Dyddiad cyhoeddi
Roedd cwmnïau yng Nghymru wedi elwa ar £937 miliwn o lafur di-dâl y llynedd am fod gweithwyr yn gweithio goramser yn ddi-dâl, yn ôl dadansoddiad newydd o ystadegau swyddogol a gyhoeddwyd heddiw (Gwener) gan TUC Cymru.
  • Roedd dros 160,000 o weithwyr yng Nghymru wedi gweithio oriau’n ddi-dâl yn 2018
  • Mae’r person cyfartalog sy’n gweithio goramser yn ddi-dâl wedi gweithio’r flwyddyn am ddim hyd yma
  • Rhaid sicrhau nad yw cyflogwyr yn dwyn amser eu gweithwyr, medd TUC Cymru

Roedd cwmnïau yng Nghymru wedi elwa ar £937 miliwn o lafur di-dâl y llynedd am fod gweithwyr yn gweithio goramser yn ddi-dâl, yn ôl dadansoddiad newydd o ystadegau swyddogol a gyhoeddwyd heddiw (Gwener) gan TUC Cymru.

Gweithiodd dros 160,000 o bobl gyfartaledd o 7.6 awr yr wythnos mewn goramser di-dâl yn ystod 2018. Ar gyfartaledd, mae hynny’n gyfystyr â chymryd £5,704 allan o gyflogau unigol.

Heddiw yw 15fed Diwrnod Gweithio eich Oriau Cywir blynyddol y TUC, sy’n nodi’r ffaith bod y gweithiwr cyfartalog sy’n gweithio goramser di-dâl i bob pwrpas wedi gweithio’r flwyddyn am ddim hyd yma.

Meddai Swyddog Polisi TUC Cymru Nisreen Mansour:

“Nid yw’n deg bod cyflogwyr yn dwyn amser eu gweithwyr. 

“Mae llawer ohonom yn barod i weithio ychydig oriau’n ychwanegol pan fydd angen, ond mae llawer gormod o gyflogwyr yn cymryd mantais.

“Mae gorweithio staff yn niweidiol i gynhyrchiant, mae’n achosi straen i weithwyr ac yn eu blino ac mae’n dwyn yr amser y dylent fod yn ei dreulio â theulu a ffrindiau.

“Dylai cyflogwyr sy’n dwyn amser pobl wynebu’r canlyniadau. Felly rydym yn galw am hawliau newydd i sicrhau y gellir dwyn cyflogwyr sy’n torri’r rheolau ar amser gweithio gerbron tribiwnlys cyflogaeth.” 

Nodyn y golygyddion

Nodiadau i olygyddion:

  • I nodi Diwrnod Gweithio eich Oriau Cywir, mae TUC Cymru yn annog gweithwyr i gymryd amser cinio iawn a gadael eu gwaith ar amser. Dylai cyflogwyr fabwysiadu arferion da a chymryd camau i leihau oriau goramser di-dâl.
  • Dylai Llywodraeth y DU fynd ati i orfodi gwyliau blynyddol statudol, amseroedd egwyl a’r hawl i beidio gweithio mwy na chyfartaledd o 48 awr yr wythnos. Dylai’r hawliau hyn gael eu gorfodi drwy gwyno i asiantaeth orfodi’r llywodraeth a thrwy fynd ag achos gerbron Tribiwnlys Cyflogaeth. Mae’r system dau gyfrwng hon yn cael ei defnyddio eisoes i orfodi’r isafswm cyflog cenedlaethol, sy’n bolisi pwysig. Nid yw’r system fel y mae ar hyn o bryd yn gweithio. Er enghraifft, awdurdodau lleol yn unig sydd â’r hawl i orfodi’r wythnos 48 awr mewn siopau a swyddfeydd, ond ni allant wneud dim yn ei gylch am nad es ganddynt yr adnoddau i gyflawni’r rôl.
  • Dylai Llywodraeth y DU dargedu gwaith sy’n talu cyflogau isel wrth orfodi’r isafswm cyflog cenedlaethol. Lle bydd cyflogwyr angen i staff cyflogedig weithio oriau ychwanegol, dylai’r amser hwn gyfrif tuag at y cyfrifiad o’r isafswm cyflog cenedlaethol.

Prif ganfyddiadau

  • Rhywedd: Mae astudiaeth TUC Cymru’n dangos bod dynion yn gweithio ychydig dros biliwn o oriau o oramser di-dâl y flwyddyn, (1,048 miliwn o oriau) o’i gymharu â 0.9 biliwn o oriau yn achos menywod (908 miliwn o oriau). Mae mwy nag 1 o bob 6 (18.0%) o ddynion wedi gweithio goramser yn ddi-dâl, sy’n gyfartaledd o 8.0 awr yr wythnos. Roedd canran debyg o fenywod (18.4%) hefyd yn gweithio oriau di-dâl. Er bod llawer o fenywod yn gweithio’n rhan amser mae cyfartaledd y rhai sy’n gweithio goramser yn ddi-dâl yn 7.0 awr yr wythnos.
  • Y sector cyhoeddus: Yng Nghymru a Lloegr, roedd 1 o bob 4 gweithiwr yn y sector cyhoeddus (25.3%) wedi gweithio goramser yn ddi-dâl, o’i gymharu â thua 1 o bob 6 cyflogai yn y sector preifat (15.8%). Roedd gweithwyr sector cyhoeddus wedi cyfrannu £12.0 biliwn mewn goramser di-dâl y llynedd. Mae gweithwyr sector cyhoeddus yn cyfrif am chwarter (25.2%) yn unig o gyfanswm y gweithwyr ond maent yn gweithio mwy na thraean (35.3%) o’r holl oramser di-dâl.
  • Galwedigaethau: Athrawon a gweithwyr addysg proffesiynol sy’n gweithio fwyaf o oriau di-dâl ar gyfartaledd bob wythnos (12.1 awr). Mae prif weithredwyr yn ail agos (11.4 awr yr wythnos), gyda gweithwyr cyfreithiol yn drydydd (10.2 awr), rheolwyr lletygarwch ac arlwyo (9.7 awr), rheolwyr gweithredol fel rheolwyr ariannol, marchnata a phersonél (9.2 awr) a rheolwyr sefydliadau manwerthu, hamdden, ariannol a chynhyrchu (8.9 awr i gyd).

Tabl 1 – Goramser di-dâl yn ôl rhanbarth a gwerth

Cenedl / rhanbarth

Nifer sy’n gweithio goramser di-dâl

Cyfran sy’n gweithio goramser di-dâl

Oriau wythnosol cyfartalog o oramser di-dâl

Cyflog gros yr awr

Cyfanswm gwerth yr wythnos (£000 oedd)

Cyfanswm gwerth y flwyddyn (£m)

Gwerth blynyddol fesul gweithiwr

Cymru

164,000

12.9%

7.6

£14.40

18,021

937

£5,704

Y DU

5,014,000

18.2%

7.5

£16.75

628,395

32,677

£6,532

Tabl 3 – goramser di-dâl ar gyfer galwedigaethau gyda’r nifer cyfartalog o oriau di-dâl

Galwedigaeth

Nifer y cyflogeion sy’n gweithio goramser di-dâl

Canran sy’n gweithio goramser di-dâl

Cyfanswm yr oriau di-dâl

Addysgu a gweithwyr addysgol proffesiynol

735,000

52.5%

12.1

Prif Weithredwyr

41,000

39.5%

11.4%

Gweithwyr cyfreithiol proffesiynol

69,000

42.5%

10.2

Rheolwyr lletygarwch ac arlwyo

40,000

17.6%

9.7

Rheolwyr gweithredol*

374,000

40.4%

9.2

Rheolwyr cynhyrchu

133,000

32.1%

8.9

Rheolwyr mewn manwerthu a hamdden

88,000

32.7%

8.9

Rheolwyr sefydliadau ariannol

35,000

42.3%

8.9

Uwch swyddogion yn y gwasanaethau amddiffyn

15,000

28.4%

8.7

Gweithwyr llesiant proffesiynol

50,000

31.3%

8.5

Ffynhonnell: Roedd dadansoddiad TUC Cymru yn defnyddio data heb ei gyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol o’r Arolwg o’r Llafurlu (Gorffennaf-Medi 2018) a’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (2018)

*Rheolwyr gweithredol: rheolwyr ariannol, cyfarwyddwyr marchnata a gwerthu, rheolwyr prynu, cyfarwyddwyr hysbysebu a chysylltiadau cyhoeddus, rheolwyr adnoddau dynol, rheolwyr TG.


TUC Cymru yw llais Cymru yn y gwaith. Gyda 49 o undebau’n aelodau, mae TUC Cymru’n cynrychioli dros 400,000 o weithwyr. Rydym yn ymgyrchu dros fargen deg yn y gwaith ac am gyflawnder cymdeithasol gartref a thramor.

Cysylltiadau:

Swyddfa’r wasg y TUC
media@tuc.org.uk
020 7467 1248

Niamh Mhaoileoin
nnimhaoileoin@tuc.org.uk
020 7467 1288
07771 713574

Emma Bean
ebean@tuc.org.uk
020 7467 1257
07725 144 696

Tim Nichols
tnichols@tuc.org.uk
020 7467 1388
078 0876 1844

Wales TUC Cymru

wtuc@tuc.org.uk

029 2034 7010