn’ yn cael effaith lawn. Rydyn ni eisoes yn gweld rhywfaint o effaith nawr gyda thywydd mwy eithafol - fel Storm Dennis yn 2020 a’r tywydd poeth eithriadol yr haf hwn. Ond mae gwaeth i ddod, ac mae’n debyg y bydd y tymheredd ar gyfartaledd a pha mor aml y byddwn yn cael tywydd eithafol yn cynyddu.

Felly, yn ogystal â lleihau allyriadau, mae angen i ni hefyd feddwl ar frys am ymdopi â’r newidiadau sydd i ddod i’n hinsawdd. Gelwir camau i helpu i baratoi ar gyfer effaith newid yn yr hinsawdd ac ymdopi â hynny yn fesurau ‘addasu’ i newid yn yr hinsawdd. Dyma ochr arall y geiniog gweithredu ar yr hinsawdd ac mae yr un mor bwysig â lleihau allyriadau.

Ond ar hyn o bryd, nid yw llawer o’n gweithleoedd a’n harferion gweithio wedi’u paratoi’n dda o ran addasu i’r hinsawdd. Nid ydynt wedi’u cynllunio i ymdopi â’r amodau newydd hyn a’r tarfu cyson, yr effeithiau negyddol ar iechyd, diogelwch a lles a chynhyrchiant a ddaw yn eu sgil. Mae angen i gyflogwyr gydnabod y risgiau hyn a rhoi mesurau ar waith i ddiogelu iechyd a diogelwch gweithwyr. Mae angen gweithredu nawr i sicrhau bod gweithleoedd ac arferion gwaith yn diogelu gweithwyr ac yn addas ar gyfer y dyfodol.

Ar gyfer pwy mae’r digwyddiad hwn?

Bydd y digwyddiad hwn o ddiddordeb arbennig i gynrychiolwyr gwyrdd/amgylcheddol a chynrychiolwyr iechyd a diogelwch. Ond bydd hefyd yn berthnasol i swyddogion amser llawn, swyddogion cangen, stiwardiaid llawr gwaith a chynrychiolwyr eraill. Mae croeso i bob swyddog a chynrychiolydd undeb llafur. Rhannwch yn eang â chydweithwyr undebau llafur.

Gwybodaeth am y Rhwydwaith Gweithleoedd Gwyrddach

Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei gynnal fel rhan o Rwydwaith Gweithleoedd Gwyrddach TUC Cymru. Mae hwn yn rhwydwaith newydd sydd wedi’i sefydlu i gefnogi cynrychiolwyr undebau llafur sydd am hybu gweithleoedd gwyrddach a chynaliadwyedd. Ymunwch â ni ar gyfer y rhwydwaith cyfeillgar a chefnogol hwn sy’n agored i bob cynrychiolydd a gweithredwr, gan gynnwys cynrychiolwyr gwyrdd, cynrychiolwyr iechyd a diogelwch, cynrychiolwyr undebau, cynrychiolwyr dysgu undebau ac unrhyw gynrychiolwyr eraill sydd â diddordeb yn y pwnc.

Os ydych chi’n poeni am ddiogelu eich gwaith at ddyfodol gwyrddach a thecach, dylech fanteisio ar y rhwydwaith hwn.

Bydd y grŵp yn cwrdd ar-lein oddeutu bob yn ail fis. Bydd pob cyfarfod yn cynnwys siaradwyr gwadd i archwilio gwahanol bynciau, yn rhoi cyfle i gynrychiolwyr rwydweithio a rhannu arferion da, ac yn cynnwys diweddariad gan TUC Cymru.

Mae’r rhwydwaith yn cael ei gydlynu gan John James, Cydlynydd Astudiaethau Undebau Llafur yng Ngholeg Gwent a Stanley Ho o TUC Cymru.

Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad hwn ac os oes gennych chi unrhyw syniadau am bynciau neu siaradwyr mewn cyfarfodydd yn y dyfodol, anfonwch e-bost i swaihongho@tuc.org.uk gyda’ch awgrymiadau.

Os hoffech gael rhagor o syniadau a gwybodaeth am yr hyn mae undebau’n ei wneud i greu gweithleoedd gwyrddach, lawrlwythwch ein pecyn cymorth newydd - Gweithleoedd Gwyrddach ar gyfer Trawsnewid Cyfiawn. Beth am fwrw golwg ar dudalen ein hymgyrch hefyd, lle mae fideos yr ymgyrch a rhagor o wybodaeth ar gael.

Cod ymddygiad

Mae’r TUC wedi ymrwymo i drefnu gweithgareddau y gall pawb gymryd rhan ynddyn nhw mewn amgylchedd cynhwysol, parchus a diogel. Dydy'r TUC ddim yn goddef unrhyw fath o aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol. Ni fydd ymddygiad neu sylwadau ymosodol, bygythiol, amharchus neu annerbyniol yn cael eu goddef. Mae hyn yn cynnal yr ymrwymiad a nodir yn rheolau’r TUC i hyrwyddo cydraddoldeb i bawb ac i gael gwared ar bob math o aflonyddu, gan gynnwys aflonyddu rhywiol, rhagfarn a gwahaniaethu annheg. Mae’r polisi hwn yn berthnasol i bob agwedd ar gyfathrebu mewn digwyddiad neu mewn cysylltiad ag ef, gan gynnwys postiadau ar gyfryngau cymdeithasol.  Os oes gennych chi unrhyw bryderon ynglŷn ag ymddygiad rydych chi eisiau ei godi yna cysylltwch â ni ar e-bost: wtuc@tuc.org.uk

Hygyrchedd

Bydd capsiynau caeedig yn cael eu darparu yn y digwyddiad ar-lein hwn. Os oes gennych chi unrhyw anghenion hygyrchedd eraill y dylen ni fod yn gwybod amdanynt, cysylltwch â ni yn swaihongho@tuc.org.uk neu rhowch wybod i ni ar eich ffurflen gofrestru.