Dyddiad cyhoeddi
Mae Undebau yng Nghymru yn lansio ymchwiliad i’r aflonyddu rhywiol y mae gweithwyr yn ei wynebu yn y gwaith. Cam cyntaf y gwaith hwn yw arolwg newydd, a lansiwyd heddiw gan y corff undebau, TUC Cymru. Nod yr arolwg yw cael rhagor o wybodaeth gan y rheini sydd wedi cael profiad o aflonyddu rhywiol yn y gwaith.

Mae’r arolwg yn cael ei lansio yn sgil y cynnydd a welwyd yn ystod pandemig Covid-19 yn nifer y gweithwyr oedd yn rhoi gwybod i’w hundebau am aflonyddu rhywiol yn y gwaith.

Mae rhai gweithwyr wedi rhoi gwybod am gydweithwyr yn gwneud sylwadau amhriodol am weld y tu mewn i’w hystafelloedd gwely neu am benaethiaid yn gwneud gofynion afresymol o ran yr hyn y dylent ei wisgo ar gamera. Mae gweithwyr eraill wedi derbyn sylwadau amhriodol drwy grwpiau Whatsapp staff. Mae diogelwch gweithwyr hefyd wedi cael ei roi mewn perygl yn ystod y pandemig yn sgil rheoliadau Covid oedd yn golygu bod rhai gweithwyr yn gorfod bod mewn gweithle ochr yn ochr â’r sawl oedd yn gyfrifol ond mewn grwpiau llai nag arfer.

Bydd canfyddiadau arolwg TUC Cymru yn cael eu defnyddio i greu adnoddau newydd ar gyfer cynrychiolwyr undebau ac i ymgyrchu dros roi terfyn ar aflonyddu rhywiol i bawb.

Mae’r arolwg yn agored i bawb sy’n gweithio yng Nghymru, nid dim ond i aelodau undebau. Mae ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ac mae pob ymateb yn gwbl ddienw.

Dywedodd Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru: “Mae aflonyddu rhywiol yn y gweithle yn gwbl annerbyniol. Ond rydyn ni’n gwybod bod rhai cyflogwyr yn anwybyddu ymddygiad gwael neu’n gadael iddo barhau heb ei herio. Sawl gwaith ydyn ni wedi clywed aflonyddu rhywiol yn y gweithle yn cael ei ddisgrifio fel ‘ychydig o hwyl’?  Sawl gwaith ydyn ni wedi clywed ‘dim ond jôc oedd hi, doedden nhw ddim yn ei feddwl o go iawn’?

Mae’r mudiad undebau llafur yn gwbl hanfodol i gael gwared ar yr ymddygiad hwn. Bydd canlyniadau ein harolwg newydd ar aflonyddu rhywiol yn ein helpu i roi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gynrychiolwyr i roi stop ar dramgwyddwyr o’r fath a gwella diogelwch a lles meddyliol pobl yn y gwaith.”

Dywedodd Charlotte Archibald, Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgyrchoedd Cymorth i Fenywod Cymru: “Rydyn ni’n falch o gefnogi gwaith TUC Cymru i herio aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Mae gan bawb yr hawl i weithio mewn amgylchedd diogel lle maen nhw’n cael eu parchu, ond i lawer o fenywod, nid felly y mae mewn gwirionedd. Bydd gan lawer gormod o fenywod eu stori eu hunain am aflonyddu rhywiol, o ba mor ddiraddiol, dilornus a pheryglus oedd y profiadau roedden nhw wedi’u cael. Pan fydd pobl yn y gweithle yn dibrisio neu’n gwrthod credu profiadau o'r fath, mae’n cyfrannu at ddiwylliant ehangach sy’n normaleiddio trais a cham-drin yn erbyn menywod.

Y llynedd, lansiodd Cymorth i Fenywod Cymru yr ymgyrch ‘Dim Ardal Lwyd’ i dynnu sylw at weithleoedd lle ceir amgylchedd gwenwynig sy’n galluogi aflonyddu rhywiol i ffynnu. Mae’n destun pryder bod 4 o bob 5 o'r menywod a ymatebodd i'n hymgyrch wedi goroesi aflonyddu rhywiol yn y gweithle. Bydd y gwaith y mae TUC Cymru yn ei wneud i gael darlun clir o raddfa ac effaith aflonyddu rhywiol, ac i roi'r adnoddau i Gynrychiolwyr ddarparu’r cymorth a’r arweiniad angenrheidiol, yn ased enfawr o ran gwneud gweithleoedd yn fwy diogel i bawb.”