CaruUndebau Cymru: Recriwtio Gweithwyr Ifanc
This event has ended
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Wed, 16 Feb 2022 - 14:00 to 15:00
Cyswllt
Trosolwg

Mae gweithwyr ifanc yn fwy tebygol na grwpiau oedran eraill o fod mewn swyddi ansicr, mewn swyddi sydd â chyflog isel a chael llai o gyfleoedd i symud ymlaen yn y gwaith. Mae undebau’n golygu gwell cyflog, swyddi diogel a hyfforddiant yn y gwaith, ond ychydig iawn o weithwyr ifanc sy’n perthyn i undeb. Gallwn ni newid hynny.

Yn ystod wythnos CaruUndebau ymunwch â’n gweminar o siaradwyr arbenigol i glywed am eu profiad o estyn allan at weithwyr iau:

· Jo Galazka, Swyddog Rhanbarthol Menywod a Chydraddoldeb, Unite.

· Nick Davies, Cadeirydd Fforwm Aelodau Ifanc UNSAIN Cymru. Bydd Nick yn siarad am sut mae’n helpu aelodau ifanc i ymgyrchu ar faterion sy’n bwysig iddyn nhw.

· Stanley Wai Hong Ho, Swyddog Cymorth Polisi ac Ymgyrchoedd, TUC Cymru. Bydd Stanley yn rhannu ei brofiad o drefnu gweithwyr ifanc yn Hong Kong.

Er mwyn i undebau fod yn berthnasol yn y dyfodol, rydyn ni’n gwybod bod angen iddyn nhw fod yn berthnasol i weithwyr ifanc nawr. Mae gweithwyr ifanc yn fwy nag aelodau yfory, maen nhw’n rhan o frwydr heddiw. Ymunwch â ni i gael gwybod beth allwch chi fod yn ei wneud i gyrraedd gweithwyr iau yn eich gweithle. I gael rhagor o syniadau am sut gallwch chi gyrraedd gweithwyr ifanc, llwythwch ein Pecyn Cymorth i Weithwyr Ifanc i lawr.