Dyddiad cyhoeddi
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad heddiw ar ailagor y sector lletygarwch dan do a chyfleusterau ymarfer corff awyr agored, dywedodd Ysgrifennydd Cyffredinol TUC Cymru, Shavanah Taj:

“Rydym yn croesawu cyhoeddiadau Llywodraeth Cymru heddiw, sy’n adleisio ein galwadau yn gynharach yr wythnos hon.

Mae gweithwyr lletygarwch ledled Cymru yn pryderu am eu rhagolygon cyflogaeth yn y dyfodol ac am golli eu swyddi. Bydd cyhoeddiad heddiw yn rhoi lefel o sicrwydd i'r sector ac yn helpu atal diswyddiadau yn y dyfodol.

Mae TUC Cymru yn cefnogi dull Llywodraeth Cymru o weithredu yn seiliedig ar dystiolaeth. Rhaid i ddiogelwch gweithwyr barhau i fod yn brif flaenoriaeth. Ni ddylid rhoi unrhyw weithiwr mewn perygl er mwyn i fusnes oroesi. Rhaid i'r holl fusnesau perthnasol gynnal asesiad risg Covid-19 penodol, a rhoi mesurau diogelwch priodol mewn lle. Bydd gwneud y wybodaeth yma ar gael i’r cyhoedd yn rhoi’r hyder i bobl dod allan i gefnogi’r sector allweddol hyn sy’n cyflogi llawer o weithwyr ifanc a menywod. 

Rydym yn ailadrodd bod offer diogelwch personol (PPE), y strategaeth Profi, Olrhain, Diogelu (gyda chymorth ariannol i'r rhai sydd yn hunan-ynysu), mynediad i undebau llafur, cynrychiolwyr iechyd a diogelwch, a gorfodi rheolau iechyd a diogelwch a gwaith teg  yn allweddol i lwyddiant ailagor.”