Mae arolygu neu fapio eich gweithle a’ch cydweithwyr yn dasg bwysig, a gall fod yn broses frawychus.
Does dim rhaid i bethau fod yn anodd.

Mae cymaint o apiau a rhaglenni ar gael am ddim y dyddiau hyn sy’n ei gwneud hi’n haws cynhyrchu arolwg, ei rannu ac yn bwysicach na hynny, chrynhoi’r wybodaeth rydych chi’n ei chasglu i adroddiad addas i’w rannu â’r tîm rheoli/AD neu eich Rheolwr Prosiect WULF.

Y tip gorau yw cadw pethau’n syml. Lluniwch amlinelliad clir o’r hyn yr ydych eisiau ei wybod a faint y byddech yn fodlon ei gwblhau eich hun. Nid oes unrhyw un eisiau ysgrifennu traethodau neu phentwr o wybodaeth i ateb cwestiynau ac yn sicr ni fyddant eisiau cymryd oes i lenwi un.

Manteisiwch ar alluoedd yr ap rydych chi wedi'i ddewis. Mae gan y rhan fwyaf o’r apiau modern hyn brosesau arbennig sy’n golygu bod modd cynhyrchu graffiau a chasglu data’n gyflym yn awtomatig. Pam ailddyfeisio’r olwyn?

Os yw’r ap rydych chi wedi’i ddewis yn gwneud hyn i chi, bydd yn arbed amser, ymdrech a straen.

Mae’r prosesau hyn hefyd yn ei gwneud yn haws cyflwyno eich canfyddiadau. Maent yn glir ac yn hawdd eu darllen, yn haneru eich llwyth gwaith ac yn dangos yn glir feysydd a allai greu cyfleoedd dysgu i’ch cydweithwyr neu fylchau mewn sgiliau nad yw’r rheolwyr wedi bod yn ymwybodol ohonynt.

Cofiwch nad yw addysgu a hyfforddi yn helpu’r dysgwr yn unig, ond y cyflogwr hefyd a’r gymuned yn gyffredinol. 

Mae aelod staff hapus a llwyddiannus yn gwneud aelod staff mwy cynhyrchiol, gweithle hapusach a mwy effeithlon ac mae hynny’n cael effaith ddilynol ym mhob man.

Mae’r cyflwyniad isod yn tynnu sylw at y prif feysydd i’w hystyried wrth ddechrau arni, wrth rannu eich arolwg a’ch canfyddiadau ac mae arolwg enghreifftiol isod i’ch rhoi chi ar ben ffordd.

Yn olaf, cofiwch fod eich Rheolwr Prosiect WULF yn adnodd gwerthfawr ac mae yno i helpu fel y mae staff yn TUC Cymru.

Cysylltwch â: wulr@tuc.org.uk neu fstock@tuc.org.uk