Rydyn ni wastad yn datblygu’r adnoddau sydd gennym ni’n barod ac yn datblygu rhai newydd i gynrychiolwyr yng Nghymru. Mae’r gwaith yma’n golygu bod angen dadansoddi data ac ymchwili. Rydyn ni’n cynnal arolygon yn rheolaidd i gael gwybod rhagor am y materion sy’n wynebu gweithwyr yng Nghymru.

Aflonyddu Rhywiol

Mae rhai gweithwyr wedi rhoi gwybod am gydweithwyr yn gwneud sylwadau amhriodol am weld y tu mewn i’w hystafelloedd gwely neu am benaethiaid yn gwneud gofynion afresymol o ran yr hyn y dylen nhw ei wisgo ar gamera. Mae gweithwyr eraill wedi derbyn sylwadau amhriodol drwy grwpiau Whatsapp staff. Mae diogelwch gweithwyr hefyd wedi cael ei roi mewn perygl yn ystod y pandemig yn sgil rheoliadau Covid oedd yn golygu bod rhai gweithwyr yn gorfod bod mewn gweithle ochr yn ochr â’r sawl oedd yn cyflawni'r aflonyddu ond mewn grwpiau llai nag arfer.

Bydd canfyddiadau arolwg TUC Cymru yn cael eu defnyddio i greu adnoddau newydd ar gyfer cynrychiolwyr undebau ac i ymgyrchu dros roi terfyn ar aflonyddu rhywiol i bawb.

Gweithio a gofalu am bobl eraill

Mae TUC Cymru a Gofalwyr Cymru nawr yn casglu gwybodaeth gan weithwyr yng Nghymru am eu profiadau unigol o weithio i ofalu am rywun. Mae eu harolwg newydd yn gofyn am allu gweithwyr i weithio a symud ymlaen yn eu gyrfaoedd yn ogystal â’r effaith y mae gofalu yn ei chael ar eu hiechyd corfforol a meddyliol.

Byddan nhw hefyd yn casglu data am yr hyn y mae gweithleoedd yng Nghymru yn ei wneud ar hyn o bryd i helpu gweithwyr sydd â chyfrifoldebau gofalu drwy bolisïau yn y gweithle, trefniadau gweithio hyblyg a mwy. Defnyddir y data i siarad â’r Llywodraeth am yr hyn sydd angen ei newid a gweithio’n uniongyrchol gyda chyflogwyr i wneud pethau’n well i’r rhai sy’n gofalu am bobl eraill.

Mae’r arolwg yn agored i bawb sy’n gweithio yng Nghymru, nid dim ond i aelodau undebau. Mae ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ac mae pob ymateb yn gwbl ddienw. Defnyddiwch y botwm toglo yn y gornel dde uchaf i newid yr iaith i gyd-fynd â’ch dewis.