Roedd cwmnïau yng Nghymru wedi elwa ar £937 miliwn o lafur di-dâl y llynedd am fod gweithwyr yn gweithio goramser yn ddi-dâl, yn ôl dadansoddiad newydd o ystadegau swyddogol a gyhoeddwyd heddiw (Gwener) gan TUC Cymru.
Gweithiodd dros 160,000 o bobl gyfartaledd o 7.6 awr yr wythnos mewn goramser di-dâl yn ystod 2018. Ar gyfartaledd, mae hynny’n gyfystyr â chymryd £5,704 allan o gyflogau unigol.
Heddiw yw 15fed Diwrnod Gweithio eich Oriau Cywir blynyddol y TUC, sy’n nodi’r ffaith bod y gweithiwr cyfartalog sy’n gweithio goramser di-dâl i bob pwrpas wedi gweithio’r flwyddyn am ddim hyd yma.
Meddai Swyddog Polisi TUC Cymru Nisreen Mansour:
“Nid yw’n deg bod cyflogwyr yn dwyn amser eu gweithwyr.
“Mae llawer ohonom yn barod i weithio ychydig oriau’n ychwanegol pan fydd angen, ond mae llawer gormod o gyflogwyr yn cymryd mantais.
“Mae gorweithio staff yn niweidiol i gynhyrchiant, mae’n achosi straen i weithwyr ac yn eu blino ac mae’n dwyn yr amser y dylent fod yn ei dreulio â theulu a ffrindiau.
“Dylai cyflogwyr sy’n dwyn amser pobl wynebu’r canlyniadau. Felly rydym yn galw am hawliau newydd i sicrhau y gellir dwyn cyflogwyr sy’n torri’r rheolau ar amser gweithio gerbron tribiwnlys cyflogaeth.”
Nodiadau i olygyddion:
Prif ganfyddiadau
Tabl 1 – Goramser di-dâl yn ôl rhanbarth a gwerth
Cenedl / rhanbarth |
Nifer sy’n gweithio goramser di-dâl |
Cyfran sy’n gweithio goramser di-dâl |
Oriau wythnosol cyfartalog o oramser di-dâl |
Cyflog gros yr awr |
Cyfanswm gwerth yr wythnos (£000 oedd) |
Cyfanswm gwerth y flwyddyn (£m) |
Gwerth blynyddol fesul gweithiwr |
Cymru |
164,000 |
12.9% |
7.6 |
£14.40 |
18,021 |
937 |
£5,704 |
Y DU |
5,014,000 |
18.2% |
7.5 |
£16.75 |
628,395 |
32,677 |
£6,532 |
Tabl 3 – goramser di-dâl ar gyfer galwedigaethau gyda’r nifer cyfartalog o oriau di-dâl
Galwedigaeth |
Nifer y cyflogeion sy’n gweithio goramser di-dâl |
Canran sy’n gweithio goramser di-dâl |
Cyfanswm yr oriau di-dâl |
Addysgu a gweithwyr addysgol proffesiynol |
735,000 |
52.5% |
12.1 |
Prif Weithredwyr |
41,000 |
39.5% |
11.4% |
Gweithwyr cyfreithiol proffesiynol |
69,000 |
42.5% |
10.2 |
Rheolwyr lletygarwch ac arlwyo |
40,000 |
17.6% |
9.7 |
Rheolwyr gweithredol* |
374,000 |
40.4% |
9.2 |
Rheolwyr cynhyrchu |
133,000 |
32.1% |
8.9 |
88,000 |
32.7% |
8.9 |
|
Rheolwyr sefydliadau ariannol |
35,000 |
42.3% |
8.9 |
Uwch swyddogion yn y gwasanaethau amddiffyn |
15,000 |
28.4% |
8.7 |
Gweithwyr llesiant proffesiynol |
50,000 |
31.3% |
8.5 |
Ffynhonnell: Roedd dadansoddiad TUC Cymru yn defnyddio data heb ei gyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol o’r Arolwg o’r Llafurlu (Gorffennaf-Medi 2018) a’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (2018)
*Rheolwyr gweithredol: rheolwyr ariannol, cyfarwyddwyr marchnata a gwerthu, rheolwyr prynu, cyfarwyddwyr hysbysebu a chysylltiadau cyhoeddus, rheolwyr adnoddau dynol, rheolwyr TG.
TUC Cymru yw llais Cymru yn y gwaith. Gyda 49 o undebau’n aelodau, mae TUC Cymru’n cynrychioli dros 400,000 o weithwyr. Rydym yn ymgyrchu dros fargen deg yn y gwaith ac am gyflawnder cymdeithasol gartref a thramor.
Cysylltiadau:
Swyddfa’r wasg y TUC
media@tuc.org.uk
020 7467 1248
Niamh Ní Mhaoileoin
nnimhaoileoin@tuc.org.uk
020 7467 1288
07771 713574
Emma Bean
ebean@tuc.org.uk
020 7467 1257
07725 144 696
Tim Nichols
tnichols@tuc.org.uk
020 7467 1388
078 0876 1844
Wales TUC Cymru
029 2034 7010