Roedd TUC Cymru yn falch o gynnal ein cyfarfod cyntaf o Rwydwaith CDU wyneb yn wyneb a gynhaliwyd yn Adeilad Unite, Heol y Gadeirlan, Caerdydd ddydd Gwener 3 Tachwedd 2023.
Buom yn ymdrin â materion a gweithgareddau o bwys i ddatblygiad CDU yn ogystal â rhoi cyfle i Gynrychiolwyr rwydweithio a chydweithio mewn gweithdai bywiog a rhai trafodaethau diddorol.
Roeddem yn hynod ddiolchgar am y cyfraniadau gan siaradwyr gwadd a staff WTUC a mwynhawyd y diwrnod gan bawb a fynychodd.
I gael rhagor o fanylion am y digwyddiad hwn neu Gyfarfodydd Rhwydwaith CDU yn y dyfodol, cysylltwch â ahalpin@tuc.org.uk
Mae’n bleser gan TUC Cymru gyhoeddi y bydd ein cyfarfod Rhwydwaith Cynrychiolwyr Dysgu Undebau yn cael ei gynnal yn Adeilad Unite, Heol y Gadeirlan, Caerdydd ddydd Gwener 3 Tachwedd 2023.
Bydd y digwyddiad wyneb yn wyneb hwn yn dechrau am 10.00 ac yn dod i ben am 16.00.
Yn ystod y Diwrnod Rhwydwaith hwn byddwn yn rhoi sylw i faterion a gweithgareddau sy’n bwysig o ran datblygiad Cynrychiolwyr Dysgu Undebau a hefyd yn rhoi cyfle i rwydweithio a gweithio gyda Chynrychiolwyr Dysgu Undebau o undebau a sectorau eraill gan rannu profiadau ac arferion gorau.
Pob ymholiad, cysylltwch â: ahalpin@tuc.org.uk
Rydym am i bawb sy’n mynychu digwyddiadau’r TUC gael profiad diogel a phleserus. Os oes angen unrhyw addasiadau neu gymorth arnoch i gymryd rhan yn y digwyddiad hwn, rhowch wybod i ni