Rydym yn creu Cymru lle mae gan bawb lais drwy eu hundeb ac incwm y gallant adeiladu bywyd arno. Credwn fod gan bob gweithiwr yr hawl i fod yn ddiogel, i gael ei werthfawrogi a'i barchu.
Pan fydd gweithwyr yn gweithredu ar y cyd, mae gennym y pŵer i greu newid cadarnhaol mewn cymdeithas. Rydym yn dod â gweithwyr ynghyd drwy 48 o undebau i frwydro dros swyddi gwell a gwlad fwy cyfartal a llewyrchus.
Sefydlwyd TUC Cymru yn 1974. Mae llawer wedi newid ers hynny. Ond mae yna un peth sydd heb newid - bydd TUC Cymru bob amser yn sefyll i fyny dros weithwyr yng Nghymru.
Darllennwch mwy am lwyddiannau’r mudiad undebau llafur yng Nghymru dros yr 50 mlynedd diwethaf.