Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Fri, 10 May 2024 - 16:30 to
Sun, 12 May 2024 - 14:30
Cost
Am Ddim
Trosolwg

Datblygu Ymgyrchwyr Du yn Undebau Llafur Cymru

Er bod gweithwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn fwy tebygol o fod yn aelodau o undebau llafur, maen nhw’n dal i gael eu tangynrychioli fel cynrychiolwyr undebau, ymgyrchwyr, staff, swyddogion, arweinwyr gwleidyddol a llunwyr newid.

Mae angen i ni annog, addysgu a chefnogi’r rheini sydd â diddordeb mewn camu i fyny yn ein mudiad.
Mae Tasglu Gwrth-hiliaeth y TUC a Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr her hon.

Mae TUC Cymru yn ymateb drwy drefnu ail rifyn o’r rhaglen lwyddiannus i Ddatblygu Ymgyrchwyr Du. Rydym ni’n gobeithio y bydd y rhaglen yn helpu i ganfod, i gymell ac i ddenu aelodau ac ymgyrchwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Ymunwch â’n Rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du

Bydd rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du TUC Cymru yn rhedeg o 10 Mai 2024 ymlaen gyda phenwythnos preswyl 2.5 diwrnod (bydd y llety a’r arlwyo’n cael eu darparu). Bydd yn cynnwys sawl sesiwn wyneb yn wyneb ac ar-lein dros 6-8 mis.

Bydd y rhaglen yn rhoi cyfle i chi ddysgu am strwythur, amrywiaeth, negodi, blaenoriaethau ac arweinyddiaeth y mudiad undebau llafur. Bydd y sesiynau hefyd yn rhoi'r hyder a'r adnoddau i chi allu cymryd mwy o ran yn y strwythurau sydd gan eich undeb ar gyfer trefnu, dylanwadu a gwneud penderfyniadau.

Cofrestrwch ar gyfer y rhaglen nawr

Mae'r rhaglen yn dechrau gyda phenwythnos preswyl 2.5 diwrnod rhwng 10 a 12 Mai yng Nghaerdydd.

Mae’r sesiwn penwythnos yma yn fan cychwyn hanfodol i’r rhaglen lawn.

Pwy ddylai ddod i’r digwyddiad hwn?

Mae’r digwyddiad hwn i aelodau undebau llafur Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol sydd â diddordeb mewn dysgu rhagor am raglen Datblygu Ymgyrchwyr Du TUC Cymru.

Mae’r digwyddiad hefyd i unrhyw un mewn unrhyw undeb llafur sydd eisiau gwybod sut gallan nhw gefnogi ymgyrchwyr a chynrychiolwyr undebau llafur Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i chwarae mwy o ran yn eu hundebau.

Pam ei bod hi’n bryd cefnogi ein hymgyrchwyr Du ym mudiad undebau llafur Cymru

Ar draws ein hundebau cyswllt a’r TUC, mae gennym ni bobl wych ar Bwyllgorau Hil a seddi cadw. Ond rydyn ni angen ymgyrchwyr a chynrychiolwyr Du newydd sy’n herio am swyddi ar bob lefel. Byddan nhw’n ein helpu i ymestyn ein hamrywiaeth, sicrhau tegwch a gwneud i undebau edrych yn debycach i’r gweithlu rydyn ni’n ceisio ei gynrychioli ac adlewyrchu eu buddiannau llawn.

Chwaraewch eich rhan i’n helpu i greu mudiad undebau llafur mwy cynhwysol ac amrywiol yng Nghymru drwy ein helpu i ddod o hyd i aelodau posibl a allai fod â diddordeb yn ein rhaglen Datblygu Ymgyrchwyr Du a’u hannog i ymuno. Weithiau rydyn ni gyd angen cael ein gwthio rhyw ychydig – ychydig o gefnogaeth neu anogaeth i gymryd y cam cyntaf. Efallai mai ymuno â’r digwyddiad hwn fydd y cam cyntaf mae rhywun yn ei gymryd i symud ymlaen i bethau gwych!

Cofrestrwch ar gyfer y rhaglen nawr

Hygyrchedd

Rydym eisiau i bawb sy’n dod i ddigwyddiadau’r TUC gael profiad diogel a phleserus. Os oes angen unrhyw addasiadau neu gymorth arnoch i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn, rhowch wybod i ni.