Bydd llawer ohonom ni’n cael problemau iechyd meddwl, ond mae’n dal yn faes lle mae diffyg cydraddoldeb â phroblemau iechyd corfforol.
Rydyn ni am newid hynny.
I bobl sydd â heriau iechyd meddwl, gall gwaith ddarparu cysylltiadau hollbwysig â chymuned ehangach, yn ogystal â bod yn rhan bwysig o gynnal llesiant iechyd meddwl neu fel rhan o adferiad.
Gall gwaith fod yn un o’r ffactorau pwysicaf ar gyfer iechyd meddwl, a gall hybu iechyd meddwl yn gadarnhaol helpu i gynyddu bodlonrwydd, effeithlonrwydd a chynhyrchiant yn y gwaith yn ogystal â chyfrannu at ddatblygiad personol a phroffesiynol.
I’r gwrthwyneb, mae straen sy’n gysylltiedig â gwaith, bwlio ac ystyriaeth wael i iechyd meddwl gweithwyr yn cael effaith negyddol ar y gweithlu cyfan a gall achosi absenoldeb, trosiant staff uchel, diwylliant o bresenoliaeth a cholli cynhyrchiant ymysg gweithwyr.
Gall gwaith fod yn dda i’n hiechyd meddwl, ond dim ond pan fydd yn waith da. Mae hyn yn golygu cyflog teg, gallu i wneud newidiadau, telerau ac amodau ffafriol a glynu’n briodol wrth ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch. Yn ogystal â pharch, ystyried dyletswydd gofal a thriniaeth deg a chyfartal.
Mae iechyd meddwl yn rhan bwysig o’n gwaith fel undebwyr llafur. Mae’n hanfodol i’r ffordd rydyn ni'n deall ac yn dehongli iechyd a diogelwch, ymddygiad yn y gwaith, perfformiad a datblygiad, perthnasoedd yn y gweithle, materion cydraddoldeb, iechyd gwael, dysgu a hyfforddiant, democratiaeth yn y gweithle undebau a llawer mwy.
Mae gan gynrychiolwyr undebau yn y gweithle rôl hollbwysig i’w chwarae o ran codi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl fel mater yn y gweithle, yn ogystal â chefnogi aelodau sydd â phroblemau iechyd meddwl yn y gweithle a chyfeirio aelodau at ffynonellau pellach o gymorth ac arweiniad.
Mae ein pecyn cymorth newydd ar Iechyd Meddwl a'r Gweithle wedi'i anelu at gynrychiolwyr a gweithwyr undebau. Bydd yn darparu gwell gwybodaeth, ymwybyddiaeth a chynrychiolaeth i weithwyr sy'n profi problemau iechyd meddwl.
Bydd y pecyn cymorth yn helpu cynrychiolwyr undebau a gweithwyr i adnabod a mynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r gweithle ac mae'n darparu offer a syniadau ar iechyd a diogelwch yn y gweithle, cydraddoldeb a hunanofal.
Lawr lwythwch ein pecyn cymorth (yn Saesneg - mae Cymraeg yn dod yn fuan)
Gwyliwch lansiad ar-lein ein pecyn cymorth gyda chyfraniadau gan Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg Eluned Morgan yn ogystal â chynrychiolwyr a swyddogion o undebau llafur.
Roedd Natalia wedi profi problemau iechyd meddwl ers ei harddegau. Pan ddechreuodd weithio yn RF Brookes, cafodd gefnogaeth drwy ei hundeb a'i chyflogwr sydd wedi newid ei bywyd. Gwyliwch stori Natalia, a chlywed sut addasodd tîm Adnoddau Dynol RF Brookes i gyflwyno cymorth iechyd meddwl hanfodol.
Rydym yn hynod ddiolchgar i weithwyr RF Brookes am siarad yn agored am eu hiechyd meddwl.
Gweler y dolenni a'r sefydliadau isod am gymorth gyda materion iechyd meddwl.
Mind Cymru
Ni yw Mind Cymru, yr elusen iechyd meddwl.
Rydyn ni’n gymuned ddi-baid o bobl yng Nghymru na fydd yn rhoi’r gorau iddi nes bydd pawb sy’n wynebu problem iechyd meddwl yn cael y gefnogaeth a’r parch maen nhw’n eu haeddu. Ynghyd â’n 20 mudiad Mind lleol yng Nghymru, rydyn ni wedi ymrwymo i wella iechyd meddwl yn y wlad hon. Gyda’n gilydd, ni yw Mind yng Nghymru.
Un o’r prif Elusennau Iechyd Meddwl yng Nghymru
Rydyn ni’n elusen annibynnol, dielw ac anwleidyddol sy’n gweithio gyda phobl sydd â phroblem iechyd meddwl, mudiadau gwirfoddol eraill a gwasanaethau statudol i hyrwyddo llesiant meddyliol. Ein nod yw sicrhau bod ystod gynhwysfawr o wasanaethau iechyd meddwl ar gael ledled Cymru.
Ein hamcan yw cefnogi pobl i wneud newidiadau parhaol yn y rhannau o’u bywydau sydd ddim yn gweithio iddynt ar hyn o bryd. Ein nod yw rhoi’r cymorth gorau i bobl y mae iechyd meddwl yn effeithio arnynt, eu teuluoedd a’u gofalwyr.
Hafal
Mae Hafal yn Elusen dan arweiniad Aelodau sy’n cefnogi pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, eu gofalwyr a'u teuluoedd – gyda phwyslais arbennig ar y rhai sydd â salwch meddwl difrifol. Rydyn ni hefyd yn cefnogi pobl eraill sydd ag amrywiaeth o anableddau, eu gofalwyr a’u teuluoedd.
Mae ein gwasanaethau, sy’n berthnasol i bob rhan o Gymru, yn seiliedig ar Raglen Adfer unigryw. Mae’n seiliedig ar egwyddorion modern hunanreoli a grymuso, ac mae’n cynnig ffordd drefnus o gyflawni adferiad drwy ganolbwyntio ar bob agwedd ar fywyd.
Ar gyfer iechyd meddwl a newid cymdeithasol
Rydyn ni’n gweithio gyda phobl sy’n wynebu heriau gyda’u hiechyd meddwl, a gyda chymunedau sydd eisiau creu mwy o ymdeimlad o gysylltiad, perchnogaeth a llesiant yn y llefydd maen nhw’n byw.
Mae nifer o adroddiadau wedi tynnu sylw at y ffaith, er bod gorgynrychiolaeth o oedolion o gefndir du a lleiafrifoedd ethnig (BME) yn y gwasanaethau iechyd meddwl, nad oes digon o bobl ifanc o gefndir du a lleiafrifoedd ethnig yn defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl. Hefyd, mae pobl o gefndir du a lleiafrifoedd ethnig yn llai tebygol o gael eu cyfeirio gan feddyg teulu am gymorth er bod hyn yn arwain at ganrannau uwch na'r cyfartaledd yn nes ymlaen yn cael eu derbyn i'r ysbyty gyda phroblemau iechyd meddwl cronig.
Fel rhan o genhadaeth Diverse Cymru, rydyn ni’n ymdrechu i wneud gwahaniaethau cadarnhaol yn yr ystadegau hyn. Rydyn ni’n defnyddio ein safle i godi ymwybyddiaeth yng nghymunedau du a lleiafrifoedd ethnig Cymru ac ymysg gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o’r materion a’r rhwystrau ychwanegol sy’n wynebu pobl o gefndir du a lleiafrifoedd ethnig o ran cael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl.
Rydyn ni eisiau i bobl deimlo’n hyderus ac yn gyfforddus wrth ddefnyddio gwasanaethau, ac i ymarferwyr gofal iechyd deimlo’n fwy gwybodus wrth wynebu cymhlethdodau’r materion y mae rhai pobl o gefndir du a lleiafrifoedd ethnig yn eu hwynebu wrth geisio cymorth.
Mae'n cynnig cymorth a chyngor ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Yr elusen genedlaethol yng Nghymru sy’n gweithio i roi diwedd ar gam-drin domestig a phob math o drais yn erbyn menywod yw Cymorth i Ferched Cymru. Rydyn ni’n ffederasiwn o sefydliadau arbenigol yng Nghymru (sy’n gweithio fel rhan o rwydwaith o wasanaethau yn y DU) sy’n darparu gwasanaethau achub bywydau i bobl sydd wedi goroesi trais a chamdriniaeth – menywod, dynion, plant, teuluoedd – ac sy’n darparu amrywiaeth o wasanaethau ataliol arloesol mewn cymunedau lleol.
Rydyn ni wedi bod ar flaen y gad o ran siapio ymatebion ac arferion cymunedol cydlynol yng Nghymru ers i ni gael ein sefydlu yn 1978. Rydyn ni’n gwneud hyn drwy ymgyrchu dros newid a rhoi cyngor, ymgynghoriaeth, cefnogaeth a hyfforddiant i gyflwyno gwelliannau polisi a gwasanaeth i oroeswyr, teuluoedd a chymunedau.
Gall byw gyda salwch neu gyflwr iechyd meddwl fod yn brofiad unig a heriol. Mae’r wefan hon yn lle i gael cefnogaeth, dysgu am anhwylderau iechyd meddwl gwahanol, darllen am brofiadau eraill a chael gwybodaeth am ble i gael cymorth – i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Ffôn: 08457 90 90 90 (24 awr y dydd)
E-bost jo@samaritans.org
Mae’n rhoi cefnogaeth emosiynol gyfrinachol, anfeirniadol i bobl sy’n profi trallod neu anobaith, gan gynnwys y teimladau a allai arwain at hunanladdiad. Gallwch ffonio, e-bostio, ysgrifennu llythyr neu, yn y rhan fwyaf o achosion, siarad â rhywun wyneb yn wyneb.
Llinell Wrando a Chymorth Cymunedol (CALL)
Ffôn 0800 132 737
Cynnig cefnogaeth emosiynol a gwybodaeth/llenyddiaeth ar Iechyd Meddwl a materion sy’n ymwneud â phobl Cymru. Gall unrhyw un sy’n poeni am ei iechyd meddwl ei hun neu iechyd meddwl perthynas neu ffrind gael mynediad at y gwasanaeth. C.A.L.L. Mae’r Llinell Gymorth yn cynnig gwasanaeth gwrando a chefnogi cyfrinachol.
Ffôn 0845 4647
Cyngor ar iechyd 24 awr y dydd, drwy gydol y flwyddyn
Ffôn: 0808 80 23456 (8am – hanner nos, saith niwrnod yr wythnos)
Testun: 84001
Gwasanaeth llinell gymorth cyfrinachol am ddim i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru yw Meic. Gallwch eu ffonio, anfon neges destun neu neges wib atyn nhw yn Gymraeg neu’n Saesneg i gael cymorth, cyngor a gwybodaeth.
Ffôn 0845 767 8000 (6pm-11pm)
Mae Saneline yn llinell gymorth iechyd meddwl genedlaethol sy’n rhoi gwybodaeth a chefnogaeth i bobl â phroblemau iechyd meddwl a’r rheini sy’n eu cefnogi. Os ydych chi'n ofalwr y mae angen cymorth arnoch, gallwch gysylltu â'r mudiadau uchod i gyd yn ogystal â Carers Direct ac Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol i Ofalwyr. Gall y ddau ohonynt roi cefnogaeth a chyngor ar unrhyw faterion sy'n effeithio arnoch chi.
Ffôn: 0800 1111
Mae Childline yn wasanaeth cyfrinachol am ddim sydd ar gael i unrhyw un dan 19 oed yn y DU. P’un ai a yw’n rhywbeth mawr neu’n rhywbeth bach, mae eu cwnselwyr hyfforddedig yno i’ch cefnogi ar unrhyw adeg, ddydd neu nos.