Mae oed yn ffactor pwysig o ran pa mor agored i niwed ydych chi mewn perthynas â Covid-19 a’i effeithiau. Mae pobl hŷn yn fwy tebygol o ddal Covid-19, sy'n gallu arwain at salwch difrifol neu farwolaeth. Mae angen diogelu gweithwyr hŷn yn ariannol a drwy iechyd a diogelwch yn eu gweithle. Fel grwpiau eraill, mae angen cymorth ar weithwyr hŷn i’w galluogi i weithio o gartref lle bo hynny’n bosib.
Gall y coronafeirws gael effaith ar weithwyr hŷn ymhell i'r dyfodol. Mae llawer o bobl hŷn yn ymddeol yn gynnar neu’n gadael y gweithle oherwydd nad ydynt yn ymddiried yn eu cyflogwr i'w cadw’n ddiogel. Mae hyn yn gallu bod yn drychinebus yn ariannol i bobl sydd heb gynilion wrth gefn am fod ganddynt lawer llai o flynyddoedd gweithio ar ôl i dalu unrhyw ddyledion ac ailadeiladu eu cynilion.
O ran gweithwyr iau, sy'n fwy tebygol o fod yn gweithio ar gontractau ansicr, mae colli gwaith yn gallu bod yn drychinebus yn ariannol. Mae gweithwyr iau yn fwy tebygol o fod yn gweithio yn y sectorau y mae cyfnod y cyfyngiadau symud oherwydd coronafeirws wedi effeithio fwyaf arnynt. Mae'r rhain yn cynnwys y sectorau lletygarwch, manwerthu a hamdden. I’r rheini sy'n ymuno â’r farchnad lafur am y tro cyntaf, gallai hwn fod y cyfnod fwyaf anodd i wneud hynny. Ar ben hyn, gall fod yn fwy anodd ymuno â’r gweithle, neu ddychwelyd iddo, os nad oes gennych chi brofiad neu os ydych chi wedi bod allan o'r farchnad lafur ers tro.
Problemau sy’n wynebu gweithwyr oherwydd eu hoed
Mae pobl hŷn sy’n fwy agored i niwed o ran Covid-19 yn fwy tebygol o orfod ynysu am gyfnod hirach. Mae hyn yn gallu dwysau'r ymdeimlad o unigrwydd ac o fod wedi'u hynysu ymysg pobl hŷn, sydd hefyd, efallai, wedi'u heithrio fwy yn ddigidol.
Bydd effaith byw a gweithio drwy bandemig ar iechyd meddwl yn aruthrol, o safbwynt y rheini sydd â phryderon iechyd, sy'n byw ar eu pennau eu hunain a'r rheini sydd wedi bod yn teimlo’n ynysig. Mae hyn wedi golygu bod pobl hŷn sy'n llai tebygol o ddefnyddio dulliau cyfathrebu ar-lein yn wynebu mwy o risg o deimlo’n ynysig, ac nad yw pobl iau sy’n gweld pobl eraill yn rheolaidd yn yr ysgol, yn y coleg neu yn y gweithle yn cael yr un cyfle i gymdeithasu.
Mae Undebau wedi dweud bod y sefyllfa wedi effeithio’n anghymesur ar weithwyr ifanc oherwydd bod y rheini sy’n brentisiaid wedi colli eu swyddi cyn i Lywodraeth y DU gyhoeddi'r cynllun ffyrlo.
Nid yw Llywodraeth y DU wedi gwneud digon i ddiogelu prentisiaid. Mae llawer o gwmnïau llai wedi gallu talu eu cyflogau ac efallai nad yw gweithwyr ifanc a allai fod yn gymwys ar gyfer y cynllun ffyrlo yn sylweddoli bod y cynllun yn berthnasol iddyn nhw oherwydd pwysau o du'r cyflogwr i weithio.
Ni fu erioed gymaint o ddibynnu ar dechnoleg i gael gafael ar wybodaeth, nwyddau a gwasanaethau. Ond mae gweithwyr hŷn a gweithwyr iau fel ei gilydd yn gallu bod wedi'u heithrio’n ddigidol oherwydd diffyg gwybodaeth, offer neu arian i dalu am fand eang neu dechnoleg.
Mae plant wedi bod yn dod i'r ysbyty gyda phroblemau iechyd eraill nad ydynt yn gysylltiedig â covid yn hwyrach. Oherwydd eu bod yn dod i'r ysbyty’n hwyrach, ac felly pan maen nhw’n waelach, mae meddygon yn pryderu bod angen mwy o ymyriadau arnynt.
O safbwynt plant sy’n byw mewn cartref lle ceir cam-drin domestig, nid yw'r ysgol bellach ar gael fel cysur rhag y gamdriniaeth. Mae hyn yn golygu eu bod mewn mwy o berygl o niwed ac o gael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod.
Efallai y bydd gweithwyr sydd ar gontractau ansicr, a gweithwyr iau yn arbennig, yn dal yn dewis mynd i’r gwaith hyd yn oed pan nad ydyn nhw’n teimlo’n ddiogel. Efallai eu bod yn teimlo nad oes ganddyn nhw ddewis arall ond mynd i weithio er mwyn cael mwy o waith yn y dyfodol.
Mae gweithwyr wedi nodi problemau gyda derbyn tâl salwch digonol pan mae angen iddyn nhw hunanynysu. Dim ond Tâl Salwch Statudol y mae llawer o weithleoedd yn ei dalu pan mae gweithwyr yn hunanynysu. £95.85 yr wythnos yw'r tâl hwn, ac i'r mwyafrif o bobl dydy hyn ddim yn ddigon o arian i fyw arno. Mae hyn yn golygu bod gweithwyr yn cael eu rhoi mewn sefyllfa anodd lle mae'n rhaid iddyn nhw benderfynu a ydyn nhw am hunanynysu fel y dylen nhw ei wneud ond derbyn cyflog na allan nhw fyw arno, neu fynd i weithio a pheryglu lledaenu'r firws.
Hyd yn oed ar ôl codi’r cyfyngiadau, mae llawer o bobl ifanc yn debygol o fod yn ddi-waith o hyd oherwydd nad ydyn nhw wedi cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau gweithle dros y 6 mis diwethaf.
Mae cau ysgolion, canslo arholiadau ac ansicrwydd ynghylch eu dyfodol i gyd wedi effeithio ar bobl iau. Gall hyn olygu y bydd yn fwy anodd cael gwaith yn y dyfodol.
Mae llawer o undebau wedi tynnu cyfyngiadau o ran aelodaeth ac maen nhw'n rhoi cymorth cyfreithiol o'r diwrnod cyntaf y bydd rhywun yn ymuno. Ymunwch ag Undeb heddiw
Eich hawliau fel gweithiwr mewn perthynas â’ch oed
Mae Adran 44 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 yn rhoi hawl i weithwyr adael gweithle sy'n anniogel a gwrthod dychwelyd.
Mae sawl enghraifft o ganghennau undebau yn cerdded allan gan ddyfynnu’r ddeddf hon.
Os ydych chi’n teimlo bod eich gweithle’n anniogel oherwydd Covid-19, dylech gysylltu â thîm cyfreithiol eich undeb am gyngor ar frys.
Deddf Cydraddoldeb 2010 yw’r darn o ddeddfwriaeth allweddol sy’n ymdrin â gwahaniaethu yn y gweithle. Mae’n gwarchod gweithwyr rhag gwahaniaethu ar sail oedran, rhyw, anabledd, hil, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd neu famolaeth, neu ailbennu rhywedd.
Mae gan gynrychiolwyr undebau ran bwysig i'w chwarae o ran:
hybu hawliau cyfartal i bob aelod. Gall cynrychiolwyr ddod i gytundeb gyda chyflogwyr ynghylch polisïau a gweithdrefnau sy'n hyrwyddo cydraddoldeb ac nad ydyn nhw’n arwain at roi un grŵp dan anfantais fawr.
creu awyrgylch cefnogol yn y gwaith ac yn yr undeb lle mae pob aelod yn teimlo’i fod yn gallu cymryd rhan ac y gwerthfawrogir ei safbwyntiau
herio achosion o aflonyddu a gwahaniaethu a gwneud yn siŵr yr ymdrinnir yn effeithiol â chwynion
Lawrlwythwch ein pecyn cefnogi gweithwyr hŷn i ddarganfod sut gall cynrychiolwyr undebau llafur a chyflogwyr help gweithwyr hŷn.
Dylai eich cyflogwr fod yn cydymffurfio â'r gyfraith ar addasiadau rhesymol o hyd. Mae pobl wedi camgymryd bod ‘busnes arferol’ wedi’i atal dros dro cyn belled â bod y Ddeddf Cydraddoldeb yn y cwestiwn. Dylai unrhyw addasiadau rhesymol rydych chi eisoes wedi cytuno arnynt barhau i fod ar waith.
Efallai bydd pobl sy’n wynebu mwy o risg angen addasiad er mwyn iddynt allu newid eu trefniadau gwaith neu weithio o gartref. Gellir trafod hyn gyda’u rheolwr llinell. Mae rheolwyr llinell yn sicrhau bod gan weithwyr y gefnogaeth gywir a’u bod yn ddiogel yn y gwaith.
Os ydych chi'n gweithio o'ch cartref, mae’n rhaid i’ch cyflogwr eich diogelu o hyd. Mae hyn yn golygu gwneud yn siŵr bod gennych chi amgylchedd diogel i weithio ynddo, a bod gennych chi’r cyfarpar priodol i’ch galluogi i wneud eich gwaith. Dylai eich cyflogwr eich cynorthwyo wrth i chi barhau i wneud eich swydd, hyd yn oed os yw gweithio gartref yn golygu eich bod yn gwneud hynny mewn ffordd wahanol.
Dylai cyflogwyr fod yn cynnal asesiadau risg o hyd ar gyfer gweithio gartref, gan ymgynghori ag undebau. Dylai cyflogwyr ystyried damweiniau, anafiadau, iechyd meddwl gweithwyr, lefelau straen a’r risg o drais – ochr yn ochr â ffactorau eraill sy’n caniatáu i weithwyr weithio’n gyfforddus ac yn ddiogel. Dylai bod cyflogwyr yn darparu offer i sicrhau bod gweithwyr yn gyfforddus yn y gwaith. Gallai hyn gynnwys cyfarpar i gefnogi ystum corff da neu i reoli tymheredd. Darllenwch fwy am sut mae cadw’n ddiogel wrth weithio gartref a sut gall cynrychiolwyr iechyd a diogelwch helpu pobl sy’n gweithio gartref.
Dylai cyflogwyr wrando ar aelodau hŷn ac iau yn eu gweithle. Gall caniatáu i weithwyr gael lle diogel i drefnu, rhwydweithio a thrafod fod yn fan cychwyn, ond rhaid i gyflogwyr sicrhau eu bod yn gwrando ar weithwyr pan fydden nhw’n codi pryderon.
Er bod risgiau iechyd a diogelwch yn gysylltiedig â gweithio gartref, mae yna lawer o fanteision hefyd. Rydym yn gobeithio y bydd rheolwyr yn fwy agored i gynnig hyblygrwydd yn y dyfodol. Gall yr hyblygrwydd hwn fod yn arbennig o fanteisiol i weithwyr hŷn sydd angen rheoli eu gwaith mewn ffordd wahanol. Mae hefyd yn gymorth i unigolion sydd â chyfrifoldebau gofal. Mae cynnig trefniadau gweithio hyblyg yn galluogi cwmnïau i recriwtio o blith grŵp mwy o bobl. Mae buddion i’r amgylchedd hefyd wrth i weithwyr dreulio llai o amser yn cymudo.
Mae dyletswydd gyfreithiol ar eich cyflogwr i amddiffyn eich iechyd a diogelwch yn y gwaith. Cyn i chi fynd i'r gwaith, dylai eich cyflogwr gynnal asesiad risg sy'n tynnu sylw at risgiau Covid-19. Dylai’r asesiad hwn gynnwys cwestiynau ynghylch gyda phwy rydych chi’n byw, ac a ydych chi neu aelodau o’ch aelwyd yn fregus, yn ogystal â sut rydych chi’n bwriadu mynd i'r gwaith os nad ydych yn gallu gweithio gartref. Dylai’r asesiad risg hefyd gynnwys pa addasiadau sydd eu hangen arnoch i allu gwneud eich gwaith. Darllenwch sut mae cadarnhau bod eich cyflogwr yn gwneud popeth y dylai i'ch cadw chi’n ddiogel.
Os ydy eich cyflogwr wedi gwneud popeth o fewn ei allu i gael gwared ar bob risg arall, a bod angen o hyd i chi weithio, yna mae dyletswydd ar eich cyflogwr i ddarparu’r cyfarpar diogelu personol priodol i chi allu gwneud eich gwaith. Nid yw hyn yn wir mewn gweithleoedd meddygol yn unig, ond ym mhob gweithle. Mae’n cynnwys cartrefi gofal, siopau, warysau a cherbydau cludo. ’Darllenwch fwy o wybodaeth am Gyfarpar Diogelu Personol a'r gweithle.
Os oes gennych chi gyfrifoldebau gofal plant neu gyfrifoldebau gofalu eraill fel gofalu am wyrion, dylech drafod hyn gyda'ch cyflogwr. Dylen nhw ystyried eich anghenion a gwneud addasiadau rhesymol.
Mae’r pandemig hwn yn gyfnod anodd i lawer ohonom. Mae iechyd meddwl a’ch llesiant yn hynod bwysig, ac fe ddylai eich cyflogwr eich cynorthwyo yn ystod yr argyfwng hwn. Dilynwch ein sesiynau dysgu byr, sef Ymdopi gyda Covid a fydd yn rhoi’r adnoddau a’r technegau i chi i’ch helpu i ofalu amdanoch eich hun.
Os ydych chi’n wynebu newid yn eich sefyllfa o ran cartref, gall eich cyflogwr eich helpu a chynnig addasiadau yn ystod y cyfnod hwn.
Beth rydyn ni’n gofyn i’r Llywodraeth ei wneud i warchod gweithwyr o ran oed
Rydyn ni’n poeni bod rhai cyflogwyr yn herio’r gyfraith. Rydyn ni’n gweithio gyda Llywodraeth Cymru i warchod incwm, swyddi, ac iechyd gweithwyr, yn ogystal â’u mynediad i wasanaethau.
Bydd rhaid i unrhyw gamau gweithredu fod yn rhan o strategaeth ehangach i warchod iechyd a diogelwch pobl yn y gwaith. Mae’n rhaid iddi gynnwys canllawiau cryfach gan y llywodraeth (gyda deddfwriaeth i'w hategu) ynglŷn â’r mesurau diogelwch y mae’n rhaid i bob cyflogwr eu hystyried nawr. Mae’n rhaid iddi hefyd gynnwys pwerau newydd (drwy rwydwaith tridarn sy’n cynnwys cyflogwyr, undebau a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch) er mwyn galluogi’r llywodraeth i orfodi cyflogwyr nad ydynt yn dilyn y camau hyn i gau.
Ydych chi’n poeni nad ydych chi’n gallu aros yn ddiogel rhag y coronafeirws yn eich gweithle? Dywedwch wrthym am eich profiadau drwy ddefnyddio ein ffurflen datgelu.
Byddwn yn rhannu’r wybodaeth am eich pryderon iechyd a diogelwch yn ddienw â Llywodraeth Cymru a’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Os byddwch yn rhoi caniatâd i rannu eich manylion, byddwn hefyd yn adrodd y mater i’ch undeb llafur ar eich rhan.
Mae undebau'n helpu pobl i ddod ynghyd, yn atal pobl rhag cael eu trin yn annheg a chael gwell bargen gan eu cyflogwyr.
Maen nhw yno yn ystod cyfnodau anodd – yn rhoi cyngor cyfreithiol am ddim os oes angen. Gall aelodau o undeb fanteisio ar lawer o gynigion a gostyngiadau hefyd. A phob blwyddyn, mae undebau’n helpu dros 200,000 o bobl i gael gafael ar y cyfleoedd dysgu a hyfforddi sydd eu hangen arnyn nhw i symud ymlaen yn eu gyrfa.