Fel darparydd mwyaf astudiaeth ran amser prifysgol yng Nghymru, mae’r Brifysgol Agored yng Nghymru yn cynnig dewis eang o gymwysterau mewn ystod eang o bynciau.
Affordable

OU Wales

Fel rhan o’r brifysgol fwyaf yn y DU, gallwn ddarparu addysg o safon byd-eang, gan eich cynorthwyo i gwrdd a’ch amcanion proffesiynol a phersonol.

Gyda benthyciadau ffioedd dysgu, cymorth ariannol, ac opsiynau talu wrth fynd ar gael, mae astudio gyda’r Brifysgol Agored yn llawer mwy fforddiadwy na’r disgwyl.

Dysgwch ragor

Ydych chi'n byw yng Nghymru? Sicrhewch hyd at £4,500* o gyllid cynnal a chadw ar ein cyrsiau taledig.

*Mae rheolau cymhwysedd yn berthnasol ar gyfer cymorth ariannol.

Access

Ddim yn siŵr lle i ddechrau? Ystyriwch fodiwl mynediad

Mae modiwl Mynediad yn fan cychwyn da os ydych eisiau cyflwyniad ysgafn i astudio gyda'r Brifysgol Agored. Byddwch yn cael trosolwg eang o’r pwnc sydd o ddiddordeb i chi, yn gloywi eich sgiliau dysgu ac yn meithrin eich hunanhyder. Golyga hynny y bydd gennych yr amser a'r lle i ddarganfod beth yw eich diddordebau naturiol cyn penderfynu ar eich prif nod cymhwyster.

Archwiliwch ystod o bynciau perthnasol er mwyn deall beth yw eich diddordebau, mae cwrs Mynediad yn ddechrau ysgafn i ddysgu ar-lein gyda chymorth ychwanegol.

Dysgwch ragor

Gallwch hefyd astudio yn rhad ac am ddim:

  • Os ydych yn byw yng Nghymru
  • Os oes gennych incwm unigol sy'n llai na £25,000 (neu'n derbyn budd-daliadau cymwys)
  • Os nad ydych wedi cwblhau blwyddyn neu fwy ar unrhyw raglen israddedig llawn amser neu heb gwblhau 30 credyd neu fwy o astudiaeth gyda'r Brifysgol Agored.

Os nad ydych yn sicr eich bod yn bodloni’r meini prawf hyn, gallwch gysylltu ag un o’n cynghorwyr cyfeillgar ar access-support@open.ac.uk.

OL Hub

Gallech hefyd roi cynnig ar ychydig o ddysgu ar-lein

Mae OpenLearn yn llwyfan dysgu ar-lein am ddim a ddarperir gan y Brifysgol Agored sy’n cynnig dros 1,000 o gyrsiau ar-lein am ddim law yn llaw â chasgliad enfawr o fideos, erthyglau a gweithgareddau eraill am ddim. Gallwch ddod o hyd i gyrsiau manwl ar bynciau fel gwyddoniaeth a hanes, yn ogystal ag adnoddau i’ch cynorthwyo chi gyda’ch gyrfa, cyllid personol, a llesiant.

Dyluniwyd OpenLearn gyda hwb eich Undeb mewn partneriaeth â TUC Cymru er mwyn eich helpu i lywio llyfrgell adnoddau am ddim OpenLearn.

Byddwch yn cael y mwyaf allan o OpenLearn os byddwch yn creu cyfrif (mae hyn hefyd am ddim). Bydd creu cyfrif yn rhoi mynediad llawn i chi at amrywiaeth o nodweddion nad ydynt ar gael i westeion, megis ymrestru ar gyrsiau am ddim, dilyn eich cynnydd, ennill bathodynnau, ac arbed datganiadau cyfranogiad. O’ch proffil OpenLearn, byddwch yn gallu dilyn eich cynnydd a lawrlwytho cofnod gweithgaredd.

Eisiau rhoi’r neges ar led? Dewch yn Llysgennad y Brifysgol Agored yng Nghymru

Dewch yn rhan o fenter Cymru gyfan i gefnogi a chyfeirio dysgwyr sy'n oedolion at gyfleoedd dysgu addysg uwch gyda'r Brifysgol Agored yng Nghymru.

Gwyliwch y fideo byr hwn i ddysgu rhagor.