Mae’r Cyngor Cynghorol ar Anafiadau Diwydiannol (IIAC) yn ystyried argymell bod Covid yn cael ei ddosbarthu fel clefyd diwydiannol. Os bydd llywodraeth y DU yn derbyn yr argymhelliad hwn, gallai gweithwyr sydd â chyflyrau corfforol hirdymor a achosir gan Covid gael y Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol, sy’n werth hyd at £180 yr wythnos.
Ymhellach at hynny, pe bai’r IIAC yn gwneud argymhelliad o’r fath, byddai’n cryfhau achos gweithwyr sy’n ceisio iawndal ariannol am gyflyrau corfforol hirdymor a achosir yn sgil dal Covid yn y gwaith.
Mae Cymru’n symud tuag at lacio rheolau diogelwch Covid yn y gwaith. Fodd bynnag, mae’r newyddion y gellid dosbarthu Covid yn glefyd galwedigaethol yn ein hatgoffa bod gan gyflogwyr ddyletswydd i gadw eu gweithwyr yn ddiogel.
Mae heriau o’n blaenau cyn i Covid gael ei gydnabod yn swyddogol fel clefyd diwydiannol. Ar ôl argymhelliad gan y Cyngor, rhaid i Weinidogion a swyddogion o’r Adran Gwaith a Phensiynau gytuno hefyd, cyn i’r argymhelliad gael ei gymeradwyo’n derfynol gan y Senedd.
Mae her benodol gyda Covid, gan fod angen mwy o ddata i ddangos bod nifer fawr o weithwyr wedi dal y clefyd yn y gwaith. Rhaid i’r Cyngor brofi ei fod yn fwy tebygol na pheidio bod yr haint wedi ei ddal o ganlyniad i fod yn y gwaith.
Fodd bynnag, nid yw’r data ar iechyd galwedigaethol yng Nghymru o ansawdd uchel. Er enghraifft, nid oes yn rhaid i ddarparwyr gofal iechyd na chrwneriaid nodi galwedigaeth person. Mae hyn yn ei gwneud yn anoddach olrhain y cysylltiadau rhwng swyddi penodol a’r risg o ddal Covid neu unrhyw glefyd arall.
Ar hyn o bryd, mae’r data yn fwy clir ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal. Am y rheswm hwn, mae’n debygol mai dim ond i weithwyr yn y sector hwn y bydd unrhyw argymhelliad cychwynnol yn berthnasol.
Her arall yw’r diffiniad o anabledd sy’n gysylltiedig â’r Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol. Mae’n haws i’r system ddelio ag anhwylderau corfforol hirdymor cronig sydd wedi’u diffinio’n glir. Mae cyflyrau sy’n mynd a dod ac sy’n gysylltiedig â materion niwrolegol, fel blinder a meddwl pŵl, yn llawer anoddach.
Mae Doug Russell, swyddog iechyd a diogelwch cenedlaethol USDAW, yr undeb manwerthu a dosbarthu, yn dadlau bod Covid yn glefyd galwedigaethol ac y dylid ei ystyried felly. Mae Doug yn un o dri aelod undeb llafur ar yr IIAC.
Pa gymorth arall allai fod ar gael i gefnogi pobl sydd wedi cael Covid yn y gwaith? Mae Grŵp Seneddol Hollbleidiol y DU ar Covid Hir yn argymell cynllun ar wahân i roi cymorth i’r grŵp hwn. Yn yr Alban, mae Mark Griffin, ASA yn cyflwyno deddfwriaeth i gyflwyno cynllun tebyg yn yr Alban. Byddai hyn yn cyflwyno fersiwn wedi’i diweddaru o’r Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol sy’n adlewyrchu’n well y clefydau galwedigaethol modern sydd â chysylltiad â’r system nerfol.
Mae gwledydd eraill fel Gwlad Belg wedi cyflwyno buddion i gefnogi pobl sydd wedi dal Covid Hir, er bod eu systemau wedi cael eu sefydlu’n wahanol i systemau Prydain ac yn dibynnu ar asesiadau unigol drud.
Yn y Senedd, mae grŵp Hollbleidiol ar Covid Hir wedi cael ei sefydlu’n ddiweddar ac rydym wedi galw arnynt i edrych ar gynigion yr Alban ac i bwyso ar grwneriaid i sicrhau bod galwedigaethau pobl yn cael eu cofnodi.
Rhaid cymryd camau i wella’r ddarpariaeth gofal iechyd galwedigaethol ledled Prydain. Gallem ddysgu llawer iawn gan y Ffindir. Mae ganddynt system iechyd galwedigaethol o safon fyd-eang. Yn ôl Gweinyddiaeth Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol y Ffindir, mae gan bob gweithiwr hawl i gael gofal iechyd galwedigaethol beth bynnag fo natur a hyd y berthynas gyflogaeth, gyda’r nod o gefnogi gweithwyr drwy gydol eu gyrfa.
Drwy wella systemau iechyd galwedigaethol, gall Llywodraeth Cymru a chyflogwyr gefnogi gweithwyr yn well i aros yn heini, yn iach ac yn gynhyrchiol. Ar ben hynny, gellid mynd i’r afael â llawer o’r diffygion o ran casglu data perthnasol yng Nghymru hefyd.
Llyfryddiaeth:
Covid-19 and occupation: IIAC position paper 48
Occupational Safety and Health Administration (Finland)
Long Covid: MPs call for compensation for key workers - BBC News