Mae gweithwyr yn cael eu harwain i dlodi a dinistr. Ymunwch â’n hymgyrch i sicrhau cyflog teg, budd-daliadau ac amodau byw i bawb.
Mae gweithwyr yn cael eu harwain i dlodi a dinistr. Ymunwch â’n hymgyrch i sicrhau cyflog teg, budd-daliadau ac amodau byw i bawb.

Mae gweithwyr yn wynebu’r argyfwng costau byw mwyaf ers cenedlaethau. Mae cyflogau’n gostwng mewn termau real, nid yw budd-daliadau’n codi ac mae costau tai ac ynni yn warthus o uchel. Dydy’r gwaith ei hun ddim yn haws o gwbl – i lawer o bobl mae bellach yn fwy ansicr, yn fwy dwys ac yn fwy ymelwol.

Digon yw digon. Ni ddylai gweithwyr ysgwyddo'r baich o ganlyniad i’r llywodraeth yn camreoli, felly rydyn ni’n brwydro’n ôl.

Rydyn ni’n wynebu’r argyfwng costau byw gwaethaf ers dros ganrif ac rydyn ni’n sefyll dros yr hyn rydyn ni’n ei haeddu – cyflog teg, budd-daliadau ac amodau byw i bawb.

Dyma ein blaenoriaethau ar hyn o bryd:

· Undod gyda gweithwyr sy’n streicio: Byddwn yn dangos undod gyda gweithwyr sy’n streicio ac yn cefnogi eu brwydr dros well cyflog, telerau ac amodau.

· Codiad cyflog i bawb: Mae arnom angen isafswm cyflog uwch a hawliau bargeinio cyflogau cryfach er mwyn i bobl sy’n gweithio a’u hundebau sicrhau cytundebau cyflog teg ar draws diwydiannau cyfan. Rhaid i Drysorlys y DU ddarparu cyllid er mwyn diogelu codiad cyflog sy’n diogelu rhag chwyddiant ar draws y sector cyhoeddus, gan gynnwys mewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig, gwasanaethau sy’n cael eu darparu’n allanol a sefydliadau eraill sy’n cael eu hariannu.

· Ailwladoli’r diwydiant ynni a rhoi diwedd ar y cynnydd yn y cap ar brisiau: Mae angen canslo’r cynnydd arfaethedig mewn prisiau ynni ym mis Hydref a rhaid i’r cwmnïau adwerthu ynni gael eu symud i berchnogaeth gyhoeddus i sicrhau na fydd hyn byth yn digwydd eto. Cyflwyno trefniadau effeithlonrwydd ynni cartref yn gyflym a symud y cwmnïau adwerthu ynni i berchnogaeth gyhoeddus. 

· Nawdd cymdeithasol sy’n atal tlodi: Dylid codi Credyd Cynhwysol a budd-daliadau i o leiaf 80 y cant o’r cyflog byw cenedlaethol, ynghyd â rhoi hwb sylweddol i gymorth i deuluoedd â phlant. 

Rydyn ni’n mynnu gwell oherwydd ein bod ni’n haeddu gwell. Dysgwch sut gallwch chi ddangos undod a chefnogi gweithwyr sy’n streicio isod, ac - os nad ydych chi’n aelod yn barod - ymunwch ag undeb llafur heddiw i ddatblygu ein mudiad a sicrhau bod newid yn digwydd.

Cefnogi’r streiciau

Mae ymweld â llinell biced yn ffordd wych o ddangos eich cefnogaeth ac mae gweithwyr sy’n streicio wir yn gwerthfawrogi hynny. Dyma fanylion y streiciau sydd ar y gweill yng Nghymru:

Ymunwch â’r ymgyrch

Cofrestrwch ar gyfer ein rhestr bostio i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgyrch.