Wythnos CaruUndebau yng Nghymru
This event has ended
Manylion y digwyddiad
Dyddiad
Mon, 12 Feb 2024 - 00:00 to
Sun, 18 Feb 2024 - 00:00
Cyswllt
Trosolwg

Beth mae wythnos CaruUndebau yn ei olygu?

Mae wythnos CaruUndebau yn gyfle i ddweud pam fod undebau’n hanfodol i bawb yn y gwaith, yn ogystal ag annog pobl i ymuno ag undeb.

Yn ystod yr wythnos rydym eisiau gwneud dau beth syml:

  1. dangos pa mor wych yw undebau drwy ddangos popeth rydym yn ei gyflawni i bobl sy’n gweithio – yn enwedig yn ystod y pandemig.
  2. annog cynifer o bobl â phosibl sydd eisoes yn aelodau o undeb i ofyn i rywun maen nhw’n ei adnabod i ymuno ag un hefyd.

Felly, yn ystod y cyfnod sy’n arwain at wythnos CaruUndebau – ac yn ystod yr wythnos ei hun – byddwn yn rhannu straeon sy’n dangos effaith undebau ac yn rhoi adnoddau i gynrychiolwyr ac aelodau i’w helpu i gael rhagor o bobl i ymuno ag undeb.

Ymunwch â ni

Rydyn ni’n gobeithio y bydd undebau’n cynnal eu hymgyrchoedd CaruUndebau eu hunain, gan dynnu sylw at yr hyn maen nhw wedi’i ennill gyda’u haelodau ac ar eu rhan, ac annog mwy o weithwyr yn eu diwydiannau a’u sectorau eu hunain i ymuno ag undeb.

Rydyn ni wedi cynhyrchu cyfres o daflenni dwyieithog (isod) a baneri cyfryngau cymdeithasol, sydd ar gael i’w llwytho i lawr isod, i’ch helpu i hyrwyddo CaruUndebau yn ystod yr wythnos. Gallwn hefyd ddarparu sticeri, pennau, bathodynnau a thaflenni dwyieithog yn rhad ac am ddim. Cysylltwch â wtuc@tuc.org i osod eich archeb.

Bydd llu o ddigwyddiadau hefyd yn cael eu cynnal. Dewch yn ôl i'r dudalen hon i weld mwy yn fuan. 

Rhai syniadau ar gyfer gweithgareddau’r wythnos CaruUndebau yn eich gweithle:

  • Beth am greu a rhannu ffilm fer yn seiliedig ar yr hyn mae eich undeb yn ei wneud, er mwyn tynnu sylw at y llwyddiannau a gawsoch?
  • Trefnu ymgyrch CaruUndebau yn y cyfryngau cymdeithasol i godi eich proffil a thynnu sylw at y gwaith da rydych chi'n ei wneud – defnyddiwch yr hashnodau #HeartUnions a #CaruUndebau yn eich postiadau.
  • Cynlluniwch i gael stondin yn eich ffreutur neu dderbynfa i siarad â'ch cydweithwyr am fuddion ymuno ag undeb.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae undebau wedi dangos yn fwy nag erioed pa mor berthnasol ac effeithiol ydyn nhw o ran helpu pobl sy’n gweithio.

Ymunwch â ni yn ystod wythnos CaruUndebau i gyhoeddi’n uchel ac yn falch – mae ar bob gweithiwr angen undeb.