Workers planting workplace wildlife garden
i
SolStock (istock)
Rhwydwaith Gweithleoedd Gwyrddach TUC Cymru
This event has ended
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Tue, 13 Jun 2023 - 10:30 to 12:15
Cost
Am ddim
Trosolwg

Ymunwch â ni yn y rhwydwaith cyfeillgar hwn sy’n agored i’r holl swyddogion undebau llafur, cynrychiolwyr ac ymgyrchwyr – gan gynnwys cynrychiolwyr gwyrdd, cynrychiolwyr iechyd a diogelwch, cynrychiolwyr undebau, cynrychiolwyr undebau dysgu a swyddogion cangen eraill sydd â diddordeb mewn mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur ac i hyrwyddo cynaliadwyedd yn y gweithle.

Byddwn ni’n trafod y ddau bwnc canlynol yn rhwydwaith mis Mehefin:

- Sut gallwn ni ddatgarboneiddio cadwyni cyflenwi yn llwyddiannus?

Amcangyfrifir mai cadwyn gwerth sefydliad sy’n achosi 90 y cant o’i effaith amgylcheddol – naill ai oddi wrth y gadwyn gyflenwi, neu i gyfeiriad defnyddio cynnyrch. Mae dadansoddi a gweithredu i ddatgarboneiddio cadwyni cyflenwi yn gam hollbwysig i bob sefydliad sy’n ceisio lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd. Fodd bynnag, nid yw hyn bob amser yn syml. Mae llawer o’r materion hyn y tu hwnt i reolaeth uniongyrchol sefydliad. Yn y sesiwn hon, byddwn ni’n clywed gan Dr Anna Jones, Cynghorydd Rheoli Carbon a Risgiau Hinsawdd yn Cyfoeth Naturiol Cymru am eu gwaith yn datgarboneiddio eu cadwyni cyflenwi eu hunain a sut gellir rhannu’r hyn a ddysgwyd o’r gwaith hwn.

- Beth yw Grŵp Her Sero Net 2035 a sut gall undebau sicrhau bod ein lleisiau’n cael eu clywed?

Mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru - ar y cyd - wedi gwahodd grŵp annibynnol i edrych ar sut gall Cymru gyflymu’r broses o newid i sero net, a sut mae posib newid y targed hwn, o’r flwyddyn 2050 i 2035. Mae’r grŵp dan arweiniad Jane Davidson, y cyn Weinidog dros yr Amgylchedd, ac mae’n gyfrifol am ddychmygu sut beth yw dyfodol tecach a mwy cynaliadwy i Gymru. Mae’r grŵp eisiau i bobl a chymunedau ar hyd a lled Cymru, yn ogystal â ledled y byd, wrando ar eu profiadau a’u syniadau nhw am amrywiaeth o heriau allweddol. Dyma’r her gyntaf: Sut gallai Cymru gynnal ei hun erbyn 2035?  Bydd Jane Davidson a Stan Townsend o Grŵp Her Sero Net 2035 yn ymuno â ni i ddweud mwy wrthym am waith y grŵp ac i egluro sut gallwn ni sicrhau bod ein lleisiau’n cael eu clywed fel sail i’r ymateb i’r heriau. 

Byddwn ni hefyd yn cael llawer o gyfleoedd i rwydweithio a thrafod.

Cofrestrwch nawr

Hygyrchedd

We want everyone attending Wales TUC events to have a safe and enjoyable experience. If you require any adjustments or assistance to participate at this event, please let us know.