Mae TUC Cymru yn falch o fod yn cynnal ei hail Gynhadledd Cynrychiolwyr Dysgu'r Undebau ar-lein Tachwedd 17 a 18.
Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal fel dwy sesiwn fore a fydd yn cynnwys cyflwyniadau byr gan siaradwyr gwadd, staff a gweithdai sy’n cael eu cynnal fel rhan o’r agenda.
Fel bob amser, bydd y gynhadledd hon yn galluogi Cynrychiolwyr i rannu profiadau a chynllunio strategaethau gwaith ar gyfer y dyfodol.
Bydd agendâu’r ddau ddiwrnod yn wahanol (manylion i ddilyn), felly rydyn ni’n argymell i chi gofrestru ar gyfer y ddau ddiwrnod ar wahân os oes modd.
Mae TUC Cymru yn falch o gyhoeddi y bydd Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi, yn annerch Cynhadledd CDU TUC Cymru ar 17 Tachwedd.
Sue DaCasto a Richard Jackson, Trefnwyr Dysgu Rhanbarthol Unite Wales, yn cyflwyno yng Nghynhadledd CDU TUC Cymru eleni a gynhelir ar 17 ac 18 Tachwedd. Bydd eu cyflwyniad yn cael ei gynnal ar 17 Tachwedd a bydd yn edrych ar sut mae Unite wedi cefnogi pobl ifanc drwy’r cynllun Kickstart a sut gall dysgu undebau chwalu rhwystrau o ran cyflogaeth.
Jenny Griffin a Richard Speight o Unsain Cymru. Bydd eu cyflwyniad yn cael ei gynnal ar 18 Tachwedd a bydd yn tynnu sylw at y gwaith eithriadol y mae Unsain wedi’i wneud eleni drwy gyllid WULF, yn cefnogi hyfforddiant arloesol mewn Ymwybyddiaeth o Drawsrywedd ac yn ennill gwobr am eu gwaith yng Ngwobrau Ysbrydoli’r Sefydliad Dysgu a Gwaith yn ddiweddar.
Bydd TUC Cymru yn cynnal dau weithdy yn ystod y ddau fore. Bydd gweithdy un yn cael ei gyflwyno gan Angharad Halpin ar Drefnu a Recriwtio a bydd Gweithdy dau yn cael ei gyflwyno gan Flick Stock ar Arolygon Dysgu – Ffyrdd hawdd o arolygu eich gweithle. Mae Angharad a Flick yn gweithio fel Swyddogion Cymorth Cyfathrebu a Pholisi yn TUC Cymru ac mae ganddynt wybodaeth helaeth am rôl a gweithgareddau’r CDU.
Claire Savage, Swyddog Polisi Undeb Credyd Cymru, yn cyflwyno, bydd Claire yn cyflwyno cynllun MoneyWorks a menter MoneyWorks Mentors, cynllun sy’n galluogi gweithwyr i gynilo drwy eu cyflogres drwy Undebau Credyd Cymru a gwreiddio lles ariannol yn y gweithle. Cynhelir y cyflwyniad hwn ar 17 Tachwedd.
Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, yn annerch Cynhadledd CDU TUC Cymru ar 18 Tachwedd.