Dyddiad cyhoeddi
Heddiw (dydd Mawrth 15 Rhagfyr), mae TUC Cymru wedi galw ar benaethiaid i ddiogelu iechyd meddwl gweithwyr. Mae hwn yn dod ar yr un diwrnod y mae’r corff undeb llafur yn lansio pecyn cymorth newydd gyda'r nod o wella iechyd meddwl yn y gweithle.

Wrth i weithwyr ddod i ddiwedd blwyddyn eithriadol o anodd, mae TUC Cymru yn dweud ei bod yn bwysig i benaethiaid ddiogelu iechyd meddwl gweithwyr drwy fesurau fel cyflogau gweddus, telerau ac amodau priodol, hyfforddiant a chymorth.

Mae TUC Cymru wedi galw ar undebau llafur i siarad efo cyflogwyr am y ffordd y maent yn trin staff ac yn galw am weithleoedd i drin gweithwyr ag urddas a pharch.

Lansiwyd y pecyn cymorth 'Iechyd Meddwl a'r Gweithle' heddiw mewn digwyddiad ar-lein gyda'r siaradwr gwadd Eluned Morgan MS, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Lles a'r Gymraeg.

Mae'r pecyn cymorth wedi'i anelu at gynrychiolwyr undebau a gweithwyr. Bydd yn darparu gwell gwybodaeth, ymwybyddiaeth a chynrychiolaeth i weithwyr sy'n profi problemau iechyd meddwl.

Bydd y pecyn cymorth yn helpu cynrychiolwyr undebau a gweithwyr i adnabod a mynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r gweithle ac mae'n darparu offer a syniadau ar iechyd a diogelwch yn  y gweithle, cydraddoldeb a hunanofal.

Lawrlwythwch y pecyn cymorth Iechyd Meddwl

Dywed Shavanah Taj, Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru:

"Ni fu lansio adnodd wedi'i anelu at iechyd meddwl gweithwyr erioed mor bwysig.  Mae’r pandemig Covid-19 wedi dangos i ni pa mor galed y mae ein gweithwyr rheng flaen yn y GIG, Gofal Cymdeithasol a gweithwyr allweddol eraill wedi gweithio i gadw'r wlad i redeg, ond os nad ydym yn gofalu am iechyd meddwl gweithwyr byddant yn dioddef.

"Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anodd i ni i gyd, gan gynnwys gweithwyr sydd wedi cael eu rhoi ar ffyrlo, y rhai sydd wedi colli eu swydd/swyddi, gweithwyr allweddol, gweithwyr llawrydd, gweithwyr hunangyflogedig a gweithwyr economi gig.

"Mae pawb wedi wynebu heriau newydd ac anodd ac mae angen i'n cyflogwyr a'n gweithleoedd gydnabod bod ganddynt rôl enfawr i'w chwarae o ran diogelu ac ailadeiladu iechyd meddwl gweithwyr."

Nodyn y golygyddion

Nodiadau i olygyddion:

Gweithiodd TUC Cymru mewn partneriaeth â Platfform, elusen iechyd meddwl blaenllaw yng Nghymru, i greu'r pecyn cymorth newydd yma.

Mae TUC Cymru yn bodoli i wneud y byd gwaith yn lle gwell i bawb. Rydym yn dod â mwy na 400,000 o bobl sy'n gweithio yng Nghymru at ei gilydd trwy ein 28 undebau cysylltiedig. Yr ydym yn cefnogi undebau i dyfu a ffynnu, ac yr ydym yn sefyll dros bawb sy'n gweithio i fyw.

Lawrlwythwch y pecyn cymorth Iechyd Meddwl

Cysylltiadau â'r wasg TUC Cymru:

E-bost: fdean@tuc.org.uk

Ffôn: 07770 384363